Iaith Gymraeg
Yn aml iawn rydym yn cymryd yn ganiataol fod y We yn le Saesneg, ond does ddim rhaid iddo fod. I nifer o siaradwyr Cymraeg, mae’r gallu i ddysgu sgiliau digidol newydd yn cael ei amharu trwy orfod dysgu’r cwbl trwy gyfrwng ail iaith, a gall hyn achosi rhwystrau ddiangen fel gwelir ar adroddiad 2021 Llywodraeth Cymru. Ar y dudalen hon gwelwch ddolenni gwefannau, adnoddau a chanllawiau defnyddiol ar sut i wneud eich defnydd o’r We yn fwy Cymreig. A hyd yn oed os nad yw’r Gymraeg yn iaith gyntaf arnoch, mae yna lwythi o adnoddau ar y We i chi gael dysgu neu gwella eich sgiliau Cymraeg eich hun.
Os hoffech drafod eich anghenion hyfforddi, neu i ddarganfod mwy am y sesiynau sydd gennym i’w cynnig, cysylltwch â ni a bydd un o’r tîm mewn cysylltiad.
Rhwydwaith Iaith Gymraeg
Mae’r Rhwydwaith Ymateb i’r Heriau Digidol yn cynnwys mudiadau cenedlaethol, mentrau cymunedol a sefydliadau sy’n gweithio trwy’r Gymraeg. Ymhlith y sefydliadau sy’n rhan o’r rhwydwaith yw Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, Merched y Wawr a Mentrau Iaith Cymru ac eraill. Mae’r rhwydwaith yn wagle i drafod a chydweithio er budd cynhwysiant digidol ymhlith siaradwyr a chymunedau Cymraeg gan hybu arloesedd technoleg a’r Gymraeg. Mae’r rhwydwaith yn cyfarfod yn chwarterol ac ymhob cyfarfod, ceir siaradwyr gwadd yn son am brosiectau perthnasol sy’n hybu’r Gymraeg a’r defnydd o dechnoleg.
Os hoffwch ymuno neu dysgu mwy am y Rhwydwaith Iaith Gymraeg, cysylltwch â’n Ymgynghorydd CDC Deian ap Rhisiart ar deian.aprhisiart@cwmpas.coop.
Adnoddau Cymraeg:
[Dolenni’n agor mewn ffenestr newydd]
Open University: Dysgu Cymraeg
Ymwadiad: Mae’r apiau a’r gwefanau yr ydym yn ei trafod yma yn bodoli fel opsiynau yn hytrach nac argymhellion. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw broblem y byddwch yn ei brofi yn sgil eich defnydd o’r apiau neu wefanau hyn.