Neidiwch i’r prif gynnwys

Gallwch helpu rywun i ddysgu’r pethau sylfaenol ar-lein gyda’r fersiwn diweddaraf o Learn My Way

Learn my Way logo

Mae Learn My Way, y platfform dysgu sgiliau digidol ar-lein gan Good Things Foundation, newydd gael uwchraddiad mawr. Mae’r adnodd dysgu ar-lein rhad ac am ddim ar gael i unrhyw un gymryd rhan mewn dysgu ar-lein lefel mynediad.

Gall mynd ar-lein am y tro cyntaf fod yn dasg anodd i rywun. Yn Cymunedau Digidol Cymru, rydym yn annog pobl sy’n helpu eraill i fynd ar-lein i’w weld o safbwynt y dysgwr a chanolbwyntio ar weithgareddau ysbrydoledig sy’n gysylltiedig â hobïau neu ddiddordebau i wneud y dysgu’n fwy deniadol.

Mae yna lawer o sgiliau digidol y gallai fod angen i unigolyn eu datblygu i lywio bod ar-lein yn hyderus, ac rydym yn argymell Learn My Way yn gryf i wella eich sgiliau digidol eich hun neu gefnogi datblygiad rhywun arall.

Yn y blog hwn, rydym yn siarad â datblygwyr Learn My Way i archwilio’r platfform a’i nodweddion newydd.

Beth yw Learn My Way?

Gwefan am ddim yw Learn My Way sy’n blatfform dysgu digidol, sy’n darparu sgiliau digidol a mwy o hyder i’r rhai a gefnogir gan y Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol. Mae’n cynnwys pynciau byr, hawdd eu defnyddio sy’n dysgu pobl sut i ddefnyddio dyfais a gwneud pethau ar-lein fel y gallant wneud y gorau o’r byd ar-lein.

Ar gyfer pwy y mae?

Cynulleidfa’r wefan yw pobl sydd â sgiliau digidol gwan neu ddim sgiliau digidol o gwbl. Gall dysgwyr bori a dod o hyd i’r pwnc cychwyn cywir yn hawdd, gan sicrhau eu bod yn dechrau ar eu taith ddysgu ar bwynt sy’n briodol i’w nod dysgu neu angen brys.

Pa sgiliau digidol y gall person eu dysgu?

Mae dros 100 testun mewn 11 pwnc, sy’n cwmpasu: Defnyddio’ch dyfais, dechrau defnyddio’r rhyngrwyd, defnyddio e-bost, diogelwch ar-lein, cadw mewn cysylltiad, gwario arian ar-lein, adloniant ar-lein, gweithio gyda rhaglenni swyddfa, cyflogaeth a gwaith, rheoli eich iechyd ar-lein a rheoli eich arian ar-lein.

Sut gall pobl ddefnyddio Learn My Way?

Mae Learn My Way ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhai pynciau ar gael cyn cofrestru. Mae cofrestru’n gyflym ac yn syml ac yn rhoi mynediad i’r cynnwys dysgu llawn.

Beth sy’n newydd yn y fersiwn diweddaraf o Learn My Way?

Gyda mwy o bynciau dysgu sy’n fyrrach, gall pobl bori’n hawdd a dod o hyd i’r pwnc dechrau cywir. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn cychwyn ar eu taith dysgu ar bwynt sy’n briodol i’w hanghenion. Yna gallant weithio’n hawdd trwy raglen dysgu bersonol yn seiliedig ar eu nodau unigol. Mae’r pynciau bellach yn cynnwys cwestiynau wedi’u mapio i’r fframwaith sgiliau digidol hanfodol. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ddefnyddwyr atgyfnerthu’r dysgu y maent newydd ei gwblhau.