Neidiwch i’r prif gynnwys

DWP Wales Universal Credit Operational Delivery

logo

Mae’r Adran wedi ymrwymo i sicrhau bod cwsmeriaid mewnol ac allanol yn cael eu cefnogi â’r hyder i alluogi pawb i ddefnyddio technoleg newydd fel nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl. Mae gan staff yr Adran Gwaith a Phensiynau fynediad at wahanol gynhyrchion dysgu neu gefnogi sydd wedi cael eu cynllunio i gynyddu Hyder a Gallu Digidol. Hefyd, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda darparwyr allanol i sicrhau bod gan ein cwsmeriaid fynediad at hyfforddiant a dyfeisiau digidol, sydd yn ei dro yn hwyluso mynediad at offer a gwasanaethau iechyd digidol i gefnogi iechyd a lles. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd wedi ymuno â Microsoft i sicrhau bod staff wedi cael eu hyfforddi’n llawn mewn hanfodion hygyrchedd er mwyn cefnogi ceiswyr gwaith ag anableddau i gael cymorth ac arweiniad wrth chwilio am waith.