Skills and Volunteering Cymru
Mae Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru wedi gweld y manteision anhygoel sydd i’w cael o weithio’n ddigidol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ar ddechrau’r pandemig Covid-19, gwelwyd llawer o’n prosiectau’n addasu er mwyn darparu’n ddigidol a dechreuwyd gweld manteision cefnogi pobl o bell. I ni, roedd hyn yn golygu ein bod ni’n gallu cefnogi demograffeg newydd o fuddiolwyr nad oeddent o reidrwydd â’r hyder neu’r gallu i fynychu prosiectau wyneb yn wyneb.
Drwy’r broses hon rydym wedi dechrau edrych ar bartneriaethau a phrosiectau a fydd yn ein helpu ni i gefnogi cynhwysiant digidol yn ein cymuned a pharhau i gefnogi buddiolwyr mewn ffyrdd newydd. Mae ein partneriaethau â’r Innovate Trust a Chymunedau Digidol Cymru wedi’n galluogi ni i gefnogi buddiolwyr gyda Gweithgareddau Digidol ar Ap Insight, a darparu cyrsiau sgiliau hanfodol digidol pwrpasol i oedolion ag anableddau dysgu.
Byddwn yn parhau i weithio ar greu cyfleoedd newydd i gefnogi buddiolwyr drwy brosiectau cynhwysiant digidol, a chysylltu gwirfoddolwyr â’r prosiectau hyn.
Ymwelwch â’n gwefan yma [agor mewn tab newydd]