Neidiwch i’r prif gynnwys

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

logo

Fel y corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am systemau digidol cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Gofal yng Nghymru, mae sicrhau ein bod yn gwneud y gwasanaethau digidol yr ydym yn eu darparu mor hygyrch a chynhwysol â phosibl yn hanfodol. Mae DHCW wedi ymrwymo i gefnogi Cynhwysiant Digidol, gydag ymrwymiad o fewn ein cynllun strategol, ein IMTP, a chefnogaeth gan lefelau uchaf y sefydliad, gan gynnwys ein Prif Swyddog Gweithredol fel noddwr gweithredol, a’n Cadeirydd yn adrodd yn ôl yn rheolaidd i’n Bwrdd. Bydd ein Gweithgor Cynhwysiant Digidol newydd yn sicrhau bod cynhwysiant digidol wedi’i ymgorffori ar draws CDCC, a thrwy nodi cyfleoedd a dysgu parhaus, yr ydym yn datblygu ein ffordd o weithio.  Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag eraill i yrru’r agenda hon ar draws y system a byddwn yn sicrhau bod cynhwysiant digidol yn cael ei gynnwys yn ein partneriaethau i nodi cyfleoedd pellach. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys Cymunedau Digidol Cymru, i yrru gwasanaethau iechyd a gofal digidol hygyrch a chynhwysol ar gyfer pobl Cymru.

Ymwelwch â’n gwefan yma [agor mewn tab newydd]