Cyngor Sir Ddinbych
Fel rhan o brosiect Allgáu Digidol ein Cynllun Corfforaethol fe aethom ati i greu ffrydiau gwaith i nodi a mynd i’r afael â Chynhwysiant Digidol. Cyflogwyd Rheolwr Prosiect i sicrhau canlyniadau llwyddiannus o’r ffrydiau gwaith hyn. Wrth i’r ffrydiau gwaith dynnu at eu terfyn buom yn gweithio gyda phob adran berthnasol i sicrhau bod y gwaith hwn wedi’i ymgorffori i’w gwaith bob dydd. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus, ac mae’r holl waith y soniwyd amdano uchod nawr yn parhau fel busnes fel arfer.
Rydym yn gweithio ar ffrwd waith Cynhwysiant Digidol newydd o dan fantell ein Cynllun Corfforaethol newydd i adeiladu ar lwyddiant y prosiect diwethaf, drwy weithio ar draws gwasanaethau’r Cyngor a thu hwnt iddynt, yn enwedig gyda phartneriaid y Trydydd Sector.