Neidiwch i’r prif gynnwys

#TryOneThing ar gyfer Wythnos Mynd Ar-lein 2022: awgrymiadau staff CDC

Annog pobl i #TryOneThing ar-lein yw thema gyffredinol Wythnos Mynd Ar-lein 2022. Yn y blog hwn, mae aelodau o staff Cymunedau Digidol Cymru yn gwneud awgrym technoleg ar beth i roi cynnig arno o amgylch themâu dyddiol yr ymgyrch, sef arbed arian, iechyd, helpu eraill, cysylltu ag anwyliaid, a chyflogadwyedd.

Ymwadiad: Mae’r apiau a’r gwefanau yr ydym yn ei trafod yma yn bodoli fel opsiynau yn hytrach nac argymhellion. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw broblem y byddwch yn ei brofi yn sgil eich defnydd o’r apiau neu wefanau hyn.

Arbed Arian – Nick Moylan, Swyddog Hyfforddi a Datblygu

Ar gyfer Wythnos Mynd Ar-lein eleni, rwyf eisiau rhannu gyda chi un ffordd rwy’n arbed arian ar-lein.

Pan fydda’ i’n siopa ar-lein, rydw i wedi datblygu ambell arfer rydw i’n ei ddilyn. Rwyf o leiaf yn cael darlun rhesymol o beth y mae manwerthwyr yn stocio, y cynnyrch rydw i’n chwilio amdano a chymhariaeth o’u prisiau. I wneud hyn, rwy’n defnyddio Google Shopping. Mae’n dod o hyd i’r holl siopau sy’n stocio’r cynnyrch dwi’n chwilio amdano a’u prisiau.

Y peth gwych am beiriannau chwilio yw y gallwch hidlo canlyniadau. Gallaf hidlo yn ôl brand, pris a hyd yn oed trwy nodweddion penodol cynnyrch. Weithiau, rwy’n hoffi ei ddefnyddio i ddangos cynnyrch sy’n lleol i mi.

Dim ond fy man cychwyn yw hwn. Pan fydda’ i wir eisiau arbed arian, mae casglu gwybodaeth ar-lein yn fy helpu i ddod o hyd i’r fargen orau. Pan fydda’ i wedi gwneud hyn, rwy’n symud ymlaen i wefannau cod talebau ac arian yn ôl, fel www.vouchercodes.co.uk, www.topcashback.co.uk or www.quidco.com. Mae’r gwefannau hyn yn rhestru talebau disgownt neu gynigion arian yn ôl ar gyfer llawer o fanwerthwyr poblogaidd.

Pan fydda’ i‘n prynu cynnyrch newydd ar-lein, rwyf bob amser yn defnyddio’r gwefannau hyn i wneud y mwyaf o faint o arian y gallaf ei arbed. Maen nhw’n arbennig o ddefnyddiol wrth chwilio am gynllun data symudol newydd neu gytundeb band eang gan y gall y gwobrau arian yn ôl fod yn eithaf uchel.

Dilynwch Nick ar Twitter

Iechyd – Ema Williams, Hyfforddwr Cynhwysiant Digidol

Ar gyfer Wythnos Mynd Ar-lein eleni, roeddwn eisiau rhannu gyda chi un o fy hoff apiau ar gyfer cadw fy iechyd a lles meddyliol dan reolaeth Daylio.

Darganfyddais i Daylio ar anterth y cyfnod clo yn 2020, yn ystod cyfnod lle’r oedd emosiynau’r genedl yn uchel a gweithgarwch yn isel. Roeddwn i’n chwilio am ap hawdd ei ddefnyddio lle byddwn i’n gallu olrhain fy nghyfnodau uchel ac isel bob dydd, ac yn ffodus, fe ddes i ar draws yr ap Daylio am ddim.

Gyda Daylio, rydych chi’n cael eich ysgogi’n ddyddiol i fewnbynnu sut rydych chi’n teimlo, gyda’r opsiwn o ymestyn hyn i gynnwys pa weithgareddau wnaethoch yn ystod y dydd, sut beth oedd y tywydd, faint o bobl wnaethoch chi ryngweithio â nhw, ac yn y blaen. Mae wedi cael ei bersonoli’n llwyr i’ch dymuniadau a’ch anghenion, gan fod rhwyddineb mynediad wrth wraidd yr ap.

Mantais gwneud hyn yw i chi allu cadw data am newidiadau I’ch hwyliau, a dadansoddi pa ddyddiau/wythnosau/misoedd nad ydych yn teimlo ar eich gorau, pa weithgareddau sy’n gwneud i chi deimlo’n well, a datblygu arferion dyddiol gwell. Bydd Daylio hyd yn oed yn creu siartiau gweledol i olrhain eich hwyliau dros gyfnod hwy o amser.

Mae’r ap hwn yn arbennig o ddymunol i leoliadau gofal, gan ei fod mor hawdd i’w ddefnyddio ac yn darparu data sy’n wirioneddol ddefnyddiol i unrhyw ofalwyr. Gan ei fod mor hawdd i’w addasu, gallai gofalwyr hyd yn oed ychwanegu adran ar gyfer meddyginiaeth, ymarfer corff ysgafn neu yfed dŵr.

Mae rhywbeth hynod foddhaus am allu gweld trosolwg o’ch hwyliau a’ch emosiynau dros gyfnod hir, ac mae gallu adnabod unrhyw batrymau neu sbardunau i hwyliau isel a newid eich arferion i weddu yn gallu bod yn fuddiol iawn yn y pen draw.

Mae Daylio Journal ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar Google Play a’r App Store. Mae gwasanaeth tanysgrifio taledig ar gael, ond mae’r ap ei hun yn gweithio’n llawn heb dalu.

Dilynwch Ema ar Twitter

Helpu eraill – Laura Phillips, Rheolwr Hyfforddi a Datblygu

Mae helpu rhywun i fynd ar-lein neu i gael mwy allan o fod ar-lein yn rhoi boddhad mawr! Un o fy hoff bethau i am helpu pobl i fynd ar-lein, yw gweld y foment ‘bylb golau’, pan fydd rhywbeth yn taro deuddeg.

Sawl haf yn ôl, helpais fy mam-gu i ddefnyddio ap BBC Sport (Google Play, App Store) er mwyn iddi allu gwylio Tenis ar alw. Nawr, pan dwi’n ymweld, mae hi’n rhannu gyda fi y patrymau gwau mae hi wedi eu darganfod. Mae cymryd y cam bach hwnnw wedi golygu ei bod hi’n gallu cysylltu’n well â theulu sy’n byw dramor ac mae hi’n dysgu sgiliau newydd, roedd ei hymddiriedaeth ynof i yn golygu bod hynny wedi rhoi’r hyder iddi archwilio’r rhyngrwyd ei hun.

Gall rhywbeth mor syml â helpu ffrind, aelod o’r teulu neu gymydog i fynd ar-lein wneud byd o wahaniaeth. Does dim rhaid i chi fod yn ddewin technegol. Does dim angen i chi wybod y cyfan! Dyma fy mhrif rinweddau sydd eu hangen arnoch chi i helpu rhywun i fynd ar-lein:

  1. Meddylfryd Cadarnhaol (Mae hyn yn helpu meithrin ymddiriedaeth!)
  2. Dycnwch ac Amynedd
  3. Bod yn ddatryswr problemau da
  4. Diddordeb mewn dod i adnabod pobl eraill; a sut i ofyn cwestiynau da
  5. Angerdd a brwdfrydedd

Trwy hyn mae gennych chi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch chi yn barod i helpu rhywun i wneud y mwyaf o fod ar-lein!

Dilynwch Laura ar Twitter

Cysylltu ag anwyliaid – Danielle Roberts, Ymgynghorydd Cynhwysiant Digidol

Gall technoleg fod yn offeryn gwych i’ch helpu i gysylltu ag anwyliaid, boed hynny’n ffrindiau neu’n deulu. I gadw mewn cysylltiad, rydw i’n defnyddio fy Meta Portal TV, sef gwe-gamera gyda chamera clyfar gosodedig sy’n cysylltu â’ch teledu trwy gebl HDMI. Mae’n hawdd iawn i’w ddefnyddio, gan y gallwch chi naill ai ddefnyddio’r rheolydd o bell sy’n dod gydag ef neu ddefnyddio’r ‘Ask Alexa’ gosodedig.

Mae sawl rheswm pam dwi’n hoffi’r Meta Portal TV; oherwydd galla’ i ddefnyddio Messenger, Zoom neu WhatsApp i wneud galwadau fideo gydag anwyliaid a does dim angen dyfais Meta Portal ar bwy bynnag rydw i’n ei alw i dderbyn yr alwad, gallant ateb yr alwad fideo ar ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur.

Beth sy’n wych am y Meta Portal TV, yw oherwydd ei fod wedi’i gysylltu â’ch teledu, gallai’r llun rydych chi’n ei weld fod yn 50″ – llawer haws ei weld nag ar sgrin ffôn! Hefyd, gan ei fod wedi’i gysylltu â’r teledu, galla’ i wneud galwad fideo o gysur fy soffa! Nid oes angen dal ffôn, na’i bwyso ar eich glin a hwnnw’n disgyn hanner ffordd drwy’r alwad – rydym ni i gyd wedi bod yno, onid ydym ni?

Does dim angen i chi ddweud unrhyw beth fel: “Allwch chi symud y camera, alla’ i ddim eich gweld chi/ alla’ i ond gweld eich talcen/ pam alla’ i ond gweld clustog” fel un o’r nodweddion gorau, rydw i’n ei garu, yw bod y Meta Portal TV yn defnyddio camera clyfar – mae’n symud os ydych chi’n symud o gwmpas yr ystafell ac os oes pobl arall yn yr ystafell mae’n chwyddo allan fel bod modd gweld pawb.

Oni bai am dechnoleg, fyddwn i ddim yn gallu gweld fy ewythr mor rheolaidd ag ydw i, gan ei fod yn byw yn Sheffield ac yn sicr fyddwn i ddim yn gallu gweld fy ffrindiau o’r brifysgol, gan fod un yn byw yn Llundain a’r llall yn Boston yn America.

Mae gweld anwyliaid ar sgrin, i mi, yn gwneud gwahaniaeth enfawr pan fyddaf yn siarad â nhw ac yn fy helpu i deimlo cysylltiad gan ei fod yn caniatáu i mi deithio pellter yn rhithiol pan na alla’ i’n gorfforol.

Dilynwch Danielle ar Twitter

Cyflogadwyedd – Cadi Cliff, Rheolwr Rhaglen

Ydy ymgeisio am swydd yn teimlo’n llethol iawn? Efallai mai dyma’r tro cyntaf i chi wneud cais am swydd neu eich bod yn chwilio am swydd newydd am y tro cyntaf ers amser maith. Beth bynnag yw’r rheswm, gall offer digidol wneud llawer o’r camau yn gysylltiedig â chwilio a gwneud cais am swydd yn llai o straen.

Ar ôl i chi ddod o hyd i rai rolau – efallai eich bod chi wedi dod o hyd iddyn nhw ar-lein neu ar hysbysfwrdd yn Swyddfa’r Post – eich cam nesaf yw gwneud cais. Ar gyfer llawer o swyddi, mae angen cyflwyno CV.

Ar gyfer Wythnos Mynd Ar-lein eleni, rwyf eisiau rhannu sut gall yr offeryn digidol Canva eich arbed chi rhag brwydro’n ddiddiwedd gyda dogfennau Word a fformatio i wneud eich CV i edrych yn dda ac yn broffesiynol.

Mae Canva yn offeryn ar-lein sy’n gwneud dylunio pethau’n syml iawn i chi, sy’n golygu y gall unrhyw un ddylunio’r dogfennau sydd eu hangen arnynt yn hawdd. O ran CVs, mae gan Canva ystod fawr o dempledi y gallwch ddewis ohonynt (dros 10,000 a dweud y gwir!).

Gallwch ddefnyddio’r hidlyddion – fel ‘Proffesiynol’, ‘Creadigol’, ‘Lleiafol’ – felly byddwch chi ond yn edrych ar y rhai sy’n addas i chi. Mae rhai dyluniadau’n gadael mwy o le i luniau, neu flociau o destun, neu graffeg eraill. Ar ôl i chi ddod o hyd i’r dyluniad rydych chi’n ei hoffi gallwch ei olygu. Gallwch gadw’r templed yn union fel y mae, dim ond teipio yn eich gwybodaeth a newid y llun i un ohonoch chi os ydych eisiau cynnwys un, neu gallwch ddefnyddio’r offer golygu syml i’w addasu ymhellach.

Pan fyddwch chi’r adeg lle rydych chi’n hapus â’ch CV, gallwch ei lawrlwytho ym mha fformat bynnag sydd ei angen arnoch chi. Mae lawrlwytho o Canva yn golygu na fydd y fformatio yn newid, ni waeth pa feddalwedd y mae’r person rydych chi’n ei anfon ato yn ei ddefnyddio. Felly, dim mwy o destun mewn mannau nad yw fod ynddyn nhw!

Mae rhywbeth da am gael offeryn syml sy’n gwneud y dylunio i chi sydd wir yn tynnu’r pwysau oddi ar sut i osod eich CV yn weledol, sy’n golygu y gallwch chi ganolbwyntio ar anfon eich cais.

Gallwch ymuno â Canva am ddim ar-lein – https://www.canva.com/ – ac mae ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar Google Play a’r App Store. Mae fersiwn taledig ar gael, ond mae’r offeryn ei hun yn gweithio’n llawn heb dalu.

Dilynwch Cadi ar Twitter