Neidiwch i’r prif gynnwys

Palmerston Adult Community Learning Centre

Cynhwysiant digidol yw un o brif amcanion ein sefydliad.

Gweledigaeth Ddigidol ein sefydliad yw:

  1. Mae technoleg ddigidol yn rhan naturiol o’n holl wersi ac yn cyfoethogi’r profiad dysgu.
  2. Mae ein technoleg yn bodloni anghenion ein holl ddysgwyr a staff. Mae’n gwbl hygyrch ac ar gael yn ddwyieithog.
  3. Rydym yn archwilio technoleg newydd a gwahanol ffyrdd o wneud pethau i gadw ein gwersi yn ffres ac yn gyfredol.
  4. Rydym yn sicrhau bod gan ein holl ddysgwyr a staff y sgiliau a’r hyder digidol sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd bob dydd ac yn y gwaith.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi unigolion i adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen i fyw mewn byd sy’n gynyddol ddigidol. Rydym yn targedu’r rheiny a allai fod o dan anfantais fel arall gan eu bod efallai’n byw ar fudd-daliadau, â phroblemau iechyd meddwl, neu dros 50 oed ond nad ydynt eto’n gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth. Rydym yn cyfeirio’r rheiny nad ydynt yn bodloni ein meini prawf cymhwysedd i sefydliadau eraill a allai helpu.

Rydym yn cynnig cymorth ar ffurf dosbarthiadau sgiliau digidol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rhyngweithio digidol diogel. Mae ein hymrwymiad yn golygu ein bod yn mynd â’n dosbarthiadau allan i’r gymuned i alluogi mynediad haws i’r rheiny sydd ei angen fwyaf a gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill i amlygu’r angen hwnnw. Rydym yn defnyddio adborth gan ddysgwyr i sicrhau bod yr hyn rydym yn ei addysgu yn briodol.

Credwn na ddylid eithrio unrhyw ddysgwr oherwydd diffyg offer digidol, felly lle bo angen, rydym yn rhoi benthyg y dyfeisiau a’r offer i fynd ar-lein. Rydym hefyd yn darparu data am ddim i’r rheiny na allant fforddio cost mynd ar-lein.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan yr holl staff y sgiliau angenrheidiol eu hunain ac y gallant gynnig cefnogaeth i’w dysgwyr, lle bo angen. Rydym yn gwneud hyn trwy gynnig sesiynau hyfforddi rheolaidd a mynediad hawdd i’n dosbarthiadau sgiliau digidol.