Mae’r rhyngrwyd ar gyfer pawb, ond mae cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn wynebu mwy o heriau nag eraill wrth geisio mynd ar-lein. Nod Cymunedau Cysylltiedig Digidol yw newid hyn drwy gynorthwyo’r cymunedau hyn i fanteisio ar bopeth sydd gan y byd digidol i’w gynnig.
Cymunedau Cysylltiedig Digidol – Iechyd a Lles
Bu ein rhaglen beilot unigryw a ddaeth i ben yn 2022 yn gweithio gyda sefydliadau yng Nghymru i helpu cymunedau lleiafrifoedd ethnig sydd wedi’u heithrio’n ddigidol i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hwynebu wrth fynd ar-lein, gan agor llu o gyfleoedd ar-lein i’r cymunedau hyn a dod â phobl at ei gilydd.
“Mae’r cymorth gan Cwmpas wedi bod yn amhrisiadwy i ddarparu modiwl hyfforddi’r hyfforddwr er mwyn i’r gymuned deimlo ei bod wedi’i grymuso i ddysgu eraill a dod yn bencampwyr cymunedol. Mae’r ffaith fod dysgwyr yn cael eu dysgu gan fenywod eraill o’u cymuned yn eu helpu i gael gobeithion ar gyfer eu dyfodol. Mae’n helpu i oresgyn rhwystrau fel iaith hefyd pan fo dysgwyr yn gallu troi at athrawon sy’n gallu siarad eu hiaith. Mae tîm Cwmpas wedi ein cyflwyno i wahanol apiau ac adnoddau siopa sy’n arbed arian ac yn cefnogi ein lles emosiynol a meddyliol.”
South Riverside Community Development Centre
“Gwnaeth trefn y sesiynau, arbenigedd y siaradwyr a’r wybodaeth ddefnyddiol a ddarparwyd argraff fawr arnom bob tro. Hoffem fod yn rhan o unrhyw brosiectau eraill rydych chi’n eu trefnu a byddem yn cynnig rhai o’n haelodau a allai helpu pobl eraill yn ein cymuned wedyn. Diolch yn fawr am y cyfle.”
Iberian and Latin American Association in Wales
Manteision mynd ar-lein
Dyw 7% o bobl Cymru ddim ar-lein. Gallai rhwystr iaith neu ddiffyg hyder yn eu sgiliau technoleg fod ar fai am hyn, mae yna lawer o resymau pam fod rhai cymunedau’n ei chael hi’n anodd cael mynediad i’r we. Ond wrth i’r byd fynd yn fwyfwy digidol, mae yna lawer o fanteision i fynd ar-lein, gan gynnwys:
- Chwilio am swyddi
- Addysg a dysgu sgiliau newydd
- Arbed arian
- Cael mynediad at wasanaethau iechyd a lles pwysig
- Cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau
Dyma rai o’r ffyrdd y gall cyrchu’r rhyngrwyd wneud bywyd yn well i bobl sydd wedi’u heithrio’n ddigidol, ond mae angen sefydliadau gofalgar arnom i helpu’r cymunedau hyn i gysylltu.
Sut gall fy sefydliad helpu?
Ydych chi am wneud tipyn o ddaioni? Mae Cymunedau Digidol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi rhaglen Cymunedau Cysylltiedig Digidol – Iechyd a Lles ar gyfer carfan newydd sy’n dechrau ddiwedd Ebrill 2023. Nod Cymunedau Digidol Cymru yw gwella dealltwriaeth o’r defnydd o wasanaethau ac offer iechyd digidol drwy’r garfan eleni.
Mae ein rhaglen ar-lein unigryw yn chwilio am 10 sefydliad sy’n gweithio gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig i ymuno. Rydyn ni’n gwybod mai’r ffordd orau o gyrraedd y bobl sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl yw gweithio gyda’r sefydliadau a’r cymunedau sy’n eu cynorthwyo’n uniongyrchol. Mae ein pecyn cymorth am ddim yn gyfle gwych i staff a gwirfoddolwyr wella eu sgiliau digidol a’u dealltwriaeth o’r defnydd o wasanaethau ac offer iechyd digidol, gan helpu eraill i adeiladu eu rhai eu hunain yn y pen draw. Credwn y bydd y wybodaeth a’r sgiliau a geir trwy fanteisio ar hyfforddiant ac adnoddau yn fuddiol i’r cynrychiolwyr o’r sefydliadau hynny i gyflawni eu gwaith bob dydd, ond hefyd i rannu â chydweithwyr a bod o fudd i’r cymunedau ehangach maen nhw’n ymgysylltu â hwy.
Sut beth yw’r rhaglen hyfforddi?
Mae hyfforddiant am ddim i sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y rhaglen. Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf, ac yn cynnwys pedair sesiwn. Bydd Cymunedau Digidol Cymru’n hwyluso platfform adnoddau ar-lein a fydd yn rhoi cyfle i sefydliadau gysylltu â’i gilydd, rhannu buddugoliaethau, cyfeirio pobl at wasanaethau defnyddiol, cryfhau gwybodaeth gyffredin, ac adeiladu rhwydwaith cymorth cryf ar gyfer cymunedau sydd wedi’u heithrio’n ddigidol.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer rhaglen Cymunedau Cysylltiedig Digidol – Iechyd a Lles 2023, cysylltwch â ni.
Clywed gan y cymunedau eu hunain
Dyma sut mae mynd ar-lein wedi gwella bywydau pobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru…
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gymunedau Cysylltiedig Digidol, e-bostiwch DCWtraining@wales.coop neu ffoniwch 0300 111 5050.