Neidiwch i’r prif gynnwys

Rhy dda i fod yn wir? Diogelu eich hun ac eraill rhag sgamiau ar-lein

A person using a mobile device

 

Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn fenter fyd-eang sy’n hyrwyddo’r angen i ddefnyddio technoleg ddigidol yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Bob blwyddyn, dyma ddathliad mwyaf y DU o ddiogelwch ar-lein.

Eleni, mae’n canolbwyntio ar sgamiau ar-lein, a sut i amddiffyn eich hun ac eraill, yn enwedig pobl ifanc.

Mae mynediad at y rhyngrwyd yn bwysicach nag erioed, gydag iechyd, addysg, cyllid, a chyfleoedd i gadw mewn cysylltiad â’n gilydd, i gyd wedi’u lleoli’n gadarn ar-lein – ond gyda phŵer y rhyngrwyd yn cynyddu, felly hefyd mae’r peryglon.

Sut ydych chi’n gwybod beth sy’n ddiogel, a beth yw sgam?

Ydy’r cynnig hwnnw’n rhy dda i fod yn wir?

Mae Cwmpas, y sefydliad sy’n darparu’r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, wedi bod yn cyflwyno mentrau ar ran Llywodraeth Cymru i helpu trigolion Cymru i fynd ar-lein ers 20 mlynedd.

Yma, mae aelodau staff Cymunedau Digidol Cymru yn cynnig eu cynghorion gorau i godi ymwybyddiaeth o sgamiau ar-lein, ac i’ch helpu i gadw’n ddiogel ar-lein.

 

Byddwch yn wyliadwrus o negeseuon testun twyllodrus (‘SMS-rwydo’)

Yn y byd digidol sydd ohoni, mae ein ffonau clyfar yn rhan annatod o’n bywydau. O gyfathrebu gyda ffrindiau a theulu, i siopa a bancio, rydyn ni’n cael ein llethu gan negeseuon o ddydd i ddydd.

Ond sut rydyn ni’n gwybod pa negeseuon sy’n ddiogel, a pha rai sy’n dwyllodrus?

Mae negeseuon testun twyllodrus (sy’n cael eu galw hefyd yn ‘SMS-rwydo’) ar gynnydd. Mae’r negeseuon testun maleisus hyn yn aml yn dynwared negeseuon cyfreithlon gan fanciau, cwmnïau dosbarthu, neu asiantaethau’r Llywodraeth. Dyma rai enghreifftiau o’r math yma o negeseuon testun:

  • Cyfrif banc – ‘mae gweithgarwch amheus wedi bod ar eich cyfrif; cliciwch ar y ddolen hon i wirio’ch cyfrif.’
  • Cwmnïau dosbarthu yn eich hysbysu am becyn na chafodd ei ddosbarthu ac yn eich cyfeirio at ddolen i wneud taliad.
  • Mae’n bosib y bydd sgamiau sy’n gysylltiedig â’r Llywodraeth yn honni bod ad-daliad treth yn ddyledus i chi, a bydd yn cynnwys dolen i chi glicio arni i hawlio’ch ad-daliad.

Mae’r holl enghreifftiau hyn yn pwysleisio brys ac yn gofyn ichi glicio ar ddolen sy’n mynd â chi at wefan ffug a all gymryd eich manylion mewngofnodi, manylion cyfrif banc neu ofyn ichi dalu cwmni ffug.

Mae’r neges destun ffug sy’n ymwneud â ‘methu â dosbarthu pecyn’ yn arbennig o gyffredin yn y cyfnod cyn y Nadolig, pan mae llawer o bobl yn wir yn aros am nwyddau. Ond fyddai cwmni dosbarthu cyfreithlon byth yn cysylltu â chi fel hyn.

Sut i adnabod neges destun dwyllodrus?:

  • Gwiriwch yr anfonwr. Byddwch yn wyliadwrus o negeseuon annisgwyl neu negeseuon o rifau anhysbys. Anaml y bydd cwmnïau cyfreithlon yn anfon ceisiadau brys trwy neges destun.
  • Chwiliwch am wallau gramadegol a dolenni amheus. Mae testunau gwe-rwydo yn aml yn cynnwys camgymeriadau sillafu a gramadeg gwael.
  • Osgowch glicio ar ddolenni. Peidiwch â chlicio ar ddolenni neu atodiadau oni bai eich bod yn sicr eu bod yn gyfreithlon.
  • Byddwch yn wyliadwrus a chofiwch hyn: os yw neges yn ymddangos yn rhy frys neu’n amheus, mae bob amser yn well gwirio eto cyn gweithredu.

Matthew Bevan – Cynghorydd Cynhwysiant Digidol

 

Byddwch yn wyliadwrus o ffugio gwefannau

Ffugio gwefan yw pan fo drwgweithredwr yn creu gwefan ffug sy’n debyg iawn i wefan gyfreithlon neu’n ei dynwared yn fanwl gywir.

Mae ymosodwyr seiber yn gynyddol yn defnyddio cyfathrebiadau ffug i dwyllo dioddefwyr i drosglwyddo eu gwybodaeth bersonol neu arian.

Mae ymosodwyr yn aml yn defnyddio e-byst gwe-rwydo neu negeseuon testun twyllodrus (gweler uchod) neu hysbysebion maleisus i gael defnyddwyr i glicio ar ddolen sy’n eu cyfeirio at y wefan ffug.

Beth ddylech chi ei wneud i osgoi cael eich twyllo? :

  • Osgowch ddolenni amheus ac atodiadau anhysbys.
  • Gwiriwch gyfeiriad y wefan ddwywaith.
  • Erbyn hyn, mae gan y rhan fwyaf o wefannau eicon clo clap wrth ymyl yr URL, sy’n nodi bod y wefan wedi’i hamgryptio. Mae hyn yn golygu nad oes modd i rywun arall amharu ar bori neu’r broses o wneud taliadau. Os sylwch nad oes gan safle yr eicon hwn, byddwch yn wyliadwrus.
  • Gwyliwch am Saesneg gwael, fel camgymeriadau sillafu a gramadeg, neu ymadroddion sydd ddim yn swnio’n hollol iawn.
  • Os yw prisiau’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg eu bod yn dwyll.
  • Os nad oes gan y wefan dudalen ‘Cysylltwch â Ni’, gallai fod yn dwyllodrus.
  • I wirio cyfreithlondeb gwefan, defnyddiwch offeryn gwirio gwefannau fel y Free Website Scam Checker – Check a website by Get Safe Online

Os sylwch nad yw rhywbeth yn edrych yn iawn, STOPIWCH.

Peidiwch â chlicio ar unrhyw beth. Riportiwch y wefan.

Os ydych chi eisoes wedi gwneud rhywbeth ar y wefan, mae help ar gael. Os ydych chi wedi colli arian i sgam ac wedi talu gyda cherdyn credyd neu ddebyd, neu wedi trosglwyddo arian o’ch cyfrif, rhowch wybod i’ch banc neu ddarparwr taliadau cyn gynted â phosibl, a rhowch wybod i Action Fraud am y digwyddiad.

Anita Leimane – Intern gyda’r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru

 

Sgam ‘yr argyfwng teulu’

Ymdrechion twyllodrus yw’r sgamiau hynny lle mae sgamwyr yn esgus bod yn rhywun rydych chi’n ei nabod neu’n ymddiried ynddo er mwyn dwyn eich arian neu wybodaeth bersonol. Gall y sgamiau hyn ddigwydd trwy alwadau ffôn, e-byst, negeseuon testun neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallai’r sgamiwr fod yn swyddog y Llywodraeth, cynrychiolydd banc, asiant cymorth technoleg, neu ffrind neu aelod o’r teulu.

Math cyffredin o’r sgam hwn yw sgam ‘yr argyfwng teulu’, lle mae sgamwyr yn dynwared aelod o’r teulu mewn trallod, gan honni ei fod mewn trafferth a bod angen arian ar frys. Efallai y bydd yn dweud ei fod wedi bod mewn damwain, bod ganddo filiau brys i’w talu, neu ei fod yn sownd ac yn methu cyrraedd adref. Nod y sgamiwr yw creu ymdeimlad o banig, gan eich annog i weithredu’n gyflym ac anfon arian heb gwestiynu’r sefyllfa.

Er mwyn osgoi dioddef sgam ‘yr argyfwng teuluol’:

  • Holwch pwy yw’r person sy’n cysylltu â chi.
  • Peidiwch byth â rhannu gwybodaeth sensitif fel cyfrineiriau neu fanylion banc heb fod yn hollol siŵr o bwy sy’n gwneud y cais.
  • Byddwch yn wyliadwrus o dactegau sy’n ceisio rhoi pwysau arnoch chi i weithredu ar unwaith.
  • Os ydych chi’n amau ​​sgam, cysylltwch â’r person neu’r cwmni yn uniongyrchol gan ddefnyddio sianeli cyfathrebu dibynadwy i gadarnhau.

Jared Jones – Intern Cyfathrebu gyda’r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru

 

Y sgam ‘mae gan eich dyfais firws’

Gyda’r sgam ‘cymorth technoleg’, efallai y cewch chi hysbysiad ffug neu alwad ffôn gan sgamwyr yn honni bod eich dyfais ddigidol wedi’i heintio neu fod ganddi firws, ac maen nhw’n cynnig ‘trwsiadau’ costus, diangen.

Sut mae’r sgam yn gweithio?:

  • Galwadau Gwe-rwydo: Mae sgamwyr sy’n dynwared cwmnïau cyfreithlon adnabyddus yn ffonio’ch ffôn, gan ddefnyddio tactegau dychryn i’ch argyhoeddi a rhoi pwysau arnoch i roi mynediad o bell iddyn nhw at eich dyfais ddigidol.
  • Hysbysiadau ffug: Mae ‘ffenestri naid’ (pop-ups) neu rybuddion yn eich annog i ‘Ffonio’r Rhif Hwn ar Frys!’ am gymorth.
  • Sgamiau E-bost: E-byst sy’n cynnwys teitlau brawychus fel ‘Angen Gweithredu Ar Unwaith!’ Mae’r e-byst hyn yn aml yn cynnwys dolenni at wefannau maleisus neu atodiadau a all heintio’ch dyfais.

Cynghorion i amddiffyn eich hun ac eraill:  

  • Fyddai cymorth cyfreithlon byth yn defnyddio tactegau dychryn ac yn eich cymell i weithredu ar frys.
  • Byddwch yn wyliadwrus o rifau anhysbys sy’n eich ffonio, yn enwedig rhifau ffôn symudol.
  • Oni bai eich bod yn hollol siŵr o bwy sy’n rhoi’r cymorth technegol i chi, peidiwch â rhoi mynediad o bell.
  • Oni bai eich bod yn hollol siŵr, peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni na mewnbynnu unrhyw ‘god unigryw’.

Mohammed Basit – Cynghorydd Cynhwysiant Digidol

 

Rhy dda i fod yn wir? Mae’n debyg mai sgam ydyw.

Dyw cystadlaethau â rhoddion sy’n addo cynhyrchion am ddim neu wobrau ddim bob amser fel y maen nhw’n ymddangos.

Gall yr addewid o rywbeth am ddim fod yn demtasiwn, ond y perygl yw’r hyn y mae sgamwyr yn ei wneud â’ch gwybodaeth.

Sut mae’r twyll yn gweithio?:

  • Mae sgamwyr yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, e-byst, neu hysbysebion naid i’ch denu gyda chynigion o gynhyrchion am ddim, cardiau rhodd, neu wobrau unigryw.
  • Er mwyn hawlio’r wobr, byddan nhw’n gofyn am eich manylion personol – eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn – ac yn aml ‘ffi’ fach ar gyfer costau dosbarthu.
  • Mewn gwirionedd, does dim gwobr; mae twyllwyr yn defnyddio’r manylion hyn i’ch twyllo.

Sut i amddiffyn eich hun ac eraill?:

  • Os byddwch yn cael cynnig fel hwn, byddwch yn amheus.
  • Peidiwch byth â rhannu gwybodaeth bersonol neu ariannol â ffynonellau anghyfarwydd.
  • Os ydych chi wedi colli arian oherwydd sgam, ffoniwch eich banc ar unwaith gan ddefnyddio’r rhif ar gefn eich cerdyn a riportiwch y sgam i Action Fraud neu ffoniwch 0300 123 2040.

Mae’r rhyngrwyd yn cynnig diddanwch, gwybodaeth, ac yn fodd i ni gadw mewn cysylltiad â’n gilydd – ond mae angen i ni sicrhau nad yw yn ein rhoi ni na’n hanwyliaid mewn perygl.

Y cyngor gorau yw bod yn wyliadwrus a riportio unrhyw weithgaredd amheus i amddiffyn eich hun ac eraill rhag dioddef y sgamiau hyn.

Cofiwch: os yw’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod yn dwyll.

Angela Jones – Cynghorydd Cynhwysiant Digidol