Pecyn Cymorth Gwerthuso Cynhwysiant Digidol

Mae’r pecyn cymorth hwn yn archwilio’r camau y gallai unrhyw grŵp neu sefydliad cymunedol eu cymryd
er mwyn gwerthuso effaith prosiect cynhwysiant digidol, neu ddarnau o weithgaredd cynhwysiant digidol.
Mae’n edrych ar beth yw gwerthuso a pham mae o gymorth i gynhwysiant digidol, beth yw egwyddorion
gwerthuso da, ac yn archwilio’r blociau adeiladu sylfaenol sydd eu hangen i werthuso gwaith
cynhwysiant digidol. Mae’r pecyn cymorth hwn yn rhannu rhai enghreifftiau o adnoddau ac astudiaethau
achos, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer dadansoddi eich data.
Dadlwythwch y pecyn cymorth yma [agorir mewn ffenestr newydd]
Adnoddau Ychwanegol
Astudiaethau achos:
Ffurflenni Cofrestru Hyfforddiant Cymunedau Digidol Cymru
Cynllun Gwerthuso a Theori Newid:
Ystod o adnoddau a chanllawiau ar fesur effaith a gwerthuso gan Small Charities Coalition [Saesneg yn unig]
Canllawiau NCVO ar Theori Newid [Saesneg yn unig]
NPC Deg Cam i Greu Theori Newid [Saesneg yn unig]
Gwerthusiad Cynhwysiant Digidol:
Canllaw gwerthuso Pecyn Cymorth Cynhwysiant Digidol [Saesneg yn unig]
Enghraifft achos o werthusiad o raglen Leeds Digidol 100% [Saesneg yn unig]
Pecyn Cymorth Gwerthuso Cynhwysiant Digidol gov.uk (o 2017) [Saesneg yn unig]
Pecyn cymorth Just Economics [Saesneg yn unig]
Canllawiau One Digital ar Werthuso Prosiect Hyrwyddwyr Digidol [Saesneg yn unig]
Ffynonellau Data ar Demograffeg ac Allgáu Digidol a / neu Ddefnydd o’r Rhyngrwyd:
Tablau Data Sgiliau Digidol Hanfodol Lloyds, 2023 [Saesneg yn unig]
Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022/23
Hunaniaeth ethnig: mae SYG yn argymell pum grŵp lefel uchel ar gyfer casglu ethnigrwydd
Rhywedd: yng Nghyfrifiad 2021 roedd cwestiwn am ryw (2 opsiwn ymateb: gwryw / benyw) a chwestiwn ychwanegol dewisol am hunaniaeth o ran rhywedd (“a yw’r rhyw rydych chi’n uniaethu ag ef yr un fath â’ch rhyw wedi’i gofrestru adeg eich geni?”; 8 opsiynau ymateb). Efallai y byddwch am ystyried cyfuno’r cwestiynau hyn, neu roi’r dewis i bobl ddarparu ymateb gwahanol i wryw/benyw.
Anabledd: yng Nghyfrifiad 2021, gofynnwyd am anabledd fel “A oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol neu salwch sy’n para neu y disgwylir iddynt bara 12 mis neu fwy?” (2 opsiwn ymateb: ie / na).
Oedran: gallwch ofyn am ddyddiad geni neu ofyn i bobl ddewis eu hoedran o grwpiau, ee y grwpiau 10 mlynedd a ddefnyddiwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022/23 16 – 24; 25 – 34; 35 – 44 etc.