Neidiwch i’r prif gynnwys

Mae Uned Seiberdroseddu’r Heddlu yn ateb cwestiynau diogelwch ar-lein ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2023

A male Police Officer uses a computer. In the corner of the image is the Safer Internet Day logo.

Ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2023 rydym wedi ymuno â Heddlu De Cymru ac Unedau Seiberdroseddu Heddlu Gogledd Cymru, sy’n cynrychioli TARIAN ROCU (Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De Cymru) a TITAN ROCU (Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru), i gyflwyno gweminar ar y cyd a thynnu sylw at bwysigrwydd bod yn ddiogel ar-lein. Pan fyddwn yn defnyddio’r Rhyngrwyd, gallwn gael mynediad at wybodaeth a chynnwys defnyddiol, neu siopa a bancio ar-lein, ond mae’n rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol o dwyll a sgamiau ar-lein a deall sut i atal ein hunain rhag bod yn agored i niwed. 

Ymunwch â ni i archwilio’r pwnc ymhellach drwy ddod i’n gweminar ‘Diogelwch Ar-lein’ Cymraeg am 2yh ar Chwefror 8fed. Cofrestrwch yma. 

Beth yw Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel? 

Cynhelir Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ddydd Mawrth Chwefror 7fed 2023. Mae thema’r Diwrnod, ‘Gyda’n Gilydd ar gyfer Gwell Rhyngrwyd’, yn ein hannog ni gyd i ddysgu am gadw’n ddiogel wrth ddefnyddio’r Rhyngrwyd. Mae’n ymgyrch ryngwladol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o broblemau ar-lein sy’n dod i’r amlwg a phryderon diogelwch ar hyn o bryd. Mae tudalen adnoddau’r Deyrnas Unedig yn cael ei chynnal gan yr UK Safer Internet Centre ac mae’n cynnwys llawer o ddeunydd dysgu defnyddiol am wahanol broblemau ar-lein yn ogystal ag adnoddau ar gyfer sefydliadau neu ysgolion. 

Fel rhan o’n dathliadau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, rydym wedi gofyn i PC Steven Davies o Uned Seiberdroseddu Heddlu De Cymru i ddweud mwy wrthym am droseddu ar-lein, sut gallwch chi osgoi cael eich twyllo, a ble i fynd am ragor o adnoddau. 

Sut mae’r Uned Seibrdroseddu yn helpu pobl Cymru gyda diogelwch ar-lein? 

O fewn Cymru mae gennym ni bedwar Awdurdod Heddlu, ac mae gan bob un Uned Seiberdroseddu. Yn ogystal â’r lluoedd, mae gennym ni ddwy Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol yng Nghymru. Rydym fel tîm yn dod ar draws neu’n cael cais am gyngor ar droseddau sydd wedi digwydd ar-lein bron bob dydd ac yn cael cyswllt wythnosol gan Action Fraud, sy’n cynnwys manylion y rhai sydd wedi gwneud adroddiadau’n uniongyrchol iddynt. Yn dilyn derbyn adroddiadau o’r fath, byddai’n dibynnu a yw’r achos yn fater troseddol neu’n fater lle gellid cynnig y cyngor gorau posib. Fel Swyddog Diogelu Seiberdroseddu, rwy’n gwneud pob ymdrech i gysylltu â dioddefwyr wyneb yn wyneb. Yn ogystal â’r cyswllt hwn, gwneir ymdrechion i gynnal digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, gan gysylltu ag asiantaethau partner i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl o fewn ardal y llu. 

Beth yw’r ffyrdd mwyaf cyffredin y mae pobl yn cael eu twyllo ar-lein? 

Y ffordd fwyaf cyffredin yw trwy we-rwydo. Mae hyn yn dod yn llawer mwy soffistigedig ac mae cyswllt o’r fath yn ymddangos fel ei fod yn ddilys. 

Gyda phlatfformau cyfryngau cymdeithasol bellach yn cael eu defnyddio gan ran helaeth o’r cyhoedd, mae techneg gwe-rwydo o’r enw peirianneg gymdeithasol yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin gan dwyllwyr. Mae peirianneg gymdeithasol yn annog pobl i ateb cwestiynau personol iawn i gipio gwybodaeth bersonol ac ariannol. Yn aml mae angen rhannu atebion, gyda’r edefyn yn cael ei bostio neu ei anfon ymlaen at ffrind arall.

Beth yw’r cyngor gorau y gallwch chi ei roi i rywun i fod yn ddiogel ar-lein? 

Er mwyn cadw’n ddiogel ar-lein dylai’r defnyddiwr gael meddalwedd gwrth-feirws cryf, defnyddio cyfrineiriau cryf a pheidio â defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer pob cyfrif ar-lein. Defnyddiwch broses ddilysu dau gam ar bob platfform sy’n caniatáu i chi wneud hynny. Mae hyn yn rhad ac am ddim ac mae’n rhoi’r haen ychwanegol o ddiogelwch. Peidiwch â rhannu manylion personol ar-lein a cheisiwch beidio â defnyddio gormod o Wifi cyhoeddus am ddim. Os oes angen, peidiwch â defnyddio neu gyfeirio at unrhyw wybodaeth sensitif wrth ddefnyddio Wifi cyhoeddus. 

Pa adnoddau sydd ar gael i ddysgu mwy am seiberdroseddu, a ble mae modd dod o hyd iddyn nhw? 

Mae llawer o adnoddau ar gael, yn enwedig ar-lein. Mae gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wefan addysgiadol iawn i enwi dim ond un.  

Fel Swyddog Diogelu Seiberdroseddu, byddwn yn fwy na pharod i ymgysylltu ag aelodau ein cymunedau o fewn de Cymru a darparu’r cyngor diogelu mwyaf priodol trwy gyflwyniadau. Gall aelodau o’r cyhoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau gysylltu â mi i drefnu cyflwyniad drwy e-bostio Steven.Davies@south-wales.police.uk. 

Beth ddylai rhywun ei wneud os ydyn nhw’n meddwl eu bod wedi dioddef seiberdrosedd? 

Ein neges gryfaf bosibl i unrhyw ddioddefwr seiberdroseddu yw iddyn nhw roi gwybod i’r awdurdodau. P’un a yw hyn i’w heddlu agosaf, yr heddlu lle maen nhw’n byw, neu fel arall, bydden ni’n dweud wrthynt am roi gwybod am weithgaredd o’r fath i Action Fraud. Yna, bydd Action Fraud yn cysylltu â’r llu mwyaf perthnasol lle bydd naill ai ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal neu bydd y Swyddog Diogelu Seiberdroseddu yn ffonio i gynnig y cyngor mwyaf priodol. 

Ac yn olaf, oes gennych chi bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol y gall pobl ei ddilyn? 

Fel adran o fewn Heddlu De Cymru, rydym yn  gweithio’n agos gyda’n Tîm Cyfathrebu i roi cyhoeddusrwydd i unrhyw sgamiau penodol sydd ar waith. Rydyn ni hefyd yn rhannu cyngor pwysig iawn gyda’r bwriad o gyrraedd pobl a’u galluogi i sylwi ar negeseuon o’r fath. Mae ein hadran yn defnyddio’r ddolen twitter @SWPSpecCrime. Mae ein cydweithwyr yng ngogledd Cymru yn defnyddio @NWPCyberCrime.

Lledaenwch y neges

Gallwch gymryd rhan yn Niwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel drwy:

• Fynd i www.saferinternetday.org.uk
• Dilyn @UK_SIC ar Twitter
• Ymuno â’r sgwrs genedlaethol drwy ddefnyddio #SaferInternetDay#SIDCymru   #DiwrnodRhyngrwydDdiogel
• Hoffi UK Safer Internet Centre ar Facebook
• Dilyn @DC_Wales ar Twitter, a Cymunedau Digidol Cymru ar Facebook
• Dilyn @UK_SIC ar Instagram