Gwarchod treftadaeth enwau lleoedd Cymru yn ddigidol
Mae enwau lleoedd yn bwnc emosiynol iawn yng Nghymru, gyda ymgyrchoedd cyson yn anelu i ddiogelu a gwarchod enwau mynyddoedd, bryniau, llynnoedd, clogwyni, ffermydd, tai, ponciau chwarael ac yn y blaen ac yn y blaen. Ond yn yr oes ohoni sy’n mynd yn fwy fwy digidol, mae’n hanfodol bwysig fod ein diwylliant yn cael ei warchod at y dyfodol hefyd trwy’u cofnodi’n ddigidol.
Mae gan Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru ofod cynhwysfawr ar y We sy’n cynnwys newyddion, fideos ac adnoddau trwy’r wefan ganlynol a’u safle ar Facebook.
Yn ôl y wefan, “Mae ein henwau lleoedd yn wynebu bygythiad difrifol a chyson wrth iddynt gael eu newid, eu cyfieithu neu eu diystyru.”
Mae Mapiau Cymru yn safle arall sy’n mynd ati i gofnodi enwau ar fap yn ddigidol. Ceir casgliad digidol llais Cymru sy’n cynnwys recordiadau yn ynganu’n gywir enwau lleoedd o Fôn i Fynwy. Rhywbeth allweddol er mwyn helpu mewnfudwyr i allu ymgynefino gyda’n diwylliant. Mae openstreetmap.cymru hefyd yn fap sy’n ddewis amgen yn lle Google maps, ac mae miloedd o enwau Cymraeg wedi’u cofnodi ar y map hwn.
Er gwybodaeth, mae gan Comisynydd y Gymraeg restr fawr o enwau lleoedd safonol Cymraeg.
Fel rhan o gyfres hynod o ddifyr, Cynefin ar S4C, mae’r cyflwynydd Tudur Owen yn olrhain tarddiad rhai o enwau lleooedd Cymru a thu hwnt trwy glipiau byr ar Youtube.com. Os rhowch Cynefin: S4C yn y chwiliwr ar YouTube, mae yna esboniadau diddorol iawn gan Tudur o sawl enw fel Llundain, Llandudno a Chasgwent.
Ac os gennych ddiddordeb mewn tarddiad enwau, mae gan Eiriadur Prifysgol Cymru wefan sy’n cynnwys tarddiad enwau.
Mae yna grwpiau hefyd ar Facebook fel Eryri Wen sy’n ymgyrchu i ddiogelu enwau ar lethrau mynyddoedd Eryri ac enwau ponciau ar chwarel lechi Dinorwig. Mae’r dudalen facebook yn cael ei diweddaru’n gyson ac fe geir trafodaeth fywiog yno ar hen enwau Eryri. Mae safle Facebook Menter Fachwen yn blatfform da er mwyn dod i wybod am enwau lleoedd yn ardal Eryri.
Felly, cofiwch, mae digonedd o blatfformau a mudiadau sy’n brysur yn y maes hwn yn diogelu ein hetifeddiaeth tirweddol ac yn ei roi ar gof a chadw digidol.
Ysgrifennwyd gan Deian apRhisiart, Ymgynghorydd Cynhwysiant Digidol yn Cymunedau Digidol Cymru