Gwirfoddoli
Mae gwirfoddolwyr digidol yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i fynd ar-lein yng Nghymru.
Fel gwirfoddolwr digidol, rydych yn esiampl ar gyfer cynhwysiant digidol yng Nghymru. Mae gennych y pŵer i ddarparu’r sylfeini ar gyfer datblygu sgil newydd, trwy gefnogi rhywun i fynd ar-lein a theimlo’n hyderus fel defnyddiwr Rhyngrwyd annibynnol.
Mae Cymunedau Digidol Cymru yn cynnig hyfforddiant ar gyfer gwirfoddoli digidol:
Hyrwyddwyr Digidol – Oedolion sydd wedi’u hyfforddi i gefnogi eraill i ddysgu sgiliau digidol yn y gweithle neu yn eu cymuned.
Efallai eich bod eisoes yn wirfoddolwr digidol neu wedi derbyn hyfforddiant gwirfoddoli gennym ni yn ddiweddar. Mae croeso i chi ddefnyddio’r adnoddau ar y dudalen hon i’ch helpu i gefnogi eraill ar eu taith ar-lein.
Os hoffech drafod eich anghenion hyfforddi, neu i ddarganfod mwy am y sesiynau sydd gennym i’w cynnig, cysylltwch â ni a bydd o’r tîm mewn cysylltiad.
Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu rhywun i fynd ar-lein, mae croeso i chi gael mynediad i neu gyfeirio pobl yr ydych yn eu helpu i gwblhau hyfforddiant Sgiliau Digidol am ddim trwy Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru.
Adnoddau gwirfoddoli:
[Dolenni’n agor mewn ffenestr newydd]
Good Things Foundation: Cynorthwyo pobl â chysylltedd data
Good Things Foundation: National Databank
Cymunedau Digidol Cymru: Canllaw ar gyfer datblygu cynllun benthyg dyfeisiau
Dewch yn ddigidol gyda PCYDDS a PDC hedwr
Dewch yn ddigidol gyda PCYDDS a PDC cerdyn post
Ymwadiad: Mae’r apiau a’r gwefanau yr ydym yn ei trafod yma yn bodoli fel opsiynau yn hytrach nac argymhellion. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw broblem y byddwch yn ei brofi yn sgil eich defnydd o’r apiau neu wefanau hyn. Efallai na fydd rhai adnoddau ar gael yn Gymraeg.