Neidiwch i’r prif gynnwys

Cymorth digidol i bobl ag anabledd dysgu yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Mae Melanie Vale, Prif Therapydd Galwedigaethol Proffesiynol BIPAB ar gyfer anableddau dysgu, yn ysgrifennu am yr ymdrech barhaus gyda CDC i fynd i'r afael â rhwystrau cynhwysiant

Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl a fyddai’n elwa o ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol.

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
Dyn a dynes yn edrych ar sgrin cyfrifiadur

Rwy’n therapydd galwedigaethol sy’n gweithio yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gydag oedolion sydd ag anabledd dysgu. Ar gyfer Wythnos Anabledd Dysgu, roeddwn am rannu sut mae Cymunedau Digidol Cymru wedi ein cefnogi yn ystod pandemig y Coronafeirws i ddatblygu ein sgiliau a’n gwybodaeth am gynhwysiant digidol, a sut rydym wedi defnyddio’r offer a ddarparwyd ganddynt i gefnogi’r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw.

Mae therapyddion galwedigaethol yn helpu pobl i oresgyn heriau i wneud gweithgareddau bob dydd, neu ‘alwedigaethau’. Mae llawer o’r gwaith hwn yn cael ei wneud gyda phobl yn eu cartrefi eu hunain neu leoedd y maent yn mynd iddynt bob dydd, fel canolfannau dydd, gwaith, neu’r gymuned leol. Pan darodd y pandemig ac aethom i’r cyfnod clo, newidiodd popeth. Yn hytrach nag ymweliadau wyneb yn wyneb, gwnaethom gynnig galwadau ffôn ac ymgynghoriadau fideo fel opsiwn cyntaf i leihau’r risg o drosglwyddo Covid. Roedd gwasanaethau dydd ar gau i amddiffyn y rhai sy’n agored i niwed, ac roedd cyfyngiadau ynghylch cartrefi gofal yn golygu bod llawer o bobl ag anabledd dysgu yn cael eu hatal rhag gwneud eu gweithgareddau arferol i raddau mwy neu am gyfnod hwy na phobl heb anabledd dysgu.

Rydym ni eisoes yn gwybod bod gan bobl ag anabledd dysgu iechyd corfforol a meddyliol gwaeth na’r boblogaeth gyffredinol. Maent yn fwy tebygol o farw cyn eu hamser, ac oherwydd anawsterau wrth geisio cael gofal iechyd o ansawdd, mae modd osgoi’r marwolaethau hyn yn aml. Gall rhwystrau rhag cael mynediad at ofal iechyd gynnwys dealltwriaeth wael o anableddau dysgu a diffyg addasiadau i wneud gofal yn hygyrch. Roeddem yn pryderu y gallai cyfyngiadau’r pandemig ychwanegu at y rhwystrau hyn. Nid oedd gan lawer o gartrefi byw â chymorth gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy ar ddechrau’r pandemig ac nid oedd gan lawer o bobl fynediad at gyfrifiadur na thabled i fynd ar-lein. Nid oedd gan rai o’r bobl yr ydym yn eu cefnogi sgiliau defnyddio technoleg oherwydd bod pobl eraill yn poeni am eu diogelwch ar-lein neu y gallent dorri’r offer.

Fel tîm therapi galwedigaethol, buom yn gweithio gyda’n gilydd i gynllunio sut y gallem oresgyn y rhwystrau hyn. Rhan o’n rôl yw hyrwyddo sgiliau byw bob dydd ac annibyniaeth yn ogystal â chynhwysiant. I’r rhan fwyaf ohonom yn ystod Covid roedd ein cymdeithasu, ein bancio, ein siopa a’n gofal iechyd i gyd yn dibynnu ar dechnoleg o ryw fath. Ar y pwynt hwn y daethom ar draws y cysyniad o Gynhwysiant Digidol, a ddaeth â ni i gysylltiad â Chymunedau Digidol Cymru. Ar y dechrau, edrychwyd ar rai o adnoddau Covid a Padlets i helpu’r bobl rydym yn eu cefnogi i gadw mewn cysylltiad ag eraill a dod o hyd i weithgareddau eraill i’w gwneud. Gweithiodd Cymunedau Digidol Cymru gyda ni i ddeall ein hanghenion a chynnig hyfforddiant i staff therapi galwedigaethol mewn hygyrchedd a seinyddion clyfar, cadw mewn cysylltiad a chadw’n heini ar-lein, fel y gallem gefnogi eraill i wneud yr un peth.

Wrth i’r pandemig barhau, roedd yn amlwg y byddai gan dechnoleg rôl barhaus o ran darparu gofal iechyd, ac er bod rhwystrau’n parhau, roedd yn well gan rai pobl yr ydym yn eu cefnogi weld gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar-lein gan ei fod yn helpu i leihau anawsterau gyda thrafnidiaeth, neu’n arbed amser. Ar y pwynt hwn y dywedodd Cymunedau Digidol Cymru wrthym am y prosiect cynhwysiant digidol a gwnaethom gyflwyno cais llwyddiannus am liniaduron a thabledau a fyddai’n helpu’r bobl yr ydym yn eu cefnogi i gael mynediad at grwpiau rhithwir, i gysylltu â phobl ac i feithrin sgiliau annibyniaeth. Roeddem hefyd yn gobeithio gallu defnyddio’r offer i gefnogi unigolion, gofalwyr a thimau staff i gael hyfforddiant.

Mae’r offer cynhwysiant digidol wedi helpu pobl sy’n aros ar ein ward cleifion mewnol i gynllunio gweithgareddau, i gysylltu â theulu a ffrindiau ac i fynychu cyfarfodydd drwy gyswllt fideo. Rydym wedi gallu cynnig grŵp ‘Gwella drwy Weithgarwch’ rhithwir, gan wybod y gallwn gynnig benthyg offer i unigolion sydd angen hyn. Rydym yn dechrau cefnogi pobl ag anabledd dysgu i ddatblygu hyder wrth ddefnyddio’r dechnoleg i ddiwallu eu hanghenion iechyd, er enghraifft, defnyddio apiau i gynllunio amserlenni dyddiol a threfnu eu hamser. Mae Cymunedau Digidol Cymru yn cynnig mwy o hyfforddiant i wasanaeth anabledd dysgu BIP Aneurin Bevan y mis hwn, o ran diogelwch ar-lein, helpu pobl i fynd ar-lein ac apiau synhwyraidd.

Er bod Covid wedi cyflwyno llawer o heriau i ni, ac ar ddechrau’r pandemig roedd yn ymddangos ei fod yn cynyddu’r rhwystrau y mae pobl ag anabledd dysgu yn eu hwynebu wrth gael mynediad at dechnoleg ddigidol, mae hefyd wedi bod yn gyfle i ni archwilio ein harferion a newid sut rydym yn gwneud pethau gyda chefnogaeth Cymunedau Digidol Cymru. Wrth symud ymlaen fel tîm rydym yn fwy gwybodus, mae gennym rai sgiliau newydd a’r offer cywir i gefnogi pobl ag anabledd dysgu i gael eu cynnwys yn fwy yn ddigidol.

Melanie Vale, Prif Therapydd Galwedigaethol Proffesiynol ar gyfer Anableddau Dysgu, BIPAB

Quotation mark

Gweithiodd Cymunedau Digidol Cymru gyda ni i ddeall ein hanghenion a chynnig hyfforddiant i staff therapi galwedigaethol mewn hygyrchedd a seinyddion clyfar, cadw mewn cysylltiad a chadw’n heini ar-lein, fel y gallem gefnogi eraill i wneud yr un peth.

Melanie Vale, Prif Therapydd Galwedigaethol Proffesiynol ar gyfer Anableddau Dysgu, BIPAB