Neidiwch i’r prif gynnwys

Gadael neb ar ôl: Sut mae cyn-filwyr yn cefnogi ei gilydd i fynd ar-lein

Mae Hafal/Adferiad Recovery yn ysgrifennu am waith diweddar y sefydliad gyda Cymunedau Digidol Cymru i wella sgiliau digidol cyn-filwyr.

A man sits on a sofa while working on a laptop

Mae Hafal/Adferiad Recovery yn ceisio gwella sgiliau digidol cyn-aelodau’r lluoedd arfog. Y nod oedd rhoi platfform arall i gyn-filwyr i leihau teimladau ynysig, y mae galw arbennig amdano i gyn-filwyr sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, lle gall mynediad i rwydweithiau cymorth wyneb yn wyneb fod yn gyfyngedig.

Bu Hafal/Adferiad yn gweithio’n agos gyda Cymunedau Digidol Cymru ar y prosiect, a gyflwynodd gwrs chwe sesiwn am ddim ar-lein – Hyrwyddwyr Digidol – ar draws y rhwydwaith a arweinir gan gyn-filwyr yng Nghymru.

Manteisiodd dros ddeg ar hugain o gyn-filwyr gwirfoddol ar yr hyfforddiant, gyda’r mwyafrif yn cwblhau pedwar modiwl o leiaf. Cwblhaodd dros hanner y rhai a oedd yn cymryd rhan y cwrs llawn i fod yn Hyrwyddwyr Digidol cwbl hyfforddedig.

Cafodd y sesiynau eu recordio hefyd a’u cynnig ar-lein i gyn-filwyr nad oedd yn gallu mynychu’r sesiynau byw ond a oedd am fanteisio ar yr hyfforddiant yn eu hamser eu hunain. Yn ddiweddarach cynigiodd Cymunedau Digidol Cymru’r cyfle i’r holl gyn-filwyr gwirfoddol wneud hyfforddiant pellach os oeddynt yn dymuno.

Dyma sylwadau un cyfranogwr am hyfforddiant Hyrwyddwyr Digidol:

“Cyfle hyfforddi rhagorol i hyfforddi fel Hyrwyddwr Digidol i helpu eraill yn y gymuned cyn-filwyr. Helpu unigolion i ennill a datblygu eu hyder, defnyddio technoleg ddigidol yn ddiogel ac effeithiol yn y cartref a’r gwaith. Helpodd yr hyfforddiant fi i wneud ffrindiau ag unigolion yn ystod cyfyngiadau’r cyfnodau clo, unigolion a oedd am wella eu sgiliau a goresgyn ofnau a datblygu hyder wrth ddefnyddio dyfeisiau digidol. Ro’n i’n teimlo bod helpu eraill yn cyfrannu at iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol a darparu cynhwysiant a rhyngweithiad cymdeithasol yr un pryd.”

Beth wnaeth yr Hyrwyddwyr Digidol nesaf?

Ar y dechrau, roedd yr Hyrwyddwyr Digidol yn gweithio yn eu hamgylchedd eu hunain, yn cefnogi cyn-filwyr yn y sefydliadau lle roeddent yn cael eu cyflogi neu’n gwirfoddoli.

Cysylltodd cyn-filwyr oedd angen gwella eu sgiliau digidol ac a oedd wedi gweld y rhaglen yn cael ei hyrwyddo drwy’r cyfryngau cymdeithasol â Hafal/Adferiad i gael cymorth digidol. Yna cyflwynwyd y cyn-filwyr i Hyrwyddwr Digidol yn eu hardal, a oedd yn gallu darparu cymorth wrth symud ymlaen.

Gwella sgiliau digidol sylfaenol

Wrth i gyfyngiadau COVID-19 godi, canfu Hafal/Adferiad fod mwy a mwy o gyn-filwyr yn gofyn am gymorth wyneb yn wyneb gyda materion digidol. Dywedodd un o’u Hyrwyddwyr Digidol er bod rhai o’r cyn-filwyr yn y sefydliad lle’r oedd hi’n gwirfoddoli yn gallu defnyddio eu ffonau symudol yn iawn roedden nhw’n cael trafferth gyda swyddogaethau TG sylfaenol fel Zoom a Teams.

Fodd bynnag, ar ôl hyfforddi fel Hyrwyddwr Digidol, esboniodd ei bod hi’n gallu gweithio gyda phob un ohonyn nhw, gan eu helpu i ddefnyddio Zoom i gael mynediad i’w clwb brecwast ar-lein. Ers hynny, mae’r wirfoddolwraig hon wedi darparu cymorth i helpu cyn-filwyr eraill ddefnyddio eu gliniaduron i siopa ar-lein, anfon e-byst, a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Dywedodd un cyn-filwr:

“Ro’n i ‘chydig yn bryderus a phetrusgar ar y cychwyn ond fe ddes i i arfer yn fuan. Fe helpodd y cwrs fi gyda’r canlynol. Dwi’n gallu e-bostio. Dwi wedi cwblhau dau gyfarfod Zoom. Dwi wedi siopa ar-lein yn llwyddiannus. Fydden ni byth wedi rhoi cynnig ar wneud hyn o’r blaen ond dwi ddim yn ei weld yn gymaint o her ar ôl deall mwy. Ro’n i’n gallu dilyn y dysgu’n iawn ac mae wedi dod â fi i’r 21ain ganrif. Diolch yn fawr am y cyfle”.

Dechrau newydd

Adroddwyd hefyd, bod un cyn-filwr o’r Gogledd a oedd yn byw mewn ardal wledig iawn, wedi gallu parhau i dderbyn therapi iechyd meddwl ar-lein ar ôl dysgu sut i ddefnyddio cyfleusterau fideo-gynadledda; gan leihau’r angen i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus annibynadwy neu ddibynnu ar ffrindiau a pherthnasau i fynd i apwyntiadau.

Trwy gael llechen llwyddodd cyn-filwr di-waith o’r Gogledd i ddilyn cyrsiau priodol ar-lein a chael y cymorth iechyd meddwl roedd ei angen drwy Zoom. Yn ei dro, arweiniodd hyn at ddechrau ei fusnes ei hun. Dywedodd Fiona Pickwell o Hafal/Adferiad, fod y cyn-filwr hwn “yn gwneud yn dda iawn gyda’i lesiant meddyliol ac yn byw bywyd o’r newydd gyda’i fenter newydd”.

Cysylltu â ffrindiau, teulu, a’r gymuned

Dysgodd un cyn-filwr sut i ddefnyddio cyfleuster fideogynadledda drwy gwrs Sgiliau Digidol Hanfodol Cymunedau Digidol Cymru gan lwyddo nid yn unig i siarad â’i wyres chwech oed ond ei gweld am y tro cyntaf (heblaw mewn lluniau) gan fod ei fab a’i deulu’n byw yn Seland Newydd. Roedd yn ei ddagrau.

Dywedodd cyn-filwr arall ei fod yn gallu treulio’r diwrnod cyfan gyda ffrindiau yn y ganolfan ddydd yn awr gan ei fod yn gwneud ei siopa bwyd ar-lein bellach. O’r blaen, roedd yn gorfod gadael y ganolfan i wneud ei siopa wythnosol.

Mae Hyrwyddwyr Digidol yn elwa ar y rhaglen hefyd, gydag un yn dweud bod gallu cynorthwyo eraill wedi gwella ei chysylltiadau â’r gymuned. Wrth wirfoddoli mewn hyb cyn-filwyr lleol, a thrwy fynychu’r cwrs Hyrwyddwyr Digidol, roedd wedi cyfarfod â chyn-filwyr o ardaloedd eraill ac wedi clywed am hybiau a sefydliadau eraill i gyn-filwyr. O ganlyniad, mae’n mynychu hybiau eraill yn rheolaidd erbyn hyn ac wedi gwneud ffrindiau newydd, yn ogystal â gallu gwella sgiliau digidol cyn-filwyr mewn ardaloedd eraill.

Benthyg dyfeisiau digidol

Roedd nifer o gyn-filwyr yn ddiolchgar am gael cyfle i fenthyg dyfais, a oedd wedi’u galluogi i gymryd rhan yng nghyrsiau Cymunedau Digidol Cymru, ac i weld pa ddyfais oedd fwyaf addas iddyn nhw cyn prynu un.

Dywedodd Change Step, sefydliad i gyn-filwyr sy’n gweithio gyda Hafal/Adferiad, fod y dyfeisiau digidol a fenthycwyd am ddim gan Cymunedau Digidol Cymru wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran gallu cynnig sesiynau therapi ar-lein, gan fod o werth i’r rhai maent yn eu cefnogi sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. O ganlyniad i’r bartneriaeth hon, gofynnwyd i Hafal/Adferiad gyflwyno mewn sesiwn Tech Quest for Social Good fel rhan o Wythnos Arweinwyr Digidol 2021.

Casgliad

Yn gyffredinol rwy’n falch iawn gyda chynnydd rhaglen Hyrwyddwyr Digidol i gyn-aelodau’r lluoedd arfog. Gyda chymorth a hyfforddiant parhaus gan Cymunedau Digidol Cymru gall y prosiect llwyddiannus barhau ymhell i’r dyfodol.

Dywedodd Cadi Cliff, Rheolwr Rhaglenni Cymunedau Digidol Cymru:

“Mae’n galonogol gweld y model Hyrwyddwyr Digidol yn cael effaith mor gadarnhaol ar fywydau cyn-filwyr sy’n derbyn cefnogaeth gan Hafal/Adferiad Recovery. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’r bobl sy’n gallu gwirfoddoli eu hamser i helpu eraill i ddysgu sgiliau digidol fel Hyrwyddwyr Digidol. Heb eu brwdfrydedd a’u hawydd i rannu sgiliau â’u cymunedau byddai’n llawer anoddach cyrraedd y rhai sydd wedi’u hallgáu fwyaf yn ddigidol yng Nghymru.

“Gellir addasu ein rhaglen Hyrwyddwyr Digidol i fod yn addas ar gyfer anghenion sefydliadau ar draws sectorau sydd am wella sgiliau digidol staff, gwirfoddolwyr neu’r rhai maent yn eu cefnogi.

“I gael gwybod sut beth fyddai rhaglen Hyrwyddwyr Digidol i’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, llenwch y ffurflen gysylltu hon neu e-bostiwch digitalcommunities@cwmpas.coop”.