Neidiwch i’r prif gynnwys

Eisteddfod 2022: Chwe ap Cymraeg ar gyfer eich dyfais

Mae Hyfforddwr Cynhwysiant Digidol, Ema Williams, yn awgrymu apiau Cymraeg nad ydych chi eisiau methu allan ar.

Ymwadiad: Mae’r apiau a’r gwefanau yr ydym yn ei trafod yma yn bodoli fel opsiynau yn hytrach nac argymhellion. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw broblem y byddwch yn ei brofi yn sgil eich defnydd o’r apiau neu wefanau hyn.

Yn mis Awst 2022 cyrhaeddodd y foment roedd nifer o fobl ledled Cymru wedi bod yn aros am, sef dychweliad yr Eisteddfod Genedlaethol, yr un cyntaf ers COVID-19! Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r fwyaf o blith nifer o eisteddfodau a gynhelir yn flynyddol, ac fe’i hystyrir yn ŵyl gerdd a barddoniaeth fwyaf Ewrop. Mae’r maes yn gartref i lu o stondinau gan wahanol sefydliadau o bob rhan o’r wlad sy’n hyrwyddo amrywiaeth o wahanol wasanaethau, nwyddau a gweithgareddau.

I ddathlu, rydym wedi dewis rhai o’n hoff apiau Cymraeg rhad ac am ddim i’w rhannu gyda chi…

Default Text

Ap Cwtsh

Yr ap Cymraeg cyntaf rydym am rannu yw Ap Cwtsh. Ap ymwybyddiaeth ofalgar sydd ar gael am ddim, sydd ar gael trwy’r iaith Gymraeg. Os hoffech ddechrau’ch diwrnod yn bositif neu ymlacio ar ôl diwrnod prysur, mae ApCwtsh wrth gefn ichi!

Lawrlwythwch o’r App Store

Lawrlwythwch o Google Play

Default Text

Y Pod

Ydych chi’n ffan o bodlediadau? Lawrlwythwch Y Pod ar gyfer darganfod podlediadau Cymraeg o bob math! Mae’r ap yn cynnwys bron pob podlediad Cymraeg sydd erioed wedi’i ryddhau felly mae digonedd i ddewis ohono (tip: gallwch gysylltu Y Pod â’ch dyfais Alexa!)

Mynychwch Y Pod ar gyfer eich Dyfais Apple

Lawrlwythwch o Google Play

Default Text

Ap Treiglo

Os ydych chi’n rhywbeth fel fi a’ch bod chi’n dal i gael trafferth gyda’ch treigladau Cymraeg, ystyriwch Ap Treiglo! Mae’n rhoi rhestr llawn o reolau i chi ar gyfer treiglo eich geiriau, yn ogystal ag enghreifftiau dwyieithog. Gall cael yr ap bach defnyddiol hwn yn eich poced fod yr holl gymorth treiglo sydd ei angen arnoch.

Lawrlwythwch o’r App Store

Lawrlwythwch o Google Play

Default Text

Ap Geiriaduron

Ap hynod o ddefnyddiol arall i wella eich Cymraeg yw Ap Geiriaduron. Ni fydd angen i chi gario geiriadur gyda chi – mae Ap Geiriaduron yn caniatáu ichi gyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac i’r gwrthwyneb. Awgrym: Gallwch hyd yn oed ddefnyddio seren (*) i ddod o hyd i eiriau sy’n odli hefyd!

Lawrlwythwch o’r App Store

Lawrlwythwch o Google Play

Default Text

Signal

Ydych chi’n gwybod fod yna ap cyfathrebu sydd ar gael yn gyfangwbl trwy’r Gymraeg? Mae Signal yn ap sy’n debyg i WhatsApp a Facebook messenger, ond ei fod yn gadael ichi i’w ddefnyddio yn y Gymraeg!

Lawrlwythwch o’r App Store

Lawrlwythwch o Google Play

Default Text

S4C Clic

Ac i gloi’r awgrymiadau yr wythnos hon rydym yn dewis ap S4C Clic! Gallwch wylio rhaglenni Cymraeg rydych wedi’i fethu a hen raglenni o flynyddoedd yn ôl arno. Ac os rydych wedi methu unrhywbeth o’r Eisteddfod ei hyn, gallwch ddal i fyny ar yr uchafbwyntiau arno!

Lawrlwythwch o’r App Store

Lawrlwythwch o Google Play

Dewch hefo fi i gynnal gweithdy digidol yn Eisteddfod Tregaron

Roedd yn anrhydedd i mi gael fy ngwahodd i gynnal gweithdy digidol ar stondin Cymdeithas Eisteddfodau Cymru ddydd Llun, lle bues i’n arddangos be’n union mae iPads a teclynnau VR yn gallu gwneud i hybu lles pobl. Ymunodd pobl o bob oedran â ni ar y stondin yn barod i gael eu cludo i le arall gan ddefnyddio VR, o draeth Porthor ym Mhen Llŷn, i Raeadr Mawr yn Abergwyngregyn. Ein nod oedd nid yn unig i ddangos i bobl sut y gallai rhith-realiti fod yn ffordd wych o ymlacio, ond hefyd i ddangos sut y gall gael effaith anhygoel ar les rhywun trwy roi’r profiad iddynt o fod ym myd natur pan efallai nad ydynt yn gallu gwneud hynny yn organig.

Dyma cipolwg o beth fues i’n gwneud trwy gydol y dydd: