Neidiwch i’r prif gynnwys

Sir y Fflint yw’r Cyngor cyntaf yng ngogledd Cymru i lansio Banc Data

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno â Sefydliad Good Things i sicrhau bod trigolion ar incymau isel yn cael cysylltiadau digidol trwy ddarparu cardiau SIM a thalebau data am ddim iddynt trwy’r Banc Data Cenedlaethol.

Mae cardiau SIM a thalebau data am ddim ar gael o’n pum Canolfan Gysylltu* i drigolion cymwys, gan ddefnyddio dull yn seiliedig ar ymddiriedaeth.  Mae’r data wedi’i ddarparu am ddim gan Virgin Media, O2, Vodafone a Three.

Mae Sefydliad Good Things yn elusen sy’n helpu pobl i wella eu bywydau yn ddigidol ac mae ei gweledigaeth yn cyd-fynd â dyheadau’r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol:

“Trwy ddarparu cardiau SIM gyda data am ddim i aelwydydd incwm isel, byddwn yn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl yn ein byd digidol datblygedig. Mae’r timau yn ein Canolfannau Cysylltu ar gael i gefnogi trigolion i gael mynediad at y rhyngrwyd ac rwy’n annog unrhyw un sydd angen ein help i gysylltu â ni.”

Fel rhan o weledigaeth ddigidol y Cyngor, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi pobl i gysylltu ar-lein, gan helpu trigolion i gael mynediad at y rhyngrwyd, cysylltedd data a theclynnau, er mwyn llenwi’r bwlch digidol mewn cymunedau.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Tystiolaeth ac Ymgysylltu o Sefydliad Good Things, Emma Stone:

“Rydym yn falch iawn bod Sir y Fflint wedi ymuno â’n rhwydwaith a’r Banc Data Cenedlaethol. Fel partner balch i Cwmpas a Chymunedau Digidol Cymru – gobeithiwn y bydd mwy o gynghorau a sefydliadau cymunedol yn dilyn esiampl Sir y Fflint ac yn helpu i fynd i’r afael â thlodi data a llenwi’r bwlch digidol mewn cymunedau.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael am y Banc Data Cenedlaethol a Sefydliad Good Things yma.

Am wybodaeth am y Banc Data gallwch gysylltu â’ch Canolfan Gysylltu leol yma.

I gael gwybodaeth am y Banc Data, gall trigolion Sir y Fflint gysylltu â’u Canolfan Connects leol yma.

*Bwcle, Cei Connah, Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug

Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Gyngor Sir y Fflint.

Mae’r Banc Data Cenedlaethol yn darparu data am ddim i 500,000 o bobl mewn angen trwy rwydwaith o bartneriaid cymunedol Good Things Foundation, mewn partneriaeth â Virgin Media O2, Vodafone a Three.

Darganfod mwy
An image of an open webpage displaying a National Databank webpage.