Neidiwch i’r prif gynnwys

Cadw’r Dyddiad: Wythnos Addysg Oedolion 2023

A woman takes notes while learning online

Mae Wythnos Addysg Oedolion, yn digwydd eleni rhwng 17-23 Medi, yn gweld sefydliadau ar draws y wlad yn dod at ei gilydd i gynnal ystod o gyrsiau, sesiynau blasu, diwrnodau agored, digwyddiadau ac adnoddau am ddim, sydd yn hygyrch i bawb. Mae Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle i wneud cysylltiadau er mwyn dilyn llwybr gyrfa newydd, mynd â diddordebau i’r lefel nesaf, cwrdd â phobl o’r un anian, neu roi cynnig ar rywbeth newydd.

Wedi’i gydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Llywodraeth Cymru, bydd siawns i ymuna ar sesiynau rhad ac am ddim ar-lein ac yn bersonol. Nid yn unig mae sesiynau i ddatblygu sgiliau digidol, ond ar gyfer celf a chrefft, sgiliau gweithle, y gwyddorau, ieithoedd, a mwy! Dechreuwch trwy edrych ar Galendr Wythnos Addysg Oedolion.

Beth mae Cymunedau Digidol Cymru yn ei wneud i ddathlu

Bydd Cymunedau Digidol Cymru yn cynnal dwy sesiwn sgiliau digidol ar-lein am ddim ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion – ac rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan. Dysgwch mwy isod a chliciwch ar y dolenni i gofrestru:

Dysgu Cymraeg gyda Offer Digidol – 18 Medi | 2-3yh

Cyflwynir y sesiwn hon yn Saesneg yn unig. Fe’i cynlluniwyd i ddarparu adnoddau lefel mynediad i ddysgwyr Cymraeg.

Yn y sesiwn hwn, byddwn ni’n:

  • Trafod hanes y Gymraeg a sut mae wedi goroesi newidiadau diwylliannol.
  • Dangos amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg, sy’n addas ar gyfer dechreuwyr, lefelau canolradd, a lefelau uwch.
  • Arddangos ffyrdd i ymdrochi eich hun yn y Gymraeg pan fyddwch chi’n defnyddio’r rhyngrwyd.

Register here.

Cyflwyniad i fod yn Bencampwyr Digidol – 22 Medi | 10-11:30yh

Cyflwynir y sesiwn hon yn Saesneg yn unig. Bydd y sesiwn hon yn pwysleisio pwysigrwydd cynhwysiant digidol ac yn amlinellu rôl Pencampwyr Digidol o fewn yr agenda cynhwysiant.

Yn y sesiwn hwn, byddwn ni’n:

  • Cyflwyno’r agenda cynhwysiant digidol.
  • Rhoi trosolwg o’r sgiliau digidol hanfodol.
  • Trafod beth mae bod yn Pencampwyr Digidol yn ei olygu, gan gynnwys sgiliau personol a fydd yn cael eu datblygu fel hyrwyddwr.

Register here.

Lledaenu’r gair