Neidiwch i’r prif gynnwys

Mae’r ddarlledwraig Beti George yn ysgrifennu am fywyd gyda thechnoleg i bobl hŷn

A portrait photograph of Beti George

Y dechnoleg newydd, digidol – mae’r geiriau yna yn codi braw ar lawer yn fy nghenhedlaeth i. “Sdim amynedd da fi,” “dw i ddim yn ei ddeall e,” “rhywbeth i bobl ifanc yw e.” Ond y gwir yw fe all y byd digidol gyfoethogi’n bywydau ni’r henoed, a dyw e ddim yn rhywbeth i’w ofni – wir yr!  

Dros gyfnod y COVID-19 daeth y dechnoleg yn rhywbeth i’w werthfawrogi ac fe ddysgodd llawer sut i’w ddefnyddio ar eu tabledi neu ffôn. I lawer oedd yn byw ar eu pennau eu hunain  roedd e’n eu cysylltu a’r teulu. Daeth Zoom a Facetime a Skype yn eiriau cyfarwydd ac i’w defnyddio oedd yr  unig ffordd i lawer i ymdopi ag unigrwydd. Mae’n gymaint o fendith hefyd os yw perthnasau yn byw ymhell mewn gwlad arall ym mhen draw’r byd falle.  

Dw i wedi bod yn lwcus oherwydd fy ngwaith. Roedd rhaid i fi ddysgu ei ddefnyddio. Ac roedd hynny yn werth y byd yn y cyfnod pan roeddwn i’n gofalu am David, fy nghymar, oedd ag Alzheimer’s.   

Byddai’r ddau ohonom yn arfer mwynhau mynd i gyngherddau yn Neuadd Dewi Sant. Pan aeth hynny’n amhosib wrth i’r hen glefyd creulon ddatblygu, dois i wybod am yr hyn roedd un o gerddorfeydd gore’r byd yn ei gynnig, sef y Berlin Philharmonic. Am ganpunt y flwyddyn gallwn ffrydio cyngherddau byw a lawr lwytho beth bynnag a ddymunwn o’u harchif anferthol. Am fargen! Felly fe fusen ni’n cael tri neu bedwar cyngerdd yr wythnos a David wrth ei fodd. Er ei fod wedi anghofio rhan helaetha o’i fywyd,  a’i gof bob dydd, fwy neu lai, wedi chwalu’n rhacs, fe fyddai’n cofio pytiau o’r cyngherddau. Ac fe fyddai yng nghanol nos weithiau yn canu’r hyn roedd e wedi ei glywed. Cofiaf yn iawn amdano’n canu nodau Dawns y Marchogion o Romeo a Juliet gan Prokofiev!   

Pan gafodd e’r deiagnosis yn 2009, ychydig o wybodaeth oedd ar gael ac yn enwedig o safbwynt gofal. Roedd na stigma a diffyg ymwybyddiaeth o’r clefyd. Fe gawson ni fwy nag un profiad  gwael o hynny – un pan roedden ni yn cael pryd o fwyd yn un o dafarnau Llangrannog o bobman – lle sy’/oedd mor agos at fy nghalon gan fod fy ngwreiddiau yn y cyffiniau.  

‘Doedd na fawr o help a chefnogaeth ar gael. Roeddwn i wedi ymuno â Twitter – y wefan gymdeithasol. Dyna’r peth gorau wnes i. Roedd ‘na gymuned fach glos o bobl oedd yn  ymwneud a dementia ac sy wedi tyfu’n sylweddol ers y dyddiau cynnar hynny. O fanyn yn hytrach nag o’r  gwasanaethau cymdeithasol swyddogol y cefais i gefnogaeth a help i ddatrys problemau – ac roedd rheiny’n niferus fel y gall unrhyw un sy’n gwybod am ofalu am rhywun â Dementia ddeall.  

Fe faswn i yn gofyn am gyngor am rywbeth neu gilydd ac yn syth bron fe fydde hanner dwsin yn estyn cymorth a rheiny’n bobl oedd wedi dysgu trwy brofiad yn hytrach nag oddi wrth gynghorion academaidd. Dois i wybod am gyfarfodydd a chynhadleddau oedd yn cael eu cynnal ar lein yn aml. Dysgais am y clefyd a’r ymchwil a’r ymdrechion i geisio cael atebion a hynny mewn gwledydd eraill hefyd. A thrwy’r wê, gan nad oedd y clefyd yn cael fawr o sylw yn y wasg y dyddie hynny, dysgais ei fod yn glefyd Sinderela nad oedd yn cael yr arian oedd ei angen ar gyfer ymchwil o unrhyw werth. Daeth Twitter i fod yn un arf ymgyrch i wella’r sefyllfa ac o dipyn i beth fe ddaeth mwy o arian o’r llywodraeth i gynnal ymchwil mwy dwys gyda Phrifysgol Caerdydd yn un o’r sefydliadau sydd ar flaen y gad fel petai.  

Mae gan y gwefannau cymdeithasol fel Twitter a FB a TikTok enw drwg ac mae’r cynnwys yn gallu bod yn anhygoel o frwnt a niweidiol. Ar y llaw arall, maen nhw’n gallu bod o werth cymdeithasol sylweddol iawn.  

Erbyn heddi mae fy mywyd i yn fy ffôn bach clyfar. Ar hwn dw i’n cael newyddion, adloniant, gwybodaeth am unrhywbeth, S4C a’r sianelau eraill i gyd, Radio Cymru (ac os ga i roi plyg fan hyn! – mae archif Beti a’i Phobl ar gael ar BBC Sounds er enghraifft, a gwn am lawer sy’n gwrando drwy’r ffôn bach ar y sgyrsiau ar deithiau yn y car e.e.) Mae’r cyfan yna ar eich ffôn neu dabled ac yn gwmni ardderchog.  

Dw i hefyd yn ei ddefnyddio i fancio. Yn yr hen ddyddiau, doedd gen i fawr o reolaeth ar fy nghyfri, a rhaid oedd mynd i’r banc i dalu arian i fewn neu dynnu arian mas a thrafod unrhyw broblem gyda’r rheolwr, oedd yn ffrind rhan fwya o’r amser, a dw i’n gweld eisiau hynny. Ac mae’n rhaid teithio mhell, hyd yn oed mewn dinas fel Caerdydd, i ddod o hyd i fanc. Felly, heddi, dw i’n gneud y cyfan ar fy ffôn a dw i’n gwybod yn union ble ‘rwyn sefyll heb symud o’r tŷ. Mae’n fendith. 

Dw i’n siopa ar fy ffôn, prynu dillad, sgidie, popeth bron. Ac os wela i rhywbeth mewn resipi a does dim modd ei gael mewn siop fwyd neu archfarchnad yng Nghaerdydd – fe af i chwilio ar y ffôn. Cyn pen dim fe fydd wedi cyrraedd!  

Yn hytrach na llythyru, mae ebostio mor hwylus ac mae unrhyw ateb sy i’w ddisgwyl yn dod yn syth. Felly hefyd, tecstio neu wot’s appio!  

Yr hyn sy yn peri gofid serch hynny yw bod mwy a mwy o wasanaethau yn cael eu cynnig ar lein yn unig, a phobl yn cael eu gadael ar ôl neu’n cwmpo trwy’r rhwyd oherwydd nad ydyn nhw’n defnyddio’r dechnoleg. Neu hyd yn oed os oes na ddewis i gael, mae’r gwasanaeth ar lein yn well ac yn fwy effeithiol. Mae trio ffonio am wasanaeth yn gallu golygu hanner awr a mwy o aros cyn cael ateb ac fe gewch neges yn dweud bod hi’n well anfon ebost. Does dim byd yn fy hala i’n fwy penwan pan mai dim ond trwy siarad a rhywun weithiau, mae problem i’w datrys. “You’re tenth in the queue ……….” Grrrrr! Dewch nôl â’r dyddiau cyn ddigidol hynny pan roedd ateb galwad ffôn o fewn munud neu ddwy yn fesur o wasanaeth da! 

O ddifrif, mae’r datblygiadau technegol yma sy’n digwydd yn golygu na allwn ni eu hanwybyddu. Nid rhywbeth at ddefnydd pobl ifanc yn unig yw’r digidol. Os rhywbeth mae’n bwysicach bod ganddon ni afael arno wrth fynd yn hŷn fel nad ydyn ni’n cael ein gadael ar ôl.

Mae dysgu sut i’w ddefnyddio yn hwyl a dyw e wir ddim yn anodd. Fe gewch help gan yr wyrion!

Ysgrifennwyd gan Beti George.