Neidiwch i’r prif gynnwys

Sesiynau sgiliau digidol am ddim

Yn Cymunedau Digidol Cymru rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ddatblygu cyrsiau hyfforddi cynhwysiant digidol ar-lein, gan gynnwys gweminarau a sesiynau galw heibio digidol a allai fod yn hanfodol i chi a’ch defnyddwyr gwasanaeth wrth symud ymlaen.

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
Dynes yn gwylio gweminar DCW

Gweler isod fanylion am y sesiynau ar-lein Cymraeg a Saesneg sydd gennym ar y gweill, ynghyd â’r dolenni i gofrestru eich lle arnynt.

Rydyn ni wedi ceisio gwneud y broses arwyddo mor syml â phosib ond os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth gofrestru, cysylltwch â DCWtraining@cwmpas.coop


Awst

Diogelwch ar-lein a meddwl beirniadol – 7 Awst 2025 | 10:00-11:30

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.

Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i sgiliau diogelwch ar-lein sylfaenol y gallwch chi eu defnyddio i helpu eraill i adeiladu sylfeini diogel cryf ar gyfer diogelwch ar-lein wrth ddysgu sgiliau digidol:

  • Cadw’n ddiogel ar wefannau.
  • Deall e-byst amheus.
  • Dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy ar-lein.
  • Yn trafod sgiliau meddwl beirniadol.

Ynghyd â’r hyfforddiant, byddwn hefyd yn darparu adnoddau i chi y gallwch chi eu defnyddio i ddysgu rhagor am ddiogelwch ar-lein.

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn Diogelwch ar-lein yma [agorir mewn tab newydd]


Y Gymraeg ar y we – gweithgareddau digidol ysbrydoledig i ddefnyddio’r Gymraeg ar-lein – 19 Awst 2025 | 14:00-15:30

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.

Nod y sesiwn hon yw eich cyflwyno i’r ystod o adnoddau Cymraeg ar-lein sydd ar gael ac ysbrydoli siaradwyr Cymraeg a Saesneg i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystyrlon ar y we. Yn ystod y sesiwn, byddwn yn:

  • Cyflwyno ffyrdd o ddefnyddio’r Gymraeg pan fyddwch ar y rhyngrwyd neu’n defnyddio offer digidol. 
  • Dangos yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer adloniant, gwybodaeth a chymorth iaith.
  • Rhoi trosolwg o adnoddau ar-lein i gefnogi dysgwyr Cymraeg. 

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn Y Gymraeg ar y we yma [agorir mewn tab newydd]


Cefnogi pobl gyda sgiliau digidol trosglwyddadwy bob dydd – 20 Awst 2025 | 10:00-11:30

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.

Mae yna lawer o sgiliau digidol hanfodol a ddefnyddiwn o ddydd i ddydd sy’n cysylltu â gwahanol dasgau. Rydyn ni’n llenwi ffurflenni ar wahanol wefannau, yn cyfathrebu gan ddefnyddio gwahanol wasanaethau negeseuon, ac yn defnyddio diogelwch ar-lein i wahanol weithgareddau digidol.

Beth fyddwch chi’n ei gael o’r sesiwn:

  • Ystyried sut i helpu pobl i fynd ar-lein.
  • Deall sgiliau digidol trosglwyddadwy a sut maen nhw’n cysylltu â gwahanol weithgareddau digidol.
  • Archwilio dulliau ac adnoddau ymarferol i helpu eraill.

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn Sgiliau digidol trosglwyddadwy yma [agorir mewn tab newydd]


AP GIG Cymru: Helpu Eraill i fod Ar-Lein – 27 Awst 2025 | 10:00-11:30

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.

Sesiwn hyfforddi i aelodau staff a gwirfoddolwyr i gefnogi pobl i ymgysylltu ag ap GIG Cymru.

Mae Cymunedau Digidol Cymru; Hyder Digidol, Iechyd a Lles (DCW) mewn partneriaeth â DSPP yn cyflwyno sesiynau hyfforddi Sioe Deithiol Cynhwysiant Digidol er mwyn cefnogi staff a gwirfoddolwyr i helpu eraill i ymgysylltu ag Ap GIG Cymru.

Bydd y sesiwn yn ymdrin â:

  • Helpu pobl i fynd ar-lein a Deall rhwystrau i bobl ymgysylltu ar-lein
  • Sgiliau a Nodweddion yr ap
  • Defnyddio nodweddion Hygyrchedd digidol
  • Bod yn ddiogel ar-lein

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn AP GIG Cymru yma [agorir mewn tab newydd]


Medi

Cyflwyniad i GIG Cymru SilverCloud a gwasanaethau iechyd ar-lein – 3 Medi 2025 | 10:00-11:30

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech gael mynediad i’r sesiwn gyda chyfieithydd ar y pryd, dewiswch ‘ie’ ar y ffurflen gofrestru a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu un.

Wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad â SilverCloud Cymru, gwasanaeth cymorth iechyd meddwl digidol GIG Cymru, rydym yn trafod strategaethau ac offer ymarferol i lywio byd iechyd a lles ar-lein.

Yr hyn y byddwch chi’n ei ddysgu o’r sesiwn:

  • Cyfeirio at adnoddau iechyd ar-lein allweddol, gan gynnwys gwefannau allweddol GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.   
  • Archwiliwch y sgiliau digidol trosglwyddadwy sydd eu hangen i gael mynediad at wybodaeth iechyd ar-lein.  
  • Trosolwg o blatfform SilverCloud Cymru, sut i gofrestru, a nodweddion allweddol. 

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn GIG Cymru SilverCloud yma [agorir mewn tab newydd]


Sgiliau digidol ar gyfer chwilio am swydd – 11 Medi 2025 | 10:00-11:30

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.

Yn y weminar hon, trafodwn y sgiliau digidol trosglwyddadwy sy’n gysylltiedig â chwilio am swydd. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer staff a gwirfoddolwyr a all gynnig cefnogaeth i geiswyr gwaith.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu o’r sesiwn:

  • Opsiynau ar gyfer cefnogi unigolion i ddysgu sgiliau digidol trosglwyddadwy i gefnogi chwilio am swydd.
  • Dealltwriaeth o ôl troed digidol a chadw’n ddiogel ac yn breifat ar-lein.

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn Sgiliau digidol ar gyfer chwilio am swydd yma [agorir mewn tab newydd]