Rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru Cylch Gorchwyl
Diben
Diben Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yw dwyn pobl ynghyd o’r sectorau cyhoeddus, preifat, y trydydd sector, y sector academaidd a’r sector polisi yng Nghymru i gydlynu a hyrwyddo gweithgarwch cynhwysiant digidol ledled Cymru o dan un faner genedlaethol. Bydd y grŵp yn ymrwymo i gymryd camau ar y cyd i newid yr agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru yn sylweddol, gan godi ei broffil yn uchel i bob sefydliad sy’n wynebu’r cyhoedd.
Bydd y Gynghrair yn dod ynghyd o fis Ionawr 2020 tan 30 Medi 2025, gyda phosibilrwydd o’i hymestyn.
Mae gan y Gynghrair un aelod staff dynodedig, a gyflogir gan Cwmpas, y mae ei rôl yn cynnwys bod yn Gydlynydd ar ran y Gynghrair.
Nid oes budd na gwobr ariannol ynghlwm wrth fod yn aelod o’r Gynghrair. Fodd bynnag, mae’n gyfle i gymryd rhan mewn cyflwyno mentrau arloesol sy’n ysbrydoli gweithredu a gwaith yn ymwneud â chynhwysiant digidol i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gyfle i ymwneud â gwasanaethau digidol a’r byd digidol.
Trosolwg
Mae’r Gynghrair yn cynnwys Rhwydwaith a Grŵp Llywio. Mae Rhwydwaith y Gynghrair ar agor i bob sefydliad sy’n gweithio ar gynhwysiant digidol yng Nghymru. Mae gan aelodaeth y Rhwydwaith ofynion sy’n dangos ymrwymiad i’r agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru ac sydd wedi’u hamlinellu isod o dan ‘Cyfrifoldebau’.
Bydd y Rhwydwaith yn cefnogi gweithgareddau’r Gynghrair, gan ddarparu tystiolaeth o arfer orau ac enghreifftiau o’r hyn sy’n cael ei gyflawni ledled Cymru trwy weithgareddau cynhwysiant digidol. Bydd hyn yn helpu i greu’r mudiad a’r momentwm ar lawr gwlad y mae eu hangen i ddod â chynhwysiant digidol i ben blaen trafodaethau polisi a strategaeth. I’r gwrthwyneb, bydd yn rhoi’r cyfle i’r Grŵp Llywio gasglu barn Rhwydwaith y Gynghrair, a chysylltu â’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad.
Bydd y Grŵp Llywio a’r Gynghrair yn gweithio ochr yn ochr, dan un faner, gan ddefnyddio’u cryfderau ei gilydd, i greu mudiad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn y pen draw ac ar y strategaeth lefel uwch.
Mae gweithgarwch y Gynghrair yn canolbwyntio ar gynyddu cynhwysiant digidol yng Nghymru a chodi proffil cynhwysiant digidol yng Nghymru trwy weithio tuag at y 5 maes blaenoriaeth sydd wedi’u hamlinellu yn nogfen Agenda’r Gynghrair: O Gynhwysiant i Wydnwch. Dyma’r pum maes:
Blaenoriaeth 1: Ymgorffori cynhwysiant digidol ar draws pob sector
Blaenoriaeth 2: Prif ffrydio cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Blaenoriaeth 3: Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol
Blaenoriaeth 4: Blaenoriaethu sgiliau hanfodol ar gyfer gwaith a bywyd yn yr economi
Blaenoriaeth 5: Rhoi safon byw digidol gofynnol newydd ar waith
Cyfrifoldebau Aelodau Rhwydwaith y Gynghrair
Mae disgwyl i Aelodau’r Rhwydwaith ddangos eu hymrwymiad i helpu cyflawni gweithgareddau’r Cynghrair a gyrru’r agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru, trwy’r cyfrifoldebau sydd wedi’u rhestru isod:
- Gweithio o fewn eich sefydliad a’ch sector i godi ymwybyddiaeth o gynhwysiant digidol ac i’w helpu i wreiddio ym mhob gweithgaredd. Mae hyn yn cynnwys: Ymrwymo i Siarter Digidol Cymunedau Digidol Cymru a gweithio tuag at achrediad; Rhannu’ch taith cynhwysiant digidol trwy blogiau, flogiau, astudiaethau achos a/neu adborth gan staff/cwsmeriaid/cleientiaid; Bod yn llysgenhadon cynhwysiant digidol ac annog sefydliadau eraill i ymuno â’r Rhwydwaith
- Cymryd rhan yn weithgar yng nghyfarfodydd y Gynghrair.
- Mynychu a chymryd rhan mewn calendr o ddigwyddiadau cynhwysiant digidol yn ystod y flwyddyn.
- Ymateb i alwadau gan y Grŵp Llywio am help i symud gweithgareddau’r Gynghrair yn eu blaen. Gallai hyn gynnwys galwadau am wybodaeth am brosiectau presennol sy’n gysylltiedig â’r 5 maes blaenoriaeth, ateb arolygon a holiaduron ynghylch gweithgareddau cynhwysiant digidol, darparu astudiaethau achos a/neu gyfrannu gwybodaeth at bapurau.
- Ystyried y pum maes blaenoriaeth ac ystyried a chefnogi Aelodau eraill y Rhwydwaith trwy’r heriau strategol rhag mynd i’r afael â’r meysydd hyn, gan rannu profiadau a syniadau.
- Gweithredu mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau i fynd i’r afael â rhwystrau rhag cyflwyno gweithgareddau cynhwysiant digidol yn effeithiol.
- Cymryd rhan mewn trafodaeth adeiladol yn drylwyr i brofi syniadau a dulliau newydd ac i annog safbwyntiau amrywiol.
Gweithrediad y Gynghrair
Bydd Rhwydwaith a Grŵp Llywio’r Gynghrair yn cyfarfod yn chwarterol, a fydd yn rhoi’r cyfle i rannu gwybodaeth, gwneud cysylltiadau newydd, ymwneud â’ch gilydd a rhoi adborth ar ffocws presennol gweithredu’r Gynghrair a phenderfyniadau yn y dyfodol.
Daw gohebiaeth reolaidd ynghylch cynhwysiant digidol gan Gydlynydd y Gynghrair ac aelodau eraill y Rhwydwaith.
Dangosir enw’ch sefydliad fel aelod o’r Gynghrair ar wefan y Gynghrair.
Aelodaeth
I’r graddau ag y bo’n ymarferol, bydd aelodaeth Rhwydwaith y Gynghrair wedi’i seilio ar unigolion wedi’u henwi, a all fynychu’n rheolaidd, yn hytrach na bod sefydliadau’n dirprwyo pobl i’r rôl fesul cyfarfod.
Bydd aelodau newydd yn gallu ymuno â’r grŵp yn ystod ei oes a rhoddir gwybod am hyn mewn cyfarfodydd ac ar wefan y Gynghrair.
—————————————————————————————————————
Mae ychwanegu eich enw, eich sefydliad a’r dyddiad at y ffurflen yn y ddolen isod yn dangos eich bod yn cytuno â’r Cylch Gorchwyl i fod yn rhan o Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru. Mae hyn yn golygu y cewch eich enwi’n gyhoeddus fel aelod o’r grŵp hwn, bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei rannu gydag aelodau eraill y grŵp hwn a byddwch yn cytuno i gael gohebiaeth drwy’r e-bost gan aelodau’r grŵp ynghylch y Gynghrair a diweddariadau eraill am gynhwysiant digidol.
Isod, mae dolen i Hysbysiad Preifatrwydd Cymunedau Digidol Cymru, sy’n dweud wrthych sut byddwn yn dal ac yn prosesu eich data.
https://www.digitalcommunities.gov.wales/cy/hysbysiad-preifatrwydd/
