Neidiwch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant: Cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a digidol

A close up of a person using a mobile deviceMae Cymunedau Digidol Cymru yn cefnogi sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Mae’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr mewn cryn berygl o gael eu hallgáu, gan eu bod yn wynebu mwy o rwystrau na’r mwyafrif. Gall y rhwystrau hynny gynnwys diffyg mynediad at fand eang, anhawster gyda mynediad tanysgrifiad oherwydd diffyg cyfeiriad cartref sefydlog, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu. Wrth i’r byd ddod yn fwyfwy digidol, bydd angen cymorth ac ymyriadau mwy pwrpasol ar y gymuned hon i sicrhau nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl, yn enwedig o ran problemau iechyd, a mynediad at ofal iechyd.    

Drwy weithio mewn partneriaeth, gall Cymunedau Digidol Cymru gefnogi eich sefydliad i helpu’r cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru i ymgysylltu â’r byd ar-lein.   

Os hoffech chi drafod eich anghenion hyfforddi neu ddarganfod rhagor am y sesiynau sydd gennym i’w cynnig, cysylltwch â ni a bydd un o’r tîm mewn cysylltiad.