Neidiwch i’r prif gynnwys

Mae beiciau digidol yn helpu trigolion ClwydAlyn i fynd ar daith ar hyd llwybrau’r cof

DCW Digital Advisors Deian ap Rhisiart and pupils from Ysgol David Hughes show a resident at Hafan Cegni how to use a digital bike.

Yn ddiweddar, cafodd trigolion cynllun Gofal Ychwanegol Hafan Cefni ClwydAlyn ar Ynys Môn feic digidol a adeiladwyd gan fyfyrwyr chweched dosbarth Ysgol David Hughes, Porthaethwy mewn partneriaeth â Cymunedau Digidol Cymru.

Cafodd y Disgyblion Safon Uwch, dan arweiniad swyddogion o brosiect ‘Llwybrau’r Cof’ Cymunedau Digidol Cymru, y dasg o gydosod y beic ymarfer corff a chreu cysylltiad digidol i feddalwedd Google Street View, gan alluogi’r beiciwr i gael taith hamddenol ar feic mewn lleoliad o’u dewis.

Wedi’i reoli gan asiantaeth ddatblygu Cwmpas, Cymunedau Digidol Cymru yw rhaglen cynhwysiant digidol genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae’r prosiect, a oedd yn bartneriaeth rhwng Ysgol David Hughes, Cymunedau Digidol Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a North Wales Recycle IT wedi rhoi ffordd amgen o ymarfer corff i drigolion Hafan Cefni tra’n mynd ar daith ar hyd llwybrau’r cof hefyd, rhywbeth nad yw rhai wedi’i wneud ers blynyddoedd.

Siaradodd Brenda Huws, Rheolwr Gofal Ychwanegol Hafan Cefni â ni am sut daeth y sesiwn i fodolaeth a’r manteision i’r preswylwyr a’r myfyrwyr:

“Cysylltodd tîm Llwybrau’r Cof â ni i fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn ac roedden ni wrth ein boddau.

“Cymerodd y trigolion ran mewn rhywbeth tebyg i’r beic digidol ychydig flynyddoedd yn ôl gan fwynhau’n fawr, ond dim ond ar gyfer yr un sesiwn honno y cawsom ni’r beic y tro hwnnw. Mae’r hyn y mae myfyrwyr Ysgol David Hughes wedi’i wneud yn anhygoel ac maen nhw wir wedi rhoi bywyd newydd i drigolion Hafan Cefni, gan roi rhywfaint o annibyniaeth y gallen nhw fod wedi’i golli ar hyd y blynyddoedd, yn ôl iddyn nhw.

“Roedd hefyd yn wych gweld y bobl ifanc yn rhyngweithio â’r preswylwyr trwy gydol y dydd a’u gweld yn datgloi atgofion craidd wrth fynd ar daith ar hyd llwybr cyfarwydd, gan hel atgofion am yr hen ddyddiau.”

Mae’r beic hwn nid yn unig yn cynnig profiad diogel a phleserus i drigolion Hafan Cefni, ond hefyd fe roddodd gyfle i fyfyrwyr Ysgol David Hughes ddatblygu sgiliau newydd yn ogystal â datrys problemau wrth adeiladu’r beic.

Ychwanegodd Deian Ap Rhisiart o Cymunedau Digidol Cymru:

“Roedd yn wych cael y cyfle i weithio gyda’r myfyrwyr i ddatblygu ac adeiladu’r beic yma i drigolion Hafan Cefni ei fwynhau. Rydyn ni’n gwybod fod manteision enfawr i weithgarwch corfforol, a gobeithio, drwy gael y beic yma’n barhaol yn Hafan Cefni, y bydd y trigolion yn elwa, nid yn unig o ran eu hiechyd corfforol ond hefyd eu hiechyd meddwl.

“Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r prosiect, i’r myfyrwyr, Daron Harris a gweddill staff addysgu Ysgol David Hughes am ymgymryd â’r her, fy nghydweithiwr Simon Jones am gefnogi’r myfyrwyr i adeiladu’r beic digidol, Cyngor Sir Ynys Môn am gyfrannu £1,000 tuag at brynu’r beiciau a North Wales Recycle IT a fu mor garedig â rhoi gliniaduron wedi’u hail-bwrpasu ar gyfer pob beic. Roedd eu brwdfrydedd i gwblhau’r prosiect hwn yn wych ac roedd yn hyfryd gweld ffrwyth ein llafur yn cael ei drosglwyddo i drigolion gael mwynhau eu hunain.”

Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan ClwydAlyn.