Neidiwch i’r prif gynnwys

Wythnos Gweithredu ar Ddementia 2023: Hyfforddiant sgiliau digidol am ddim i helpu pobl sy’n byw gyda dementia

Rydym wedi partneri â Chymunedau Cyfeillgar Dementia Gwent i gyflwyno cyfres o sesiynau hyfforddi am ddim ar gyfer Wythnos Gweithredu ar Ddementia 2023.

An elderly man looks at a tablet device

Fel rhan o Wythnos Gweithredu ar Ddementia, a gynhelir rhwng 15-19 Mai 2023, mae Cymunedau Digidol Cymru a Cymunedau Deall Dementia Gwent wedi partneru i ddarparu cyfres o sesiynau hyfforddi am ddim i bobl yng Ngwent sy’n byw gyda dementia, eu teulu, ffrindiau, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol.

Nod y sesiynau hyn yw cefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldeb gofalu i allu gwella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia trwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Mae’r chwe sesiwn ar-lein yn cynnwys pynciau fel atgofio, adrodd straeon digidol, a defnyddio dyfeisiau clyfar.

Mae adroddiad diweddar ar Ddementia a Digidol gan ein partneriaid Good Things Foundation yn argymell y gall cyfranogiad digidol chwarae rhan werthfawr mewn gwella ansawdd bywydau trwy gynnig ffynhonnell o wybodaeth a chyngor, darparu cefnogaeth ymarferol, galluogi cysylltiadau cymdeithasol, yn ogystal â bod yn ffynhonnell o ymlacio, adloniant a ffordd i ddilyn diddordebau. Fodd bynnag, mae allgau digidol yn parhau i fod yn broblem sylweddol ymhlith gofalwyr a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor.

Drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau sy’n cynnig cymorth i grwpiau sydd wedi’u hallgau’n ddigidol, gall Cymunedau Digidol Cymru ddatblygu a darparu hyfforddiant pwrpasol am ddim sy’n mynd i’r afael â rhwystrau ac yn datgloi manteision bod ar-lein. Gall unrhyw sefydliad gysylltu â ni i drefnu hyfforddiant neu am ragor o wybodaeth.

Esboniodd Angela Jones, Cynghorydd Cynhwysiant Digidol gyda Cymunedau Digidol Cymru…

“Er y gall dementia fod yn gyflwr anodd i’w reoli, mae technoleg a’r rhyngrwyd wedi darparu amrywiaeth o offer, dyfeisiau ac adnoddau newydd a all wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl sy’n byw gyda’r cyflwr.”

Dywedodd Cymunedau Cyfeillgar i Ddementia Gwent…

“Mae Cymunedau Cyfeillgar i Ddementia Gwent yn cynnwys ystod eang o bartneriaid ac aelodau o fewn y gymuned sydd i gyd yn dod at ei gilydd i rannu eu hangerdd i wella ein cymunedau ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

“Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru gan roi cyfle i gynyddu dysgu a dealltwriaeth am ddementia yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddementia.”

Canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22 fod 11% o bobl â salwch hirdymor ddim ar-lein. Gyda mwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau’r GIG, yn symud ar-lein, mae’n bryder gwirioneddol y bydd pobl yn colli allan ar ofal hanfodol oherwydd nad eu bod ar-lein.

Mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, elusennau, cymdeithasau tai, a mwy i ddarparu hyfforddiant a chymorth am ddim i uwchsgilio staff sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau agored i niwed sydd mewn perygl o allgau digidol. Cysylltwch a ni i ddarganfod sut y gallwn gefnogi eich sefydliad.

Cofiwch ledu’r gair am Wythnos Gweithredu ar Ddementia 2023:

•  Ewch i https://www.alzheimers.org.uk/get-involved/dementia-action-week i ddysgu mwy am yr ymgyrch.

•  Dilynwch @alzheimerssoc ar Twitter a Alzheimer’s Society ar Facebook.

•  Ymunwch â’r sgwrs genedlaethol gan ddefnyddio’r hashnod #WythnosActionDementia.

•  Darllenwch yr adroddiad yma ar Ddementia a Digidol gan ein partneriaid Good Things Foundation.