Neidiwch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth ffilm fer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd Yn Fwy Diogel 

Mae Mike O'Hara, hyfforddwr digidol a beirniad y gystadleuaeth, yn rhoi ei sylwadau ar y gystadleuaeth eleni i hyrwyddo parch ar-lein yng Nghymru

Fel rhan o Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022, lansiodd tîm Hwb Llywodraeth Cymru gystadleuaeth ffilm fer ar gyfer plant oed ysgol gynradd ac uwchradd – a chefais i’r fraint o gynrychioli Cymunedau Digidol Cymru fel aelod o banel beirniadu Hwb!  

Thema’r ffilmiau byrion eleni oedd ‘Parchwch fi. Fy rhyngrwyd, fy hawliau‘. Anogwyd y rhai a oedd yn cystadlu i fynegi eu creadigrwydd wrth rannu eu dealltwriaeth o barch ar-lein, drwy greu ffilm fer 2 funud o hyd neu lai.  

Os yw’r pandemig wedi dangos unrhyw beth i ni, bod angen y rhyngrwyd arnom yn fwy nag erioed i gysylltu â’n ffrindiau, teulu, athrawon a chyd-ddisgyblion ysgol yw hynny. Dyma’r ffordd gyflymaf o ddod o hyd i newyddion a gwybodaeth, ac mae gemau a mannau cydweithredol ar-lein eraill wedi’n galluogi i deimlo’n gysylltiedig ac ymgysylltiedig â’n gilydd, hyd yn oed pan oedd yn ymddangos bod y byd y tu allan wedi dod i stop. Adroddodd Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ein bod wedi chwarae gemau ar-lein 77% yn amlach yn ystod y pandemig diweddar! 

Wrth i ni dreulio mwy o amser ar-lein, yn naturiol, mae’r peryglon amrywiol yn cynyddu. Mae dilyn ymgyrchoedd fel Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn golygu ein bod yn fwy ymwybodol o’r negyddiaeth sy’n bodoli yn y mannau hyn gan helpu i arwain drwy esiampl er mwyn creu gwell rhyngrwyd i bawb! 

Ar ôl gwylio’r ceisiadau fideo ar gyfer cystadleuaeth ffilm fer Hwb, roedd hi mor galonogol gweld fod gan blant syniad pur dda o sut beth yw parch ar-lein, er enghraifft, os na fyddech yn dweud pethau cas wrth berson wyneb yn wyneb, ni ddylech wneud hynny ar-lein ‘chwaith! Rhoddodd pob fideo awgrymiadau gwych ar gyfer sut i gadw’n ddiogel a pharchu pobl ar-lein. Roeddem yn teimlo’n gadarnhaol dros ddyfodol diogelwch ar y rhyngrwyd yn nwylo’r genhedlaeth nesaf. 

Roedd yn gymaint o anrhydedd bod yn aelod o’r panel, ac mor gyffrous gwylio’r gwahanol fideos.  Fe wnaeth bawb a gymerodd rhan waith gwych, a dylai pawb fod yn falch o’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni. Fodd bynnag, yn y pen draw, roedd y panel yn unfrydol yn ei benderfyniad, ond rwy’n siŵr, pan welwch y ceisiadau buddugol, y byddwch yn cytuno eu bod i gyd wedi gwneud gwaith rhagorol o hyrwyddo’r neges ‘Parchwch fi. Fy rhyngrwyd, fy hawliau‘.

Er bod dathliadau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel eleni bron ar ben, mae’n bwysig gwybod sut i fod yn ddiogel ar-lein drwy gydol y flwyddyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â gwefan Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU i gael cyngor defnyddiol ar faterion ar-lein sy’n wynebu plant o fwlio a gemau i ffugwybodaeth a gorfodaeth.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwylio’r ffilmiau buddugol o’r categorïau oedran ysgol Gynradd ac Uwchradd isod!

Wedi’i ysgrifennu gan Mike O’Hara, Hyfforddwr Cynhwysiant Digidol yn Nghymunedau Digidol Cymru.

Video length: 13:23