Tîm Cymorth Digidol Cyngor Caerdydd
Mae Tîm Cymorth Digidol Cyngor Caerdydd yn ymrwymedig i fynd i’r afael ag allgau digidol ac arwahanrwydd cymdeithasol. Rydym yn falch o’r cymorth a gynigiwn i gymunedau, gwirfoddolwyr a staff ledled y ddinas i sicrhau bod y cynnig digidol yn cael ei gyflawni ac y caiff defnyddwyr gwasanaeth eu clywed a’u galluogi i gael mynediad at wasanaethau ar-lein yn hyderus ac yn ddiogel.
Mae’r Tîm Cymorth Digidol yn nodi anghenion hyfforddiant, rhwystrau ac anghenion llesiant drwy ddigwyddiadau a sesiynau galw heibio ledled y ddinas. Mae’r tîm yn ymweld â 26 o leoliadau yng Nghaerdydd, gan gynnal sesiynau cyngor a chymorth galw heibio gyda datrys problemau a chael mynediad ar-lein i ddefnyddio gwasanaethau megis ceisiadau Cyngor Caerdydd, Gwasanaethau Llyfrgell a gwasanaethau ar-lein gan y GIG a gov.uk.
Mae gweithdai a chlybiau cymdeithasol yn cael eu cynnal mewn sawl lleoliad, gan gynnig amgylchedd dysgu rhyngweithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth wella eu sgiliau digidol. Mae pynciau’n cynnwys Cyflwyniad i becynnau Microsoft, offer creadigol, cyfryngau cymdeithasol, diogelwch ar-lein, siopa a bancio ar-lein, ac offer i gefnogi gweithio hunangyflogedig, cyllidebu a llawer mwy!
Mae’r tîm yn chwalu rhwystrau mynediad gyda sesiynau pwrpasol ar gyfer defnyddwyr agored i niwed, defnyddwyr hŷn a defnyddwyr ag anghenion ychwanegol, gan sicrhau bod eu dyfeisiau’n gweithio iddyn nhw. Maent yn helpu gyda llywio gosodiadau a lawr lwytho apigau i symleiddio tasgau bob dydd. Mae’r Tîm Digidol hefyd yn cynnig cynlluniau mynediad i offer digidol, gan gynnwys Tabledi a Data drwy’r Banc Data Cenedlaethol.