Neidiwch i’r prif gynnwys

Y Gymraeg ar y We: Ein cyfrifoldeb i ddatblygu cynnwys a phlatfformau Cymraeg

Mae Deian ap Rhisiart, un o’n Ymgynghorwyr Cynhwysiant Digidol, yn siarad am adnoddau a chynnwys Cymraeg ac yn edrych tua'r dyfodol at ddefnyddio’r iaith ar-lein.

Tabled gyda chennin pedrGyda chyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn 1588 gan yr Esgob William Morgan ynghyd ȃ chyfieithiadau gramadeg John Davies, Mallwyd, mae haneswyr ar y cyfan yn gweld y digwyddiadau a’r cyfnod hwn yn hynod o arwyddocaol yn hanes a goroesiad yr Iaith Gymraeg. Yn ogystal a’r cerrig milltir hyn, gyda’i ysgolion cychlynnol yn y ddeunawfed ganrif, sicrhaodd Gruffudd Jones, Llanddowror fod llythrennedd yn cael ei gyflwyno i werin gwlad a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gan wibio mewn peiriant amser i’r ugeinfed ganrif, gwelwn yn 1960au ffrwydrad cerddoriaeth Gymraeg, gyda artistiaid blaenllaw fel Dafydd Iwan a Huw Jones yn esgori ar Sin Gerddoriaeth Gymraeg ffyniannus sydd dal gyda ni heddiw. Slogan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ers hynny yw ‘Popeth yn Gymraeg’.

Gan wibio ymlaen i’r unfed ganrif ar hugain, gwelwn chwyldro arall yn digwydd, y chwyldro digidol, ble bydd y Gymraeg yn gorfod esblygu a goroesi unwaith yn rhagor.

Er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn cofleidio’r byd digidol, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y blynyddoedd diweddar wedi galw am sefydlu menter iaith ddigidol er mwyn datblygu cynnwys trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, beth sydd ar gael ar hyn o bryd? Mae yna sicr fylchau ond ar y llaw arall mae yna hefyd doraith o gynnwys ar gael yn Gymraeg. Mae’n holl bwysig ein bod yn eu defnyddio! Dwi’n siwr eich bod yn gyfarwydd iawn gyda llawer o’r adnoddau a’r gwefannau sy’n bodoli eisoes.

O ran newyddion cyfoes, wrth gwrs, fe ellir darllen gwefan Golwg360 neu Bro360 i ddarllen newyddion o’ch milltir sgwar. Mae Lleol.cymru yn ffordd dda o gadw llygaid ar y swyddi gwag sy’n gofyn am y Gymraeg fel sgil a chael eich difyru hefyd gyda erthyglau difyr yr un pryd.  Mae ap newyddion S4C sy’n wasanaeth cymharol newydd y gellir ei ddarllen trwy gyfrwng ap ar Google Play.

Y wefan gyda’r mwyaf o draffig yn y Gymraeg yw BBC Cymru Fyw, ceir yno lond gwlad o erthyglau newyddion cyfoes, cyfweliadau ysgrifenedig ac eitemau fideo o’r ysgafn i’r difrifol i gyd mewn un lle. Digon i’ch cadw’n brysur am oriau.

Gwasanaeth fideo poblogaidd tu hwnt yw Hansh sy’n profi’n boblogaidd iawn, ble y trafodir pob mathau o bynciau mewn ffordd gynnil a difyr. Mae Hansh wedi gweld cannoedd o filoedd yn clicio ar ei fideos megis y cogydd Chris Roberts o Gaernarfon. Mae S4C hefyd yn cynnig gwahanol wasanaethau ar blatfformau, ar iPlayer a S4C Clic.

Mae gan y gwyddoniadur ar-lein Wicipedia filoedd o dudalennau yn llawn gwybodaeth yn y Gymraeg yn amrywio o rywogaethau ym myd natur i ffigyrau gwleidyddol – ewch i bori ynddo! Yn ogystal a’r gronfa hon o wybodaeth, mae’r Bywgraffiadur Cymreig hefyd yn llawn gwybodaeth dibynadwy a safonol am ffigyrau hanesyddol Cymru.

Mae’n werth hefyd cyfeirio at wefan Papurau Bro sy’n brosiect ar y cyd gyda Mentrau Iaith Cymru i roi llwyfan i gyhoeddiadau amrhisiadwy ein cymunedau. Ewch yno i chwilio am eich papur bro digidol chi.

Yn ystod y cyfnod clo, mae’r ap a’r platfform cymunedol Ambobdim wedi sefydlu’i hun ymhlith y platfformau mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg yn darlledu cyngherddau, cyfweliadau, gigiau, gwyliau gan ddiddanu pobl o foethusrwydd eu soffa. Mae’n werth galw heibio ar wefan Ambobdim i weld beth sydd ar y gweill. Mae’n wefan brysur tu hwnt sy’n llawn o gynnwys diddorol sydd wedi bod yn hanfodol. 

Heb anghofio am yr holl gynnyrch sydd hefyd ar wefan ffrydio cerddoriaeth Spotify, neu Youtube, boed yn gerddoriaeth Gymraeg neu’n archif ffilm, neu’n wefannau fel Llên Natur ar Facebook sydd ar gyfer y naturiaethwyr yn ein plith.

Er mwyn cael mynediad i’r holl bodlediadau Cymraeg o bob math sydd ar y We, rhaid galw heibio’r YPod. Mae gwefan Meddwl.org er enghraifft yn llawn o gynnwys hanfodol ar gyfer hybu ac er lles eich iechyd meddwl.

Mae ôl yr Iaith Gymraeg yn sylweddol ac mae’n hanfodol ein bod fel siaradwyr yn defnyddio’r adnoddau hyn – I ddechrau mae yna rywbeth at ddant pawb ac mae’r cynnwys yn berthnasol iawn.

Er hynny, mae angen mwy o gynnwys a mwy o blatfformau i apelio at y genhedlaeth yma a’r genhedlaeth nesaf. Rydym fel diwylliant yn cystadlu yn erbyn diwydiant a diwylliant enfawr eingl-americanaidd, ac heb yr adnoddau ariannol anferth, mae’n dalcen caled i fedru cystadlu. Ond mae’n rhaid bwrw ‘mlaen ac mae’n wir i ddweud ein yn llwyddo er gwaetha cyn lleied o adnoddau.

Mae gan lywodraeth rôl yma i fuddsoddi ac ysgogi hyn trwy greu’r amodau er mwyn creu cynnwys newydd a sicrhau fod y Gymraeg yn berthnasol yn y byd digidol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo fod hyn yn rhan o weledigaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 gyda phwyslais sylweddol ar y digidol – y gobaith yw y byddant yn gweithredu ar eu gair i fuddsoddi a datblygu arloesedd ond mae yna ddyletswydd arnom fel siaradwyr Cymru yn gyffredinol i greu cynnwys difyr a pherthnasol a chreu platfformau newydd hefyd. I fachu slogan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae’n rhaid cael ‘Popeth yn Gymraeg’ yn union fel y Beibl Cysegrlȃn dros bedair can mlynedd ynghynt.

Mae gan Cymunedau Digidol Cymru sesiwn ‘Y Gymraeg ar y We’ yn bwrw golwg ar yr adnoddau hyn, mae croeso i fy ebostio ar deian.apRhisiart@wales.coop i drefnu hyfforddiant am ddim.