Neidiwch i’r prif gynnwys

Tu hwnt i’r rhwystrau: Grymuso Cymunedau Ethnig lleiafrifol trwy Gynhwysiant Digidol

Mae'r Cynghorydd Cynhwysiant Digidol, Mohammed Basit, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Cymunedau Cysylltiedig Digidol gan CDC, ac mae'n awgrymu pum ffordd y bydd cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn elwa o gynhwysiant digidol.

An old couple use a laptop to make a payment.

Basit sydd yma o’r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles. Mae’r 18+ mis diwethaf o fy rôl yn gweithio fel Cynghorydd Cynhwysiant Digidol yn cefnogi cymunedau ethnig leiafrifol wedi hedfan heibio! Trwy gyflwyno rhaglen Cymunedau Cysylltiedig Digidol Cymunedau Digidol Cymru (CDC), rydw i wedi cyfarfod ac ymgysylltu â chynrychiolwyr allweddol o ystod amrywiol o sefydliadau yng Nghymru a dysgu mwy am y rhwystrau a’r heriau sy’n wynebu cymunedau a sefydliadau wrth wneud y mwyaf o fod ar-lein, ac rydym wedi cydweithio i archwilio ffyrdd o oresgyn y materion a’r rhwystrau hyn.

Os hoffech ddysgu mwy am y rhaglen Cymunedau Digidol Cymru neu sut gallwn gefnogi’ch sefydliad, anfonwch neges e-bost ataf ar mohammed.basit@cwmpas.coop.

Y Gymdeithas Iberaidd a Lladin-Americanaidd yng Nghymru (ILA-WALES CIC) oedd un o’r saith sefydliad gwreiddiol a oedd yn rhan o’r rhaglen beilot. Dyma beth oedd ganddynt i’w ddweud:

“Roedd trefniadaeth y sesiynau, arbenigedd y siaradwyr a’r wybodaeth ddefnyddiol a roddwyd wedi gwneud argraff dda arnom bob amser. Byddem yn hoffi cymryd rhan mewn unrhyw brosiectau eraill rydych yn eu trefnu a byddem yn cynnig rhai o’n haelodau a allai gefnogi pobl eraill yn ein cymuned, yn eu tro. Diolch yn fawr am y cyfle” – ILA-WALES CIC

Yn dilyn llwyddiant y rhaglen beilot Cymunedau Cysylltiedig Digidol, gwnaethom lansio rhaglen arall o’r enw ‘Cymunedau Cysylltiedig Digidol – Iechyd a Lles’. Roedd y rhaglen hon yn cynnwys hyd yn oed mwy o sefydliadau yng Nghymru sy’n gweithio gyda chymunedau ethnig leiafrifol.

Yn rhan o’r rhaglen newydd, ein nod oedd gwella dealltwriaeth o ddefnyddio gwasanaethau ac offer iechyd digidol ymhlith cymunedau ethnig leiafrifol trwy weithio gyda’r sefydliadau sy’n eu cynorthwyo. Roedd pynciau allweddol yn cynnwys 5 cam i les meddyliol y GIG, codi ymwybyddiaeth o Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r gwasanaethau sgrinio a gynigir ganddynt, cynyddu ymwybyddiaeth o apiau ac offer digidol i helpu i reoli iechyd meddwl, ac ap newydd GIG Cymru.

Yn rhan o’m rôl hyd yma, rydw i wedi cyflwyno hyfforddiant cynhwysiant digidol yn rhithwir ac wyneb yn wyneb ac wedi gweld sut mae cymryd y camau lleiaf tuag at ddysgu’r hanfodion ar-lein yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl. Er enghraifft, yn fy nheulu fy hun, rydw i wedi gweld drosof fy hun sut mae sgiliau a hyder digidol yn gallu helpu pobl i ailgysylltu â’u hanwyliaid. Rydw i’n falch iawn o weld fy mam, sydd yn ei saithdegau, yn defnyddio’r rhyngrwyd bellach i estyn allan i frodyr a chwiorydd ac aelodau o’r teulu ar draws y byd, gan ailgychwyn perthnasoedd a allai fod wedi cael eu colli fel arall.

Yn y byd rhyng-gysylltiedig sydd ohoni, mae cynhwysiant digidol wedi dod yn allweddol i sicrhau cyfle cyfartal a mynediad at adnoddau i bob aelod o gymdeithas. Gall cymunedau ethnig leiafrifol yng Nghymru, gyda’u cefndiroedd a’u safbwyntiau diwylliannol unigryw, elwa’n fawr o fwy o wybodaeth a sgiliau digidol. Dyma bum ffordd y gall technoleg ddigidol helpu cymunedau ethnig leiafrifol yng Nghymru i ffynnu:

  • Pontio’r bwlch gwybodaeth

Mae cynhwysiant digidol yn cynnig modd i gymunedau ethnig leiafrifol bontio’r bwlch gwybodaeth sy’n bodoli’n aml o ganlyniad i rwystrau ieithyddol neu fynediad cyfyngedig at allfeydd cyfryngau traddodiadol. Mae’r rhyngrwyd yn darparu cyfoeth o wybodaeth, gan ganiatáu i unigolion gael at newyddion, adnoddau addysgol, a gwasanaethau’r llywodraeth yn yr iaith o’u dewis. Trwy gysylltu cymunedau ethnig leiafrifol â phlatfformau digidol, gallant aros yn wybodus ac ymgysylltu â materion cyfoes.

  • Gwella cyfleoedd economaidd

Mae technolegau digidol yn darparu cyfleoedd digynsail ar gyfer grymuso economaidd. Trwy blatfformau ar-lein ac e-fasnach, gall entrepreneuriaid a busnesau ethnig leiafrifol gyrraedd marchnadoedd ehangach, cynyddu eu sylfaen gwsmeriaid, a hybu eu rhagolygon economaidd. Gall rhaglenni a gweithdai hyfforddi sgiliau digidol roi’r wybodaeth angenrheidiol i aelodau’r gymuned fanteisio ar y cyfleoedd hyn, gan feithrin entrepreneuriaeth, creu swyddi, a thwf economaidd.

  • Hyrwyddo cyfnewid diwylliannol a gwarchod treftadaeth

Mae cynhwysiant digidol yn hwyluso cyfnewid diwylliannol trwy ddarparu platfformau i gymunedau ethnig leiafrifol yng Nghymru rannu eu traddodiadau, eu hanes, a’u treftadaeth unigryw â’r cyhoedd ehangach. Trwy gyfryngau cymdeithasol, gwefannau, a fforymau ar-lein, gall unigolion ddathlu eu hamrywiaeth ddiwylliannol, herio stereoteipiau, a chreu cysylltiadau â chymunedau eraill. Yn ogystal, mae platfformau digidol yn cynnig cyfleoedd i warchod a chofnodi treftadaeth ddiwylliannol, gan sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu cyrchu eu gwreiddiau a’u gwerthfawrogi.

  • Cryfhau cydlyniant cymdeithasol

Mae cynhwysiant digidol yn meithrin cydlyniant cymdeithasol trwy ddod â chymunedau at ei gilydd, hwyluso deialog, a meithrin dealltwriaeth ac empathi. Mae platfformau ar-lein yn caniatáu i gymunedau ethnig leiafrifol rannu profiadau a thrafod heriau cyffredin. Mae’n eu galluogi i gysylltu ag unigolion o’r un anian, sefydliadau, a rhwydweithiau cymorth, gan feithrin ymdeimlad o berthyn ac undod.

  • Grymuso addysg a dysgu gydol oes

Mae technolegau digidol wedi chwyldroi addysg, gan chwalu rhwystrau traddodiadol rhag dysgu. Trwy ddarparu mynediad cyfartal at adnoddau addysgol a chyrsiau ar-lein, mae cynhwysiant digidol yn galluogi unigolion ethnig leiafrifol i ddilyn cyfleoedd dysgu gydol oes, ennill sgiliau newydd, a gwella eu rhagolygon cyflogadwyedd. Mae platfformau addysg ar-lein hefyd yn caniatáu ar gyfer dysgu hyblyg, gan fodloni anghenion unigolion a allai wynebu cyfyngiadau o ran amser neu leoliad.

Mae gan gynhwysiant digidol botensial mawr i rymuso cymunedau ethnig leiafrifol yng Nghymru, gan hyrwyddo eu twf economaidd-gymdeithasol, annog cyfnewid diwylliannol, a chryfhau cydlyniant cymdeithasol. Trwy groesawu technolegau digidol a sicrhau mynediad cyfartal, gall Cymunedau Digidol Cymru, cymunedau, sefydliadau, a phartneriaid gydweithio i bontio’r gagendor digidol a chreu cymdeithas gynhwysol sy’n gwerthfawrogi a chefnogi cymunedau ethnig amrywiol.

I gael mwy o wybodaeth am gymorth cynhwysiant digidol ar gyfer cymunedau ethnig leiafrifol yng Nghymru, cefnogaeth, neu hyd yn oed sgwrs yn unig, cysylltwch â mi trwy:

E-bost: mohammed.basit@cwmpas.coop

Ffôn symudol: 07824 035880

Ein ffurflen ‘Cysylltu â ni‘.