Neidiwch i’r prif gynnwys

Cafodd 120 o ddisgyblion o Sir y Fflint eu hyfforddi fel Arwyr Digidol yn ddiweddar er mwyn helpu cymunedau i fynd ar-lein.

Yn cynrychioli dros 34 o ysgolion cynradd, daeth y disgyblion o bob cwr o Sir y Fflint yn ddiweddar i Ysgol Cae’r Nant yng Nghei Conna i helpu i oresgyn allgáu digidol yn eu cymunedau.

A photograph of two DCW staff members stood outside of Brookfield Primary School with ten primary school aged Digital Heroes.

Nod y plant ar gyfer y diwrnod oedd darganfod pam nad yw rhai pobl bob amser mor brofiadol a hyderus wrth wneud tasgau ar-lein. Wrth gwrs, a hwythau’n ddarpar Arwyr Digidol, cawsant eu haddysgu hefyd i wybod  sut i ysbrydoli cenedlaethau hŷn i ddefnyddio technoleg, gan ddod â hwyl, addysg, a chyngor ar ddiogelwch ar-lein i drigolion Sir y Fflint.

Mae Cymunedau Digidol Cymru, rhaglen cynhwysiant digidol a ariennir gan Lywodraeth Cymru a ddarperir gan Cwmpas, wedi hyfforddi dros 5000 o blant ysgol ledled Cymru i fod yn Arwyr Digidol, fel arfer yn cyflwyno i un dosbarth ar y tro. Digwyddiad o’r maint hwn oedd y cyntaf, ond roedd yr Hyfforddwyr Sgiliau a Chynhwysiant Digidol, Ema Williams a Michael O’Hara yn barod i dderbyn yr her. Gyda dyfeisiau technoleg a chardiau gweithgaredd yn barod, arweiniodd yr hyfforddwyr y drafodaeth ar ddiogelwch ar-lein, cyfrineiriau diogel, ac olion traed digidol.

Dywedodd Ema Williams, Hyfforddwr Cynhwysiant Digidol gyda Chymunedau Digidol Cymru:

“Mae’r plant cynradd yn gwybod sut i ddefnyddio technoleg ac yn ymwybodol iawn o ddiogelwch digidol. Ein gwaith ni yw eu dysgu sut i ddysgu eraill. Nid yw’n fater o ddatrys problem dechnolegol i neiniau a theidiau er enghraifft, mae’n ymwneud â’u cefnogi i’w datrys drostynt eu hunain.”

Nid yw saith y cant o boblogaeth Cymru ar-lein, ac mae llawer o bobl sy’n defnyddio’r rhyngrwyd naill ai’n ddihyder neu heb y sgiliau angenrheidiol i lywio’r We’n ddiogel. Gwahoddwyd y plant i roi eu hunain yn sefyllfa person sydd heb fynediad at y rhyngrwyd, heb ddiddordeb na hyder i’w defnyddio, a disgrifio’r rhwystrau y mae’r bobl hynny yn eu hwynebu mewn cymdeithas. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus, gofal iechyd a chyfathrebu yn cael eu cynnal trwy sianeli ar-lein bellach, felly, dysgodd y plant am yr effaith enfawr y gall hyn ei chael ar unigolyn, a pha mor unig y gallant fod a sut y gall hyn effeithio ar eu lles ariannol, emosiynol a chorfforol.

Ar ddiwedd y sesiwn, derbyniodd y plant eu tystysgrifau a’u bathodynnau, yn datgan eu bod yn Arwyr Digidol swyddogol.

Mynegodd Kellie Goodall, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Cae’r Nant, ei llawenydd yn dilyn y digwyddiad, fel yr eglurodd:

“Roedd y sesiwn Arwyr Digidol Sir y Fflint yn llwyddiant ysgubol ac yn gyfle gwych i blant ledled Sir y Fflint i ddysgu gyda’i gilydd. Rwyf mor gyffrous i gael gweld sut y bydd y plant yn defnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau newydd i gefnogi eu hysgolion a’u cymunedau ehangach.”

Felly, beth nesaf? Bydd athrawon ar draws Sir y Fflint yn gweithio gyda Chynghorydd Digidol Cwmpas, Linzi Jones, i ddatblygu prosiectau hyfforddi a gwirfoddoli o fewn eu hysgolion a’u cymunedau.

Eglurodd Linzi Jones, Cynghorydd Cynhwysiant Digidol yn Cymunedau Digidol Cymru:

“Gall gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau fod mor bwerus wrth ysbrydoli pobl o bob oed. Rydym wedi gweithio gydag ysgolion sydd wedi datblygu eu caffi rhyngrwyd eu hunain, tra bod eraill wedi mynd ymlaen i roi cyflwyniadau mewn cartrefi nyrsio, llyfrgelloedd a neuaddau cymunedol. Mae gan y plant ffordd hyfryd o ysgogi cenedlaethau hŷn i roi cynnig ar dechnoleg, heb wneud iddyn nhw deimlo cywilydd neu eu bod yn cael eu beirniadu am eu diffyg sgiliau digidol. Mae’n hyfryd gweld hynny!”

Mae adborth gan yr ysgolion a fu’n cymryd rhan yn gadarnhaol iawn.

Dywedodd yr athrawes Claire Griffiths o Ysgol Penyffordd:

“Fe wnaeth y plant fwynhau’r sesiwn yn fawr a rhoddodd gyfle iddynt feddwl am eu presenoldeb digidol eu hunain yn ogystal â sut y gallant helpu eraill.”

Cytunodd yr athrawes Laura Cartwright o Ysgol Derwen, gan ddweud:

“Roedd yn sesiwn hyfryd. Wedi cyrraedd lefel y plant yn berffaith.”

Cafwyd canmoliaeth ychwanegol gan athrawes yn Ysgol Gynradd Southdown, Courteney Say, a ddywedodd:

“Diddorol dros ben. Byddai’r holl ddeunyddiau’n wych i ni orfod hyfforddi eraill.”

Mae adborth Courteney yn crynhoi nod yr holl hyfforddiant gan Gymunedau Digidol Cymru, gan weithio gyda sefydliadau drwy addysgu ac ysbrydoli fel y gallant drosglwyddo sgiliau digidol i eraill.

Dywedodd Dewi Smith, Rheolwr Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru fod croeso i sefydliadau gysylltu os ydynt yn awyddus i wella eu sgiliau digidol:

“Gall sefydliadau o bob maint yng Nghymru gysylltu â Cymunedau Digidol Cymru i gael hyfforddiant sgiliau am ddim. Drwy ddysgu’r rhai gyda mynediad at bobl sy’n cael eu hallgáu yn ddigidol, bydd gwybodaeth a sgiliau yn cael eu trosglwyddo a dros amser bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn lefelau gwybodaeth ddigidol hanfodol yng Nghymru.”

I nifer o blant a phobl ifanc, mae defnyddio technoleg yn dod yn hawdd. Rydym yn eu hyfforddi i fod yn Arwyr Digidol fel y gallwn newid bywydau pobl gyda’i help nhw.

Dysgwch fwy am y rhaglen Arwyr Digidol
A photograph of a DCW staff member hosting a Digital Heroes training session. Multiple children in the class have their hands raised to ask a question.