Neidiwch i’r prif gynnwys

Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru Wedi’i Ymestyn Hyd 2025

£6miliwn o gyllid i barhau, er mwyn gwneud Cymru’n genedl gynhwysol yn ddigidol

Mae rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n bodoli i ostwng eithrio digidol yng Nghymru wedi cael ei hymestyn am dair blynedd arall, hyd 2025.

Cychwynnodd Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles yn 2019 ac mae’n cael ei darparu gan Cwmpas mewn partneriaeth â Good Things Foundation a Phrifysgol Abertawe. Mae’n cynnig cymorth i unrhyw sefydliad i’w helpu i ddatblygu prosiectau cynhwysiant digidol ac i gynyddu hyder a sgiliau digidol y bobl y maen nhw’n gweithio â hwy. Mae’n rhaglen allweddol o ran helpu cyflawni gweledigaeth, nodau ac amcanion Strategaeth Ddigidol i Gymru gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen wedi cefnogi mwy na 1,600 o sefydliadau ledled Cymru yn barod, gan olygu bod mwy na 75,000 o bobl wedi elwa o gyfleoedd sydd wedi newid eu bywydau am eu bod wedi mynd ar-lein – er enghraifft, canfod a chadw swyddi, defnyddio’r gwasanaethau iechyd, gostwng unigrwydd a theimladau ynysig a gwella eu lles yn gyffredinol.

Delwedd yn dangos ystadegau rhaglen

Effaith y rhaglen hyd yma:

  • Cafodd 76,062 o drigolion Cymru gymorth i fynd ar-lein neu wella eu sgiliau a’u hyder digidol
  • Cafodd 15,518 o bobl eu cefnogi drwy fenthyg citiau digidol
  • Cafodd 1,600 o sefydliadau o bob math yng Nghymru eu cefnogi ar draws y sectorau i gyd
  • Cafodd 4,215 o staff eu hyfforddi i wella eu sgiliau digidol ac i fynd ymlaen i gefnogi eraill i wneud hynny
  • Cafodd 2,119 o wirfoddolwyr eu recriwtio a’u lleoli ledled Cymru
  • Rhoddwyd 401 o ddyfeisiau’n rhoddion i leoliadau gofal iechyd ledled Cymru
  • Roedd 69 wedi cofrestru â Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru

O’r sefydliadau a’r staff a hyfforddwyd gan Gymunedau Digidol Cymru:

  • Dywedodd 94% o’r bobl a hyfforddwyd eu bod yn teimlo’n fwy hyderus yn helpu pobl eraill i fynd ar-lein
  • Dywedodd 88% o’r bobl a hyfforddwyd ei fod wedi eu helpu i ddeall sut y gallan nhw ddefnyddio technoleg i reoli a gwella eu hiechyd a’u lles
  • Dywedodd 97% o bobl eu bod yn teimlo’n ddiogel erbyn hyn wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd a’r gwasanaethau ar-lein
  • Byddai 99% yn argymell hyfforddiant CDC i gydweithwyr neu aelodau o’u cymunedau

Meddai Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru:

“Mae’n bleser mawr gennym barhau ein perthynas â Llywodraeth Cymru i ddarparu gwaith cynhwysiant digidol, sy’n mynd yn ôl i 2005. Mae’r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru wedi mynd drwy newid sylweddol dros y 18 mis diwethaf, yn gwyrdroi ei model darparu, ac yn ymateb i newidiadau parhaus oherwydd y pandemig, yn arbennig gan y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

“Diolch i’r estyniad hwn o dair blynedd mae gennym gyfle anhygoel i adeiladu ar y pethau a gyflawnwyd dros y tair blynedd diwethaf a dwyn darnau allweddol o waith yn eu blaenau gyda Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol, a phartneriaethau ledled Cymru. Bydd hyn yn sicrhau fod atebion cynaliadwy’n cael eu rhoi yn eu lle i gefnogi’r unigolion hynny sy’n dal i fod wedi eu heithrio’n ddigidol.”

Y llynedd, lansiwyd rhaglen hyfforddi neilltuedig gan Gymunedau Digidol Cymru i helpu cymunedau o leiafrifoedd ethnig sydd wedi eu heithrio’n ddigidol i oresgyn y rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu wrth geisio mynd ar-lein. Mae’r hyfforddiant yn rhad ac am ddim i sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y rhaglen ac mae’n gyfle i staff wella eu sgiliau digidol, gan helpu pobl eraill i adeiladu ar y rhai sydd ganddynt hwy.

Ychwanegodd Jocelle Lovell:

“Y bobl sydd wedi eu heithrio’n ddigidol yw rhai o ddefnyddwyr mwyaf y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, felly maen nhw mewn perygl o fod ar ei hôl hi yn y chwyldro iechyd digidol. Nhw yw’r unigolion sydd â’r mwyaf i’w ennill o’r rhaglen hon, i helpu i wella safon eu bywydau.

Yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22 o fis Ebrill hyd fis Mehefin (Chwarter 1) gwelwyd nad ydy 7% o bobl Cymru (180,000) yn defnyddio’r rhyngrwyd. Mae hyn wedi gostwng o 23% yn 2012/13 ond mae’n dal i fod yn rhy uchel o ystyried y sefyllfa y dylai Cymru fod ynddi er mwyn dod yn genedl sy’n gynhwysol yn ddigidol. Er enghraifft:

Dywedodd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt:

“Rwy’n falch iawn i sicrhau bydd y cyllid hollbwysig hwn yn ymestyn Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles. Mae cynhwysiant digidol yn ei hanfod yn ymwneud â chydraddoldeb, cyfle cyfartal a’r gallu i wella iechyd a lles, lleihau unigrwydd a’r teimlad o unigedd i filoedd ledled Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb, ac mae ymestyn Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru yn gam tuag at gyflawni hynny.”

Er mwyn bwrw golwg dros lwyddiannau’r dair blynedd ddiwethaf, ewch draw i’r wefan i ddarllen ein hastudiaethau achos!