Neidiwch i’r prif gynnwys

Tenantiaid First Choice yn elwa ar 197 o ddyfeisiau digidol newydd

Dewch i weld o lygad y ffynnon beth oedd gan fuddiolwyr y cynllun i’w ddweud am eu dyfeisiau newydd yn y ffilm isod

Mae gan Gymdeithas Tai First Choice (FCHA) le pwysig iawn yn y sector tai yng Nghymru. Mae gan y sefydliad agwedd drugarog tuag at dai, a’i genhadaeth yw gwella bywydau drwy ddarparu cartrefi â dyluniad o ansawdd uchel i bobl sydd ag ystod o anghenion arbenigol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhai sydd ag anabledd. Mae’r datrysiadau tai pwrpasol a’r gefnogaeth y mae’r sefydliad yn ei darparu yn galluogi tenantiaid i gyflawni annibyniaeth, gwireddu eu potensial a mwynhau bywyd i’r eithaf. 

I ni yn Cymunedau Digidol Cymru (CDC), mae’r cyfle i gydweithio â FCHA yn gyfle gwych i barhau i hyrwyddo manteision technoleg ddigidol i un grŵp sydd wedi’i dangynrychioli’n ddigidol yng Nghymru’n benodol – y rhai ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor. 

Dywedodd Cadi Cliff, Rheolwr Rhaglenni yn CDC:  

“Er bod anghenion unigolion ag anableddau a chyflyrau iechyd hirdymor yn amrywio’n sylweddol, hoffem weld y grŵp yn elwa’n gyfunol ar y manteision cymdeithasol, economaidd ac iechyd y gall technoleg ddigidol eu cynnig. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod aelodau’r grŵp hwn tua 6% yn fwy tebygol na’r boblogaeth ehangach o gael eu hallgau’n ddigidol. Er bod teimlad clir bod angen gwella eu sgiliau digidol, rydym yn darganfod y gallai fod angen help ar rai unigolion i ddod o hyd i dechnolegau cynorthwyol a bod angen dangos y swyddogaethau hygyrchedd priodol iddynt ar ddyfeisiau poblogaidd.” 

Fel rhan o’r cynllun, darparodd CDC 197 o ddyfeisiau digidol i FCHA, a oedd yn cynnwys dyfeisiau Chromebook, iPad a tabledi Android. Yna, rhoddwyd y dyfeisiau, ynghyd â mynediad at adnoddau hyfforddiant sgiliau digidol CDC, i 200 o denantiaid, gyda rhai ohonynt yn dewis rhannu dyfais. Rhoddwyd 168 o ddyfeisiau i denantiaid sy’n byw mewn lleoliadau â chymorth, a rhoddwyd 29 o ddyfeisiau pellach i denantiaid nad ydynt yn cael cymorth. 

Gyda diddordeb mewn deall anghenion unigryw’r tenantiaid a sut byddai’r ddau grŵp yn manteisio ar eu dyfeisiau newydd, cynhaliwyd arolwg gwaelodlin ar gyfer pob grŵp, a oedd â’r nod o ddeall gallu tenantiaid i ddefnyddio’r dyfeisiau, yn ogystal â sut roeddent yn gweld eu hunain yn elwa ar eu technoleg newydd. 

Dywedodd David Bingham, Swyddog Tai yng Nghymdeithas Tai First Choice: 

“Fel sefydliad sy’n ymdrechu i hyrwyddo annibyniaeth a chynyddu cyfleoedd i denantiaid, roedd y cynnig hwn gan Cymunedau Digidol Cymru yn un enfawr i ni, gan fod iddo’r potensial i newid bywydau’r rhai dan sylw er gwell. Mae’r rhai sy’n rhan o’r cynllun yn gyffrous iawn i ddefnyddio eu dyfeisiau newydd i gadw mewn cysylltiad yn well â’u ffrindiau a theuluoedd, yn ogystal â datblygu diddordebau newydd a dysgu sgiliau newydd. Mae un tenant wedi dechrau cwrs gradd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda’r Brifysgol Agored, ond nid oedd yn gallu gwneud hynny tan nawr gan nad oedd ganddo liniadur i ddechrau ei astudiaethau.” 

Yma yn Cymunedau Digidol Cymru, byddwn yn cadw golwg ar sut mae tenantiaid Cymdeithas Tai First Choice yn dod yn eu blaenau â’u dyfeisiau newydd drwy gynnal arolwg arall â’r ddau grŵp ymhen ychydig fisoedd. Byddwn hefyd yn asesu effaith y cynllun, ynghyd â lle y gallwn gynnig rhagor o gymorth er mwyn i fuddiolwyr allu elwa’n llawn ar y bartneriaeth rhwng eu cymdeithas tai a Cymunedau Digidol Cymru.  

I gael gwybodaeth am sut i gefnogi eich cymuned drwy fenthyca dyfeisiau, edrychwch ar ganllaw CDC ar gynlluniau benthyca dyfeisiau sy’n amlinellu dull cam-wrth-gam i sefydlu eich cynllun eich hun.

I gael gwybodaeth am sut i gefnogi eich cymuned drwy fenthyca dyfeisiau, edrychwch ar ganllaw CDC ar gynlluniau benthyca dyfeisiau sy’n amlinellu dull cam-wrth-gam i sefydlu eich cynllun eich hun.

Llwythwch i lawr y canllaw
Cynllun Benthyg Dyfeisiau clawr blaen