Neidiwch i’r prif gynnwys

Tuag at Safon Byw Digidol Gofynnol i Gymru: Diweddariad Prosiect

Rydym wedi cyhoeddi yn ddiweddar ein hadroddiad interim ar ein hymchwil tuag at Safon Byw Digidol Gofynnol i Gymru. Rydym yn hyderus gall hwn fod yn gam pwysig i sicrhau bod Cymru’n genedl ddigidol gynhwysol. 

Mae Cymunedau Digidol Cymru, rhaglen cynhwysiant digidol flaenllaw Llywodraeth Cymru a ddarperir gan Cwmpas, ar flaen y gad yn y genhadaeth i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael eu cynnwys yn ddigidol. Wrth i fwy a mwy o’n bywydau gael eu treulio ar-lein, mae’n hanfodol bod pawb yn gallu cael mynediad i’r rhyngrwyd a defnyddio dyfeisiau digidol yn hyderus ac yn ddiogel. O ystyried natur newidiol ein technoleg, a’r amrywiaeth enfawr o ryngweithio a phrofiadau gydag offer digidol yn ein cymunedau, mae’n hanfodol ein bod yn datblygu dealltwriaeth gynnil o’r hyn y mae’n ei olygu i gael eich cynnwys yn ddigidol yn y Gymru fodern. 

Yn 2021 fe wnaethom ni, fel rhan o Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (CCDC), alw am sefydlu Safon Byw Digidol Gofynnol i Gymru. Bydd hynny yn safon gytunedig o beth sydd ei angen i gael eich cynnwys yn ddigidol yn Gymru fodern, wedi’i halinio â’n Nodau Llesiant cenedlaethol. Y diffiniad cychwynnol o Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol ym Mhrosiect Nuffield y DU yw: ‘Mae safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yn cynnwys cael mynediad i’r rhyngrwyd, offer digonol a digon o hyfforddiant a chymorth, ond mae’n fwy na hynny. Mae’n golygu gallu cyfathrebu, cysylltu ag ymgysylltu gyda chyfleoedd yn ddiogel ac yn hyderus’. Gwyddom y byddai hon yn dasg gymhleth, ond drwy egwyddorion cydgynllunio ac ymgysylltu â dinasyddion, rydym yn gallu cyflawni’r amcan uchelgeisiol. 

Ers i ni wneud yr alwad hon, rydym yn hapus i weld bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r uchelgais hwn. Eleni, cawsom ein comisiynu gan y Llywodraeth, ochr yn ochr â’n partneriaid ym Mhrifysgolion Lerpwl a Loughborough, i gynnal prosiect ymchwil i fanylion Safon Byw Digidol I Gymru. Yn ddiweddar, cyhoeddasom adroddiad interim gyda rhai canfyddiadau thematig cychwynnol a’r camau nesaf ar gyfer y prosiect.

Y cam cyntaf o’n hymchwil oedd cynnal adolygiad llenyddiaeth trylwyr a chynnal cyfweliadau manwl ansoddol gyda sefydliadau rhanddeiliaid yn archwilio sut mae anghenion yn amrywio o ran Safon Byw Digidol i Gymru, a’r ffactorau a all effeithio ar y gallu i gyrraedd y Safon yng Nghymru. Hyd yn hyn, rydym wedi cynnal cyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol sydd yn gweithio i fynd i’r afael â materion allgau digidol o bob rhan o dirwedd ddigidol Cymru. Roedd hyn yn cynnwys llunwyr polisi (fel Ofcom), darparwyr gwasanaeth (fel BT), sefydliadau rhanbarthol (fel CCDC) a grwpiau neu elusennau lleol. 

Mae ein hymchwil wedi dangos roedd rhanddeiliaid yn gwerthfawrogi’r syniad o gael Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru. Roeddent yn gwerthfawrogi’r potensial fel adnodd ar gyfer gwella eu gwaith, ac am wella gwaith y rhai sy’n cael eu heffeithio gan anghydraddoldebau digidol. Dylai’r diffiniad o’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru gyfeirio’n benodol at fforddiadwyedd fel rhan o hygyrchedd, yn ogystal â’r iaith Gymraeg i sicrhau nad yw’n cael ei anghofio. Dylai’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru fod yn safon sy’n cael ei phenderfynu ar y cyd gyda chymaint o gyfranogiad a diddordeb gan gymdeithas sifil ehangach â phosibl, gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi’u hallgáu o’r byd digidol. 

Bydd angen ymrwymiad ariannol a gwleidyddol gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau arall, yn enwedig lle nad yw pwerau wedi’u datganoli. Dylid cael ymrwymiad i sicrhau bod y safon yn cael ei chyfathrebu’n glir lle mae ei angen fwyaf, a bod strategaethau i helpu pobl i gyrraedd y safon yn effeithiol, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth yn gyffredinol o bwysigrwydd digidol er mwyn gwella bywydau dinasyddion. Mae angen cyfri am amrywiaeth cymunedau ac unigolion yng Nghymru. Mae’n bwysig bod cymhwyso’r safon yn ystyried pa rwystrau sy’n debygol o fodoli ar gyfer grwpiau penodol, gan gynnwys pobl anabl a phobl o leiafrifoedd ethnig, ond hefyd yn caniatáu dealltwriaeth fwy cynnil o amgylchiadau unigol wrth ei chymhwyso, gan gymryd yr unigolyn fel ffocws y safon hon. 

Yn ystod ein trafodaeth gyda rhanddeiliaid o Gymru, mae’n glir fod materion rhanbarthol allweddol megis yr iaith Gymraeg, cysylltedd arafa mewn ardaloedd gwledig/anghysbell, grwpiau cymunedol penodol ac adnoddau Cymraeg (fel darparwyr cymunedol ac elusennol) oll yn faterion allweddol sydd angen eu hystyried. Bydd ein grwpiau ymgynghori pellach ar y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol, a gynhelir yn ystod hydref 2022 gan Brifysgol Loughborough, yn edrych i ba raddau y mae’r rhain yn newid neu’n ychwanegu at ofynion y Safon Ofynnol a nodwyd yn y gwaith ehangach yn y DU. 

Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio ar hwn sy’n efo’r potensial i gael effaith allweddol yn y genhadaeth i sicrhau bod Cymru yn genedl ddigidol gynhwysol. Os hoffech chi ddysgu rhagor am ein prosiect neu ein gwaith ehangach ar gynhwysiant digidol, cysylltwch â’n Swyddog Ymchwil a Pholisi, Daniel Roberts, trwy e-bostio dan.roberts@cwmpas.coop