Neidiwch i’r prif gynnwys

Mam yn dweud ei bod hi’n ‘nôl i fod yn fi fy hun’ ar ôl i gynllun benthyca gliniadur ddod â diwedd i 20 mlynedd o aros am waith

Mae mam i bump yn dweud ei bod hi’n “nôl i fod yn fi fy hun” ar ôl i gynllun sy’n benthyca gliniaduron i bobl ddi-waith hirdymor ddod â diwedd i 20 mlynedd o aros am waith.

Llun o berson yn defnyddio gliniadur

Roedd Sireena Jones, 45, wedi “taro’r gwaelod” wrth frwydro am arian a hyder tra’n bod yn fam llawn amser, ond mae bellach wrth ei bodd ei bod yn ôl ar ei thraed ar ôl cael dechrau newydd i’w bywyd.

Roedd Sireena, o Benrhys, ar Gredyd Cynhwysol ac yn awyddus i ddychwelyd i’r gwaith pan roddodd staff yn ei chanolfan waith leol ym Mhorth hi mewn cysylltiad â Chymunedau am Waith a Mwy (CfW+), gwasanaeth cymorth cyflogaeth i bobl sydd mewn tlodi neu mewn perygl o dlodi ac sy’n wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag manteisio ar hyfforddiant a chyflogaeth.

Mae’r prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i helpu i fagu hyder, cael profiad gwaith, dysgu sgiliau newydd neu ysgrifennu CV, ac mae ei gynllun benthyca dyfeisiau digidol yn caniatáu i bobl fenthyg offer fel Chromebooks er mwyn chwilio am waith a gwneud ceisiadau am swyddi neu gyrsiau.

Dywedodd Sireena ei bod wedi bod yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd a chwilio am gyfleoedd gwaith newydd, ond ei bod yn ei chael hi’n anodd gwneud hynny ar y dechrau gan nad oedd ganddi liniadur.

Dywedodd “Roeddwn i allan o waith am tua 20 mlynedd. Cyn hynny roeddwn i mewn ffatri pacio ym Mhentre.

“Mae gen i bump o blant. Mae’r hynaf yn 25 oed a’r ieuengaf yn 14. Dechreuais gael trafferthion ariannol a dechreuais golli fy hyder ac yn y bôn, roeddwn i wedi cyrraedd y gwaelod. Roeddwn i eisiau newid ac roeddwn i eisiau bod yn fi fy hun unwaith eto.”

Ar ôl i CfW+ fenthyca’r Chromebook i Sereena, cwblhaodd bum cwrs ar-lein sy’n gysylltiedig â gwaith ar bynciau fel cyflogadwyedd, sgiliau cwsmeriaid, a gweithio gyda TG dros 12 wythnos, cyn cael cymorth i chwilio am swyddi ar-lein.

“Roedd yn ddigon syml, ac roedd benthyca’r gliniadur yn fy ngwneud i’n fwy technegol a dweud y gwir, oherwydd cyn hynny doedd gen i ddim cliw,” meddai.

“Os oedd gen i unrhyw broblemau, roeddwn i’n gallu siarad â rhywun dros y ffôn a allai esbonio pethau i mi, oherwydd roedd hyn yn digwydd yn ystod y pandemig.

“Fe ges i ba bynnag gyngor a chefnogaeth oedd eu hangen arna i. Roedden nhw’n gefnogol iawn. Fe wnaethon nhw fy helpu i ddod o hyd i swyddi a threfnu cyfweliadau a mynd â fi i gyfweliadau.”

Ddiwedd 2021, gwnaeth Sireena gais llwyddiannus am swydd yng nghanolfan ailgylchu Project Red yn Llantrisant, lle mae bellach yn aelod staff llawn amser gwerthfawr.

Ychwanegodd: “Mae dechrau gweithio wedi rhoi hwb mawr i’m hyder i ac rwy’n mwynhau bod yn ôl yn gweithio. Mae wedi fy newid i er gwell.”

Ydych chi’n chwilio am waith? Oes angen gliniadur neu ddyfais ddigidol arnoch chi i’ch helpu i ddysgu sgiliau newydd, ail-ysgrifennu eich CV neu wneud cais am swyddi ar-lein? Rydyn ni’n gweithio gyda Chymunedau am Waith i roi benthyg dyfeisiau i rai sy’n chwilio am waith.

Darganfod mwy am Cymunedau am Waith
Young woman searches for work online