Neidiwch i’r prif gynnwys

Cefndir Cymunedau Digidol Cymru

Nod Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yw lleihau allgau digidol yng Nghymru. Hoffem weld gwlad lle mae gan bawb y cymhelliant, y sgiliau a’r cyfle i ddefnyddio technoleg ddigidol yn hyderus.

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
Menyw yn derbyn cymorth ar gyfrifiadur

Pwy sy’n cyflawni’r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw hon a ddarperir gan Cwmpas mewn partneriaeth â’r rhaglen Good Things Foundation a ddechreuodd yn 2019 a bydd yn rhedeg tan fis Mehefin 2025.

Ffocws a nod Cymunedau Digidol Cymru rhwng 1 Ebrill 2024 a 30 Mehefin 2025 yw sefydlu a prif ffrydio cynhwysiant digidol mewn meysydd thematig a nodwyd gan sicrhau perchnogaeth ar gynhwysiant digidol.

Cwmpas

Mae Cwmpas (Canolfan Cydweithredol Cymru gynt) wedi bod yn darparu rhaglenni cynhwysiant digidol yng Nghymru ers 2005 (gan gynnwys Cymunedau@Ei Gilydd a Chymunedau 2.0) gyda’r nod o roi’r sgiliau a’r hyder i bobl deimlo eu bod wedi’u cynnwys yn fwy ac i gymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain.

Rydyn ni’n gweithio law yn llaw â chymunedau ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw. Drwy wneud hynny, rydyn ni eisiau newid y ffordd mae cymdeithas yn gweithio, fel nad yw pobl a chymunedau yn teimlo mwyach eu bod yn cael eu gadael ar ôl.

Good Things Foundation

Mae’r sefydliad hwn yn rheoli rhwydwaith o ganolfannau Cynhwysiant Digidol (Canolfannau Ar-lein y DU yn flaenorol) lle gall pobl ddefnyddio cyfrifiadur a chael cymorth i ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol. Cliciwch yma i weld y gwasanaethau sydd ar gael mewn Hwb yn agos atoch chi. Mae hefyd yn cyhoeddi adnoddau dysgu digidol ar blatfform Learn My Way ac yn arwain ymgyrch genedlaethol y DU, Get Online Week.

Ein hamcanion

  • Iechyd – Dinasyddion sydd wedi’u cynnwys a’u grymuso yn ddigidol
  • Iechyd – Gweithlu sy’n hyderus wrth ddefnyddio technoleg ddigidol i alluogi gofal diogel, effeithlon o ansawdd
  • Gofal Cymdeithasol – Gweithlu sy’n hyderus wrth ddefnyddio technoleg ddigidol i alluogi gofal diogel, effeithlon o ansawdd
  • Tai Cymdeithasol – Gweithlu hyderus yn ddigidol sy’n gallu cefnogi tenantiaid
  • Pobl Hŷn – Poblogaeth hŷn sy’n hyderus wrth gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau cyhoeddus ar-lein
  • Cymunedau Ethnig Lleiafrifol – Darparu cymunedau amrywiol â’r galluoedd, y cyfleoedd a’r cymhellion i ymgysylltu’n llawn drwy wasanaethau ar-lein a thechnoleg ddigidol
  • Cymunedau Ethnig Lleiafrifol – Darparu’r galluoedd, y cyfleoedd a’r cymhellion i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr  ymgysylltu’n llawn drwy wasanaethau ar-lein a thechnoleg ddigidol

Gyda phwy rydyn ni’n gweithio?

Mae ein cymorth yn rhad ac am ddim ac mae’n cwmpasu amrywiaeth o wahanol feysydd thematig: Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Tai Cymdeithasol, Pobl Hŷn, Cymunedau Ethnig Lleiafrifol, a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Rydyn ni yma i weithio gyda sefydliadau yn y meysydd thematig hyn i’w cynorthwyo i sefydlu cynhwysiant digidol, gan sicrhau perchnogaeth a chydnerthedd ar y cyd.

Gwyddom mai’r ffordd orau o gyrraedd cymunedau sy’n profi allgau digidol yw gweithio gyda’r wynebau a’r sefydliadau dibynadwy sy’n eu cynorthwyo’n uniongyrchol. Bydd ein cymorth yn adlewyrchu hyn wrth i ni weithio gyda sefydliadau i sicrhau bod gan eu staff a’u gwirfoddolwyr y sgiliau angenrheidiol i gynorthwyo eraill.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n hollbwysig bod cynhwysiant digidol wedi’i sefydlu mewn sefydliadau a chymunedau ledled Cymru. Nid cyfrifoldeb un sefydliad yw cynhwysiant digidol, ac ni ellir ei hyrwyddo gan un rhaglen yn unig. Mae’n gofyn am gydweithio, cydweithredu ac ymrwymiad gan randdeiliaid amrywiol, yn gweithio gyda’n gilydd, fel y gallwn greu cenedl sy’n gynhwysol yn ddigidol yng Nghymru sydd o fudd i bawb ac sy’n gadael neb ar ôl.

 

 

Mwy am Gymunedau Digidol Cymru