Neidiwch i’r prif gynnwys

Camwybodaeth: Mae NewsGuard yn ein helpu ni i ddeall y risgiau a sut i fynd i’r afael â nhw

A photograph of a stack of newspapers

Mae’r Rhyngrwyd yn cynnig llawer o gyfleoedd i ni archwilio’n diddordebau a dysgu gwybodaeth newydd ar-lein. Mae llawer o bobl yn defnyddio’r Rhyngrwyd fel ffynhonnell newyddion a gwybodaeth yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Ond sut rydym ni’n gwybod y gallwn ni ymddiried yn y newyddion a’r wybodaeth rydym ni’n eu darllen? Cawsom sgwrs gyda NewsGuard am sut y gallwch sylwi ar gamwybodaeth yn y newyddion a gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen.

Ymunwch â ni i archwilio’r pwnc ymhellach a chael mynediad am ddim am flwyddyn i estyniad porwr NewsGuard trwy fynychu ein sesiwn sgiliau digidol ar-lein rhad ac am ddim: Deall a diogelu eich hun rhag camwybodaeth ar-lein gyda NewsGuard am 10yb ar 19 Ebrill. Cofrestrwch yma.

Beth mae NewsGuard yn ei wneud?

“Mae NewsGuard yn offeryn ymddiriedaeth rhyngrwyd sy’n helpu i ddiogelu pobl, brandiau, a democratiaethau rhag bygythiadau camwybodaeth. Mae’n tîm o newyddiadurwyr yn sgorio hygrededd gwefannau newyddion a gwybodaeth yn seiliedig ar naw maen prawf anwleidyddol, a gallwch ddarllen mwy amdanyn nhw yma. Rydym yn archwilio pethau fel gwirio a yw’r wefan yn cyhoeddi cynnwys ffug yn rheolaidd, yn cywiro ac yn amlygu gwallau yn rheolaidd, ac yn labelu hysbysebion yn glir. Ochr yn ochr â’n sgoriau Dibynadwyedd Ffynhonnell, rydym yn cyhoeddi Label Maeth ar gyfer pob gwefan. Adolygiad yw hwn sy’n esbonio’r sgoriau rydym ni wedi’u rhoi i bob gwefan. Mae’r cyd-destun pellach hwn i’r wefan yn galluogi pobl i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am y ffordd maen nhw’n ymwneud â hi.”

Beth yw camwybodaeth?

“Camwybodaeth yw gwybodaeth sy’n ffug neu’n anghywir, ac yn anffodus, mae’n gyffredin ar-lein. Weithiau mae’n digwydd oherwydd arferion newyddiadurol gwael, ac mae’n digwydd ar adegau eraill o ganlyniad i weithredoedd rhai sy’n ceisio twyllo defnyddwyr y rhyngrwyd.”

Beth allai ddigwydd os nad ydych chi’n diogelu eich hun rhag camwybodaeth?

“Os nad ydym ni’n gwirio camwybodaeth, gall achosi goblygiadau difrifol ar ein dealltwriaeth a’n gwerthusiad o newyddion a digwyddiadau, ac arwain at ganlyniadau enbyd i’n hiechyd ni a chymdeithas ehangach yn y byd go iawn. Er enghraifft, yn ystod y pandemig, cyfrannodd yr ymchwydd o gamwybodaeth iechyd at ddrwgdybio cyrff iechyd swyddogol fel y GIG, a danseiliodd ymdrechion iechyd cyhoeddus i frwydro yn erbyn lledaeniad y feirws ac a beryglodd mwy o fywydau yn y pen draw. Daw enghraifft arall o Ymchwiliad NewsGuard a ddatgelodd rwydweithiau o safleoedd cyfryngau pleidiol a oedd yn esgus bod yn wefannau newyddion lleol, a llawer ohonyn nhw’n lledaenu naratifau ffug yn ystod etholiadau canol tymor yr Unol Daleithiau.”

Pwy sy’n wynebu’r perygl mwyaf?

“Mae’n debygol bod pob un ohonom wedi dod ar draws camwybodaeth ar-lein rhywbryd. Er hynny, mae ymchwil yn awgrymu mai’r henoed sydd fwyaf agored i niwed.  Maen nhw lawer iawn yn fwy tebygol o rannu a derbyn newyddion ffug, ac maen nhw’n tueddu i ymddiried fwy ac o fod yn llai sinigaidd am y newyddion maen nhw’n ei ddarllen ar-lein. Ond gan eu bod wedi cael eu magu cyn i newyddion fod ar gael ar-lein 24/7 ar-lein ac felly nad oedden nhw’n derbyn newyddion yn barhaus drwy’r dydd, maen nhw’n aml yn well am oedi cyn gwneud penderfyniadau am hygrededd ffynhonnell newyddion neu honni eu bod yn gredadwy na phobl iau, sy’n fwy cyfarwydd â chael mynediad at wybodaeth yn syth a diweddaru platfformau newyddion ac apiau. Wrth i’r boblogaeth heneiddio, mae’n hanfodol ein bod ni’n darparu’r offer sydd eu hangen ar oedolion hŷn er mwyn atgyfnerthu eu gwytnwch yn erbyn camwybodaeth.”

Oes gennych chi unrhyw gynghorion ar gyfer sylwi ar gamwybodaeth ar-lein, a ble all pobl fynd er mwyn dysgu mwy?

“Mae’n bwysig bod yn ofalus wrth ddod ar draws ffynhonnell anghyfarwydd o wybodaeth ar-lein. Dylech chi gwestiynu pa ffynonellau y cyfeirir atyn nhw yn yr erthygl, p’un a ydy’r hyn rydych chi’n ei ddarllen yn cael ei gyflwyno fel ffaith neu farn, a dylech chi geisio cadarnhau’r wybodaeth yn yr erthygl gyda gwybodaeth o ffynonellau eraill rydych chi’n tybio sy’n rhai rhai dibynadwy.

“Mae “darllen ochrol” yn ymarfer defnyddiol, sef darllen am ffynhonnell y wybodaeth rydych chi’n ei darllen ochr yn ochr â’r erthygl ar y ffynhonnell ei hun. Er enghraifft, os ydych chi wedi lawrlwytho estyniad porwr NewsGuard, gallwch chi ddarllen adolygiad Label Maeth y wefan a dysgu am ei safonau newyddiadurol, ochr yn ochr â darllen yr erthygl ar y wefan ei hun. Mae darllen ochrol yn eich helpu i feddwl yn feirniadol am ansawdd ffynhonnell, a gall eich helpu i  werthuso pa mor ddibynadwy yw’r wefan ac a yw hi werth ei darllen neu ei rhannu.

“Gall estyniad porwr NewsGuard fod yn offeryn defnyddiol i’ch helpu i benderfynu ar hygrededd ffynhonnell newyddion. Mae defnyddwyr yn cael mynediad i’n sgoriau Dibynadwyedd Ffynhonnell, sy’n cwmpasu 95% o ymgysylltiadau â newyddion a gwybodaeth ar-lein yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’n mannau eraill ar draws Gogledd America, Ewrop, ac yn Awstralia a Seland Newydd. Gyda’r estyniad porwr hwn cewch fynediad i’n Labeli Maeth, sy’n esbonio pam ein bod wedi rhoi’r sgoriau penodol hynny i bob gwefan. Gallwch lawrlwytho ein hestyniad porwr yma.”