Cymru yn ehangu mynediad digidol i drigolion tai cymdeithasol
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip - Jane Hutt
Bydd cyfle i fwy o bobl mewn tai cymdeithasol ddod yn ddefnyddwyr technoleg ddigidol hyderus cyn bo hir, wrth i Lywodraeth Cymru ehangu ei gynllun grant ‘Safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol’ llwyddiannus i gyrraedd mwy o ddarparwyr tai ledled Cymru.
Mae’r Safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yn sefydlu’r anghenion gofynnol, wedi eu diffinio gan ddinasyddion a sefydliadau, ar gyfer cynhwysiant digidol mewn cymdeithas fodern.
Gan adeiladu ar gynlluniau peilot llwyddiannus gyda Chymdeithasau Tai Sir Fynwy a Gogledd Cymru, mae’r grantiau yn helpu darparwyr tai cymdeithasol i roi hwb i hyder a sgiliau digidol eu preswylwyr. Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi cefnogi’r prosiectau peilot, lle bo gofyn, gydag hyfforddiant sgiliau digidol sylfaenol i breswylwyr i ddefnyddio technoleg yn ddiogel yn eu bywydau bob dydd.
Mae’r prosiectau peilot wedi arwain at fanteision clir i drigolion. Yng Nghymdeithas Tai Gogledd Cymru, cafodd gweithdai eu cynnal i helpu pobl i oresgyn ofnau am sgamiau ar-lein tra’n eu galluogi i ailddarganfod atgofion trwy deithiau rhithwir o leoedd o’u gorffennol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, Claire Shiland: “Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi bod yn allweddol wrth helpu Cymdeithas Tai Gogledd Cymru i lywio ac archwilio’r Safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol gyda’n trigolion. Mae eu harbenigedd a’u dull cydweithredol wedi ein galluogi i ddeall anghenion digidol ein preswylwyr yn well. Mae’n fwy am fesurau syml yn ymwneud â mynediad a sgiliau, mae’n gam tuag at ein helpu i ddechrau creu cymuned ddigidol fwy cynhwysol a hyderus.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: “Mae Cymru wedi bod yn arwain y ffordd o ran cynhwysiant digidol ers dros ddeng mlynedd, ac rwy’n eithriadol o falch o’n gwaith ar y Safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol. Mae’r dull hwn sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion yn cydnabod bod cynhwysiant digidol yn golygu mwy na mynediad i’r rhyngrwyd yn unig – mae’n ymwneud â chael y cyfarpar, y gwasanaethau a’r sgiliau digidol hanfodol i gymryd rhan lawn mewn bywyd modern.
“Mae allgáu digidol yn aml yn adlewyrchu anghydraddoldebau ehangach mewn cymdeithas. Dyna pam rydyn ni’n cymryd camau beiddgar i sicrhau bod pawb yn gallu elwa o dechnoleg ddigidol os ydyn nhw’n dewis gwneud hynny.”
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Phrifysgol Lerpwl, ochr yn ochr â Chwmpas, Prifysgol Loughborough a Good Things Foundation, i sicrhau bod y safon yn gweithredu fel fframwaith tuag at gynhwysiant digidol i bawb.
Gall Landlordiaid Tai Cymdeithasol Cofrestredig nawr wneud cais i ymuno â’r rhaglen estynedig tan 9 Mehefin, a bydd prosiectau llwyddiannus yn dechrau ym mis Gorffennaf.