Neidiwch i’r prif gynnwys

Wythnos Ewch Ar-lein 2023: Cynhaliwch ddigwyddiad er mwyn cael eich cymuned ar-lein

Get Online Week 2023 promotional graphic

Marciwch eich calendrau ar gyfer 16-22 Hydref 2023. Mae Wythnos Ewch Ar-lein yn ôl. Eleni mae’r ymgyrch cynhwysiant digidol y DU gyfan eisiau eich helpu i gynnal digwyddiad er mwyn gwella sgiliau digidol eich cymuned, boed hynny’n gyfarfod bywiog yn bersonol neu’n gyfarfod rhithwir.

Beth yw Wythnos Ewch Ar-lein?

Bellach yn ei 16eg rhifyn, cyfarwyddir Wythnos Ewch Ar-lein gan yr elusen cynhwysiant digidol, phartner prosiect Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles, y Good Things Foundation. Yn ogystal ag arwain dathliadau’r ymgyrch flynyddol, mae’r sefydliad hefyd yn cefnogi’r Banc Dyfeisiau Cenedlaethol, y Banc Data Cenedlaethol, Learn My Way a’r Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol.

Pam fod Wythnos Ewch Ar-lein yn bwysig yng Nghymru?

Yng Nghymru, mae pwysigrwydd Wythnos Ewch Ar-lein yn arwyddocaol. Ar hyn o bryd, mae 7% o boblogaeth Cymru, sy’n cyfateb i tua 180,000 o unigolion, yn dal i fod wedi’u hallgáu’n ddigidol. Mae’r canlyniadau’n bellgyrhaeddol gyda diffyg sgiliau digidol, hyder a mynediad yn rhoi pobl mewn perygl o gael eu gadael ar ôl, gan fethu â chael mynediad at yr holl fanteision a ddaw yn sgil cysylltedd a hyder digidol. O gysylltu ag anwyliaid, datblygu diddordebau a hobïau, i gael cyfleoedd cyflogaeth a mynediad at wasanaethau iechyd a gofal, mae cost allgáu digidol yn cyfyngu ar y potensial ar gyfer twf a chyfranogiad yn y byd modern.

Yn Cymunedau Digidol Cymru, rydym yn gweld dro ar ôl tro bod pobl yn aml yn dechrau defnyddio’r we yn rheolaidd pan fyddan nhw’n dod o hyd i’w ‘bachyn’. A dyna ddiben Wythnos Ewch Ar-lein – cyfle gwych i helpu unigolion yn eich cymuned i ddod o hyd i’r hyn sy’n apelio atyn nhw ar-lein. Trwy gynnal digwyddiad gallwch chi danio brwdfrydedd, ac efallai hyd yn oed diddordeb gydol oes ym mhopeth digidol.

Cymerwch ran: cynhaliwch ddigwyddiad

Os ydych yn sefydliad cymunedol neu’n rhan o’r Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol, gallwch ddefnyddio’r ymgyrch fel cyfle i gynnal digwyddiad a hyrwyddo’r gwaith rydych yn ei wneud i’ch cymuned leol. Mae’n hawdd cymryd rhan ac mae digon o adnoddau i’ch cefnogi!

Yn brin o syniadau? Ewch i dudalen we syniadau digwyddiadau Wythnos Ewch Ar-lein, lle cewch ysbrydoliaeth o ddeg syniad ar gyfer digwyddiadau wyneb yn wyneb a phump ar gyfer cynnal digwyddiad ar-lein.

Unwaith y bydd eich gweledigaeth yn dechrau datblygu, mae’n bryd cynllunio a hyrwyddo. A gall Wythnos Ewch Ar-lein eich helpu chi gyda hyn hefyd. Ewch i’w tudalen we adnoddau digwyddiadau i gael canllawiau ar gyfer cynllunio eich digwyddiad, a lawrlwythwch ddeunyddiau marchnata papur ac ar-lein, yn Gymraeg ac yn Saesneg, i’ch helpu i ledaenu’r gair ac alinio’ch hun â’r ymgyrch.

Pan fyddwch chi’n barod i wneud pethau’n swyddogol, cofrestrwch eich digwyddiad gydag Wythnos Ewch Ar-lein er mwyn sicrhau eich lle ar fap yr ymgyrch!

Os ydych chi’n cynnal digwyddiad yng Nghymru, peidiwch â’i gadw’n gyfrinach! Cysylltwch â ni yn Cymunedau Digidol Cymru. Gallwn eich helpu chi i hyrwyddo eich digwyddiad Wythnos Ewch Ar-lein trwy ein rhwydwaith.

Beth mae Cymunedau Digidol Cymru yn ei wneud i ddathlu

Bydd Cymunedau Digidol Cymru yn cynnal tair sesiwn sgiliau digidol ar-lein am ddim ar gyfer Wythnos Ewch Ar-lein – ac fe rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan. Dysgwch ragor isod a chliciwch ar y dolenni i gofrestru. Am ddisgrifiadau llawn o ddigwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i’n gwefan sesiynau sgiliau digidol am ddim:

Helpu pobl i fynd ar-lein – 16 Hydref 2023 | 14:00-15:30

Cofrestrwch yma.

Deall a diogelu eich hun rhag camwybodaeth ar-lein gyda NewsGuard – 18 Hydref 2023 | 10:00-11:30

Cofrestrwch yma.

Gweithgareddau Digidol Ysbrydoledig – 19 Hydref 2023 | 10:00-11:30

Cofrestrwch yma.

Lledaenwch y gair

Gallwch chi gymryd rhan yn nigwyddiadau Wythnos Ewch Ar-lein trwy: