Hyrwyddwyr Digidol

Gwyddom mai’r ffordd orau o gyrraedd cymunedau sy’n profi allgau digidol yw gweithio gyda’r wynebau a’r sefydliadau dibynadwy sy’n eu cefnogi’n uniongyrchol, ac mae ein cefnogaeth yn adlewyrchu hyn gan y byddwn yn gweithio gyda sefydliadau i sicrhau bod gan eu staff a’u gwirfoddolwyr y sgiliau angenrheidiol i gynorthwyo eraill.
Mae Cymunedau Digidol Cymru’n ystyried bod dwy elfen i gwmpas amrywiol Gwirfoddoli Digidol, hyrwyddwyr gweithle a chymunedol. Mae Hyrwyddwr Digidol yn rym ar gyfer cynhwysiant digidol yn eu sefydliad a’u cymuned.
“Pe bai rhywun yn ystyried gwirfoddoli fel Hyrwyddwr Digidol, byddwn yn eu hannog i wneud hynny gan ei fod yn brofiad pleserus iawn, rydych chi’n cwrdd â phobl, ac rydych chi’n gwneud rhywbeth gwerth chweil.” – Paul, Hyrwyddwr Digidol. Darllenwch fwy am waith Paul yn y Fro.
Beth yw Hyrwyddwyr Digidol?
Maen nhw’n gallu bod yn bobl sy’n newydd i wirfoddoli ond sydd eisiau trosglwyddo eu sgiliau digidol a helpu eraill ar-lein. Efallai eu bod yn aelod o staff neu’n gwirfoddoli gyda’ch sefydliad eisoes ac eisiau datblygu eu sgiliau digidol. Gall hyrwyddwyr weithio mewn llyfrgelloedd, mewn ysbytai, cartrefi gofal neu gyda chymdeithasau tai i enwi rhai yn unig. Gallant gynorthwyo pobl ar sail un i un neu drwy gynnal sesiynau grŵp bach.
Gallwn gynorthwyo pobl i fod yn Hyrwyddwyr Digidol a gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu sefydliad neu eu cymuned.
Pam rydyn ni angen Hyrwyddwyr Digidol?
Yma yng Nghymru, does gan 180,000 o bobl mo’r sgiliau, y cymhelliant na’r cyfle i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Yn aml, gwirfoddolwyr yw’r ffordd orau o’u cyrraedd.
Ein rhaglen wirfoddoli ddigidol
Mae gan Cymunedau Digidol Cymru un fenter gwirfoddoli digidol. Hyrwyddwyr Digidol.
Hyrwyddwyr Digidol
Weithiau, maen nhw’n bobl sy’n newydd i wirfoddoli ond sydd eisiau trosglwyddo eu sgiliau digidol. Efallai eu bod eisoes yn aelod o staff neu’n gwirfoddoli gyda’ch sefydliad ac eisiau datblygu eu sgiliau digidol. Mae hyrwyddwyr yn aml yn gweithio mewn llyfrgelloedd, mewn ysbytai, cartrefi gofal neu gyda chymdeithasau tai, gan helpu pobl un i un neu gynnal sesiynau grŵp bach.
Gallwn gefnogi pobl i ddod yn Hyrwyddwyr Digidol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich sefydliad.