Neidiwch i’r prif gynnwys

Defnyddio’r rhyngrwyd i ddysgu Saesneg ac ail-gysylltu â’m diwylliant – Stori Hafida

Ar ôl symud o Foroco i Gymru, mae Hafida yn rhannu pa mor bwysig mae’r rhyngrwyd wedi bod wrth helpu iddi ddysgu Saesneg ac ailgydio yn ei diwylliant Morocaidd.

menyw yn defnyddio cyfrifiadur

Symudodd Hafida Bouhadi i Abertawe bedwar mis ar ddeg yn ôl. Gan gyrraedd yn ystod pandemig byd-eang Covid-19, wynebodd hi nifer o heriau. Roedd ei lefel Saesneg sylfaenol ynghyd â mynediad cyfyngedig i’r rhyngrwyd yn ei gwneud hi’n anodd iddi fynd ar-lein a chael gafael ar y gwasanaethau roedd hi eu hangen.

Eglurodd Hafida:

‘‘Weithiau roedd fy nghysylltiad rhyngrwyd yn wael iawn, neu roeddwn i’n rhedeg allan o ddata a oedd yn ei gwneud hi’n anodd gweithio.”

Er bod Hafida wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd dysgu ym Moroco, gwelodd fod ei Saesneg yn rhwystr mawr iddi fynd yn ôl i’r byd addysg yn y DU. Ond ar ôl cael ei rhoi mewn cysylltiad â’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yn Abertawe, derbyniodd gymorth i ddechrau gwersi rhithwir gyda thiwtor. Rhoddodd y sesiynau hyn hwb i’w Saesneg a rhoi’r cyfle iddi ddarganfod yr amrywiaeth o gyrsiau rhithwir sydd ar gael.

Ers hynny, mae Hafida wedi parhau gyda’r cyrsiau rhithwir ac wedi dechrau astudio ar gyfer ei chymhwyster dysgu yn y DU, gan ddefnyddio ei chyfrifiadur llechen er mwyn ymuno â gwersi ar-lein.

Eglurodd Hafida: “Roeddwn i’n gynorthwyydd dysgu ym Moroco ac roeddwn i’n awyddus i barhau â’m gyrfa yn y DU. Mae cwblhau fy ngwersi Saesneg ar-lein wedi bod yn bwysig iawn ac wedi helpu i wella fy sgiliau addysgu ar yr un pryd. Roeddwn i’n arfer dysgu Saesneg i blant ym Moroco ond nawr mae angen cymorth arna’i i ddysgu mwy – y rhyngrwyd yw’r unig ffordd galla’ i wneud hynny.”

Arglwyddes yn defnyddio ei ffôn symudol i siarad â rhywun yn gwenu

Nawr yn fwy hyderus, mae Hafida bellach yn defnyddio’r rhyngrwyd i gysylltu â theulu a ffrindiau gartref. Ers symud i Abertawe, dywedodd nad yw hi wedi cael cyfle i weld ei theulu adref oherwydd cyfyngiadau teithio. Dyna pam mae apiau fel Facebook a WhatsApp wedi bod mor ddefnyddiol, gan ei galluogi i gysylltu ag anwyliaid a chadw mewn cysylltiad â nhw.

Mae hi hefyd yn dweud bod y rhyngrwyd wedi’i helpu i ddarganfod beth sydd gan Abertawe i’w gynnig. Eglurodd:

‘’Dwi’n defnyddio google maps yn aml pan fydda’ i’n mynd i siopa ar gyfer bysiau ac amseroedd agor, yn enwedig yn syth ar ôl i mi symud i Abertawe. Roedd yn wych imi ddod o hyd i siopau a bwytai Morocaidd o amgylch y ddinas. Dw i hyd yn oed yn defnyddio Instagram y dyddiau hyn i ddilyn bwytai a blogiau o gymuned ar-lein Morocaidd ledled y DU. Galla’ i wir gysylltu â’m diwylliant.

Mae pwysigrwydd y rhyngrwyd yn glir i Hafida, sydd bellach yn ei defnyddio yn ei bywyd bob dydd ac yn ‘methu bod hebddi’. Mae Hafida yn annog pobl o bob cefndir i fynd ar-lein ac yn dweud:

“Mae yna bob amser rhywbeth newydd i’w ddysgu, ewch amdani a rhoi cynnig arni. Ar y dechrau efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd, ond byddwch yn raddol yn ehangu eich gwybodaeth. Yn enwedig gan fy mod i’n fam, mae’n arbed amser ac arian imi a hyd yn oed yn caniatáu imi wneud fy ngwaith tra bod fy mab yn cadw’n brysur. Cymerwch hi gam wrth gam a byddwch chi’n gwneud yn wych!”

Mae ein cynllun peilot unigryw Cymunedau Cysylltiedig Digidol yn hyfforddi sefydliadau i ddarparu sgiliau digidol i gymunedau ledled Cymru. Gan weithio gyda naw sefydliad arall, dyma’ch cyfle i helpu i oresgyn rhwystrau ac annog cynhwysiant digidol, dod â phobl at ei gilydd ac agor cyfleoedd drwy dechnoleg.

Darganfyddwch fwy
Merch ifanc yn edrych ar ffôn smart