Neidiwch i’r prif gynnwys

Mae digidol yn hanfodol i gymunedau gwledig – nid yn braf ei gael

Mae Cadi Cliff, Rheolwr Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, yn tynnu sylw at broblemau allgau digidol yng nghefn gwlad Cymru a sut mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i'r rheini yn yr ardal.

A photograph of rural scenery featuring a gate

Mae cysylltedd digidol dibynadwy yn hanfodol i gymunedau gwledig, neu byddant yn cael eu gadael ar ôl – ond nid yw’n ymwneud â seilwaith yn unig. Er mwyn i bobl allu ymgysylltu â byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion – fel cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, gweithio gartref, neu gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu – mae angen iddynt feddu ar y sgiliau digidol a’r hyder hefyd. Rydym eisiau Cymru lle nad oes unrhyw un wedi’i allgáu’n ddigidol na’i adael ar ôl.

Beth yn union yw allgáu digidol?

Mae’n set ryng-gysylltiedig o broblemau gyda’r rhyngrwyd gan gynnwys dim mynediad iddo, heb ddyfais i gysylltu ag ef, a diffyg sgiliau neu hyder i’w ddefnyddio. Yng Nghymru, mae’r heriau i gynhwysiant digidol yn cynnwys amddifadedd cymdeithasol, poblogaeth sy’n heneiddio a chysylltedd band eang gwael mewn ardaloedd gwledig anghysbell.

Mae Ofcom (2021) yn nodi nad oes gan ryw 7,850 o adeiladau yng Nghymru fynediad at fand eang boddhaol na signal 4G boddhaol. Er nad yw telathrebu wedi’i ddatganoli i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ers degawdau mewn seilwaith band eang ac mae Strategaeth Ddigidol Cymru (2021) yn nodi sut y byddant yn parhau i gamu i’r adwy i wella cysylltedd digidol ledled y wlad.

Y tu hwnt i geblau yn y ddaear i wella cysylltedd, beth sydd angen ei sefydlu i sicrhau bod gennym gymunedau cysylltiedig?

Mae 93% o’r boblogaeth yng Nghymru ar-lein (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2021-22), ond nid oes gan 22% o’r rhai sydd ar-lein y sgiliau digidol hanfodol sydd eu hangen i lywio’r byd ar-lein. Nid yw’n ddigon cael data a dyfais, mae angen y sgiliau digidol a’r hyder arnoch hefyd.

Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles (CDC) yw prif raglen cynhwysiant digidol cenedlaethol Llywodraeth Cymru, a ddarperir gan Cwmpas. Mae CDC yn darparu cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant am ddim i sefydliadau ar draws pob sector yng Nghymru i wella sgiliau digidol a hyder eu staff a’r rhai y maent yn eu cefnogi.

Ers mis Gorffennaf 2019, mae CDC wedi ymgysylltu â dros 1,900 o sefydliadau ledled Cymru, gan arwain at fwy na 6,200 o staff rheng flaen yn datblygu eu sgiliau digidol sylfaenol a’u hyder, yn ogystal â chefnogi mwy na 127,000 o bobl gyda’r cymhelliant a’r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn effeithiol. Ers mis Hydref 2021 mae CDC hefyd wedi darparu dros 95 terabeit (mae hynny’n cyfateb i ddal 95,000 o gopïau o’r Encyclopedia Britannica!) o ddata i sefydliadau yng Nghymru, yn amrywio o ganolfannau cymunedol i adrannau byrddau iechyd, i’w cefnogi i fynd ar-lein.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan The Clerk.