Hyrwyddwyr Digidol
Beth yw Hyrwyddwyr Digidol?
Rhywun sy’n cynnig cymorth i helpu pobl i fynd ar-lein a defnyddio technoleg ddigidol. Dydyn nhw ddim yn cael unrhyw dâl am wneud hyn – ond yn hytrach, yn rhoi o’u hamser i drosglwyddo eu sgiliau digidol.
Pobl â sgiliau TG sylfaenol a’r amser, amynedd a brwdfrydedd i’w trosglwyddo yw Hyrwyddwyr Digidol.
Pam rydyn ni angen Hyrwyddwyr Digidol?
Yma yng Nghymru, does gan 180,000 o bobl mo’r sgiliau, y cymhelliant na’r cyfle i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Yn aml, gwirfoddolwyr yw’r ffordd orau o’u cyrraedd.
Ein rhaglen wirfoddoli ddigidol
Mae gan Cymunedau Digidol Cymru un fenter gwirfoddoli digidol. Hyrwyddwyr Digidol.
Hyrwyddwyr Digidol
Weithiau, maen nhw’n bobl sy’n newydd i wirfoddoli ond sydd eisiau trosglwyddo eu sgiliau digidol. Efallai eu bod eisoes yn aelod o staff neu’n gwirfoddoli gyda’ch sefydliad ac eisiau datblygu eu sgiliau digidol. Mae hyrwyddwyr yn aml yn gweithio mewn llyfrgelloedd, mewn ysbytai, cartrefi gofal neu gyda chymdeithasau tai, gan helpu pobl un i un neu gynnal sesiynau grŵp bach.
Gallwn gefnogi pobl i ddod yn Hyrwyddwyr Digidol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich sefydliad.