Gwyddom y gallai cysylltedd digidol mewn cartrefi gofal gael ei wella, felly rydym wedi rhestru dolenni i wybodaeth a allai eich helpu. Mae’r dolenni’n rhai allanol, felly nid ni sy’n gyfrifol am y cynnwys. Hefyd, mae rhywfaint o’r wybodaeth wedi’i chynhyrchu’r tu allan i Gymru, felly ni fydd popeth yn berthnasol.
Cysylltedd digidol mewn cartrefi gofal

Safon Digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cartrefi Gofal
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu dogfen ar y safon ddisgwyliedig lefel-uchel ar gyfer cysylltedd rhwydwaith. Dyma ddogfen dechnegol sy’n gosod y sylfaen ar gyfer cysylltedd disgwyliedig yn eich cartref. Gallai eich cartref ddefnyddio’r ddogfen hon fel canllaw wrth gloriannu gwelliannau i gysylltedd gyda chyflenwyr.
Safon Digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cartrefi Gofal
Grantiau posibl sydd ar gael
Mae grantiau ar gael i gefnogi cost gosod cysylltiadau band eang newydd sy’n gallu gigabit.