Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Dechreuodd ymrwymiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i Gynhwysiant Digidol drwy benodi’r Rheolwr Cynhwysiant Digidol i ddatblygu Rhaglen Cynhwysiant Digidol sy’n cefnogi sgiliau digidol a datblygu hyder y gweithlu a’i boblogaeth ehangach, ac yn ystyried y manteision iechyd a llesiant ehangach sydd gan y byd digidol i’w gynnig. Fel bwrdd iechyd rydym yn awyddus i sicrhau bod ein poblogaeth yn cael yr un cymorth a mynediad i wasanaethau sydd eu hangen i ddefnyddio technoleg ddigidol yn llawn a hyderus. Rydym yn credu’n gryf mewn sicrhau bod cynhwysiant digidol yn cael ei weld fel y galluogwr allweddol i drawsnewid pob gwasanaeth yn ddigidol.
Mae ein strategaeth Ymateb Digidol yn nodi’n glir ac yn ymgorffori cynhwysiant digidol fel agwedd allweddol ar ein gwasanaethau bob dydd ac rydym yn ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch cynhwysiant digidol, y manteision a welwyd i boblogaeth sydd wedi’i grymuso a’i chynnwys yn ddigidol drwy ymgysylltu â’n rhanddeiliaid allweddol ac archwilio ffyrdd o ddylanwadu ar ymgorffori cynhwysiant digidol mewn strategaethau a pholisïau iechyd a gofal. Rydym yn gweithio tuag at sicrhau bod cynhwysiant digidol yn cael ei weld fel yr ystyriaeth allweddol ofynnol yn yr holl feysydd gwasanaeth a datblygiad gwasanaethau yn y dyfodol. Mae yna ymrwymiad clir yn yr ‘Ymateb Digidol’ i sicrhau bod cynhwysiant digidol yn cael ei ymgorffori drwy gynlluniau a phrosesau bob dydd y bwrdd iechyd i sicrhau nad yw’n poblogaeth yn cael ei gadael ar ei hôl.