Neidiwch i’r prif gynnwys

Arwyr Digidol yn cynnal gweithdy Diogelwch Ar-lein i drigolion ClwydAlyn

Digital Heroes from Cornist Park School show an elderly women how to do something on her mobile device.

Mwynhaodd preswylwyr yng nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Raddington ClwydAlyn cyflwyniad a gweithdy ar Ddiogelwch Ar-lein yn ddiweddar, a ddarparwyd gan Arwyr Digidol o Ysgol Gynradd Gymunedol Cornist Park yn y Fflint.

Disgyblion yw’r Arwyr Digidol sydd wedi eu hyfforddi gan Cymunedau Digidol Cymru i rannu eu gwybodaeth am bopeth technegol i helpu eraill i ddod yn ddefnyddwyr mwy hyderus ar y rhyngrwyd.

Gan gael ei reoli gan yr asiantaeth ddatblygu Cwmpas, mae Cymunedau Digidol Cymru yw rhaglen cynhwysiant digidol genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Rhoddodd wyth o ddisgyblion yr ysgol y cyflwyniad gyda chefnogaeth eu hathrawes, Anwen Williams, a Linzi Jones, Cynghorydd Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru.

Soniodd Anwen wrthym am y ffordd y digwyddodd y sesiwn a’r manteision i’r preswylwyr a’r plant:

“Yn ôl yn Hydref 2022, roedd y plant wedi mynychu digwyddiad Arwyr Digidol Cymunedau Digidol Cymru, lle gwnaethon nhw ddysgu sut i gefnogi pobl hŷn i ddefnyddio technoleg. Fe wnaethom wedyn drefnu’r digwyddiad yn Llys Raddington rhwng ClwydAlyn, Cymunedau Digidol Cymru ac Ysgol Cornist i’r plant gael defnyddio eu sgiliau newydd yn y gymuned.

“Ar ôl cael cyfle i drafod eu syniadau am sut i greu a chyflwyno’r sesiwn ymlaen llaw, dangosodd y plant eu sgiliau cyflwyno i breswylwyr wrth drafod sut i gadw eu hunain yn ddiogel ar-lein ac esbonio manteision cyfrineiriau diogel, osgoi sgamiau ac e-byst sy’n chwilio am wybodaeth bersonol. Fe wnaethon nhw wedyn gynnig cefnogi’r preswylwyr gyda cheisiadau unigol ar sut i ddiogelu’r dyfeisiadau y daeth y preswylwyr â nhw i’r digwyddiad.”

Ychwanegodd Charlotte Elder, Uwch Weithiwr Cefnogi yn Nhîm Gofal Cyngor Sir y Fflint yn Llys Raddington bod y preswylwyr wedi gweld y sesiwn o gymorth mawr, gan ychwanegu:

“Fe wnaethon nhw (y preswylwyr) wirioneddol fwynhau’r sesiwn. Roedd y plant ysgol yn garedig iawn ac yn siaradus ac roedd y tenantiaid wrth eu bodd yn eu cael ar ymweliad a chael gweld eu hwynebau hapus.”

Aeth Anwen ymlaen:

“Fe wnaeth y preswylwyr i gyd fwynhau cwmni’r plant, gan ddweud pa mor dda yr oedden nhw’n ymddwyn a pha mor ddymunol oedden nhw. Mae dysgu rhwng cenedlaethau yn ffordd wych i blant ddysgu oddi wrth bobl hŷn, ymgysylltu â nhw ac arfer cyfathrebu, ac yn eu tro, mae’r genhedlaeth hŷn yn mwynhau dysgu gan y plant.

“Gan fod diogelwch ar-lein yn aml yn cael ei nodi fel y prif reswm pam bod pobl hŷn yn osgoi defnyddio technoleg, mae sesiynau fel hyn yn helpu preswylwyr i osgoi gweld eu data personol yn cael ei ddwyn a sgamiau eraill, a chael ffydd mewn rhaglenni ar-lein sy’n eu helpu gyda gweithgareddau yr oedden nhw’n arfer eu gwneud eu hunain, fel bancio a gwneud apwyntiadau meddyg.

Mae hyn i gyd yn eu helpu i gadw’n fwy diogel a pharhau’n annibynnol ac wedi eu cynnwys mewn cymdeithas, ac rydym yn diolch i ClwydAlyn, y preswylwyr a staff yn Llys Raddington a’r plant gwych o ysgol Cornist am eu holl ymdrechion caredig yn trefnu’r digwyddiad. Mae’r plant yn bwriadu ymweld eto a byddant yn rhoi cyflwyniad ar ddefnyddio uchelseinyddion clyfar, a dwi’n siŵr y bydd y preswylwyr yn mwynhau hynny’n fawr.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gofal a Chefnogaeth ClwydAlyn, Ed Hughes:

“Mae hwn yn gynllun gwych sy’n annog pobl o bob oed i ddod at ei gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd. Gyda mwy o ryngweithio ar draws y cenedlaethau, mae cymunedau’n fwy tebygol o ofalu am ei gilydd a buddsoddi yn ei gilydd”.

Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text