Neidiwch i’r prif gynnwys

Lansio hyfforddiant ar-lein newydd i roi mwy o hyder i weithwyr gofal weithio gyda thechnoleg ddigidol

Mae cwrs e-ddysgu newydd wedi cael ei lansio ar gyfer y sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru i helpu gweithwyr ddefnyddio technoleg ddigidol yn hyderus.

Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth rhwng Cymunedau Digidol Cymru, Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant a Gofal Cymdeithasol Cymru, mae’r adnodd ‘Eich rôl a thechnoleg ddigidol’ wedi’i gynllunio i helpu’r gweithlu gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar i ddefnyddio technoleg ddigidol yn well er mwyn ymgysylltu â, a chefnogi unigolion sydd yn eu gofal.

Mae’r cwrs dwyieithog ar-lein, sydd ar gael i bawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant, yn defnyddio enghreifftiau o fywyd go iawn ac yn darparu ystod o atebion ymarferol ar sut y gall technoleg ddigidol wella lleoliad gofal.

Meddai Laura Phillips, Rheolwr Hyfforddiant Cymunedau Digidol Cymru:

“Mae’r gweithlu gofal cymdeithasol yn rhyngweithio’n ddyddiol ag unigolion a fydd yn elwa’n fawr o ddefnyddio technoleg ddigidol. O brofiad blaenorol, rydym yn gweld y gall technoleg ddigidol roi gwerth gwirioneddol i’r rhai sy’n derbyn gofal os yw’r manteision ar gael yn hawdd. Mae’n bleser gennym weithio mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru i lansio’r cwrs ‘Eich rôl a thechnoleg’, sy’n gweld y gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yn cael yr offer i ddeall yn well sut y gellir defnyddio technoleg o ddydd i ddydd er mwyn cefnogi unigolion sy’n derbyn gofal. Y gobaith yw y gall y gweithlu gofal gymryd cyfrifoldeb dros ddysgu am dechnoleg sy’n gwella gofal, a fydd wedyn yn gweld sgiliau a gwybodaeth digidol yn treiddio i lawr i unigolion ledled Cymru.”

Gall helpu rhywun i ddefnyddio technoleg ddigidol fod mor syml â dangos iddynt sut i anfon neges, gwneud galwad fideo er mwyn cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, defnyddio seinyddion clyfar i greu nodiadau atgoffa, rheoli eu goleuo a’u gwresogi, neu ddangos iddynt sut i ddal i fyny â rhaglenni ar y teledu. Mae’r cwrs ‘Eich rôl a thechnoleg ddigidol’, sydd wedi’i deilwra i’r lleoliad gofal, yn rhoi cyflwyniad i dechnoleg ddigidol, gyda’r gobaith o danio diddordeb mewn defnyddio technoleg yn amlach ac mewn ffyrdd mwy ystwyth er mwyn cefnogi llesiant unigolion.

Dywedodd Gemma Halliday, sy’n arwain ar ddysgu digidol yn Gofal Cymdeithasol Cymru: “Y cwrs e-ddysgu hwn yw’r ail mewn cyfres o adnoddau hyfforddi ar-lein ar gyfer y sector gofal yr ydym wedi bod yn eu datblygu gyda phartneriaid. Ac, yn yr achos hwn, rydym wrth ein bodd ein bod wedi gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru.

“Gyda thechnoleg ddigidol yn chwarae rhan fwyfwy blaenllaw yn ein bywydau bob dydd, mae’n bwysig ein bod yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen ar weithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar i’w defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol wrth ddarparu gofal a chymorth i eraill.

“Yn benodol, rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth o’r cwrs hwn yn rhoi mwy o ymwybyddiaeth i weithwyr gofal cymdeithasol o sut y gall technoleg ddigidol eu helpu i ddarparu mwy o’r hyn sydd bwysicaf i’r unigolion y maen nhw’n eu cefnogi fel y gallan nhw gyflawni’r canlyniadau y maen nhw eu heisiau.”

Os ydych yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant, gallwch gael mynediad i’r cwrs yma.