Neidiwch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant technoleg a sgiliau digidol am ddim i unigolion sydd ag anabledd dysgu ar hyd a lled Gogledd Cymru

Mae menter newydd sydd yn anelu i daclo allgauedd digidol yn annog unigolion yn y Gogledd sy’n byw gydag anabledd dysgu i fanteisio ar y cynnig o hyfforddiant am ddim mewn sgiliau digidol ynghyd â dyfeisiau am ddim er mwyn eu helpu i fanteisio i’r eithaf ar fod ar-lein.

Mae’r fenter a lansiwyd yn ystod yr haf eleni gan Gymunedau Digidol Cymru, a ariennir gan Llywodraeth Cymru, eisoes wedi dosbarthu dyfeisiau am ddim ar hyd a lled Gogledd Cymru trwy bartneriaid lleol, Hft a phrosiect Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd.

Dywedodd Dewi Smith, Rheolwr Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru:

“Mae unigolion ag anabledd dysgu yn fwy tebygol o gael eu hallgáu mewn ffordd digidol – rydym yn canfod bod angen help efallai ar bobl sydd ag anabledd dysgu i nodi’r technolegau cynorthwyo priodol er mwyn eu helpu i fynd ar-lein. ‘Rydym wrth ein bodd o fod yn rhan o bartneriaeth yma gyda Hft a Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd er mwyn darparu’r dechnoleg angenrheidiol a uwchsgilio unigolion o fewn y  grŵp fel y gallant wireddu eu potensial digidol.”

Mae’r cynllun yn bwriadu tacloi’r bwlch mewn sgiliau digidol, trwy gynnig dyfeisiau am ddim a hefyd gan roi mynediad i adnoddau hyfforddiant Cymunedau Digidol Cymru. Mae’r rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a ddarparir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, yn darparu hyfforddiant sy’n seiliedig ar y ‘fframwaith sgiliau digidol hanfodol’.   Mae’r rhaglenni hyfforddiant cynhwysol wedi’i seilio ar y sgiliau hanfodol sef sgiliau cyfathrebu, trin gwybodaeth a chynnwys, trafod (gydag arian), datrys problemau, a bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein.

Yn Llanelwy sydd gerllaw, mae Erin O’Donnell yn breswylydd lleol sy’n benderfynol o wella’i sgiliau digidol gyda chymorth y cynllun. Mae gan Erin awtistiaeth ac ar hyn o bryd, mae ar leoliad gwaith gyda chymdeithas tai Clwyd Alyn fel eu Cynorthwyydd Cymunedol. Fel rhan o’r cynllun, mae hi wedi cael Chromebook newydd ac mae hi’n cael hyfforddiant sgiliau gan Gymunedau Digidol Cymru. Dywedodd:

“Mae fy Chromebook wedi fy helpu gyda fy lleoliad fel Cynorthwyydd Cymunedol – er enghraifft, mae wedi caniatáu i mi gwblhau gwaith a gefais gan fy mentoriaid a thrwy fy helpu i ddysgu sgiliau digidol. Pan fyddaf ar fy lleoliad, byddaf yn cwblhau mwy o hyfforddiant ar-lein y mae Cymunedau Digidol Cymru wedi cynnig mynediad i mi iddo, er mwyn i mi allu dysgu nifer fawr o sgiliau newydd a fydd yn fy helpu mewn swyddi yn y dyfodol.”

Dywedodd Paul Mazurek, Swyddog Cynllunio a Datblygu ar gyfer Gogledd Cymru gyda’n Gilydd:

“Mae gennym gyfle go iawn yma i unigolion sydd ag anabledd dysgu yng Ngogledd Cymru i gael dyfeisiau er mwyn helpu i wella eu bywydau. Yn ogystal, bydd rhywfaint o hyfforddiant defnyddiol ynghylch sut i ddefnyddio’r dyfeisiau a sut i fod yn ddiogel ar-lein ac wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd. Bu’r ymateb i’r cynllun yn dda hyd yn hyn ond mae gennym rai o’r dyfeisiau am ddim ar gael o hyd, a hoffem weld sefydliadau a rhieni/gofalwyr sy’n cynorthwyo pobl sydd ag anableddau dysgu yn cysylltu.”

Os ydych chi’n adnabod rhywun y gallent gael budd o’r cynllun, cysylltwch â thîm Gogledd Cymru gyda’n Gilydd yng Nghyngor Sir Y Fflint. Anfonwch e-bost at learning.disability.transformation@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352701303.