Neidiwch i’r prif gynnwys

Grŵp Llywio Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn croesawu aelodau newydd

Mae Grŵp Llywio CCDC yn falch Iwn o gyflwyno ei hyrwyddwyr cynhwysiant digidol diweddaraf sydd wedi ymuno â’n grŵp llywio pwrpasol. Gydag ymrwymiad i bontio’r rhaniad digidol, mae’r unigolion hyn yn dod â safbwyntiau newydd, syniadau arloesol, a brwdfrydedd a rennir dros sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl yn yr oes ddigidol. Yn y blog hwn, byddwn yn rhannu eu cefndiroedd amrywiol a’u cyfraniadau unigryw i’n cenhadaeth i feithrin byd digidol mwy cynhwysol a chysylltiedig.

Scott Tandy, Cymdeithas Tai Newydd

photo scott

Mae Scott Tandy yn arloeswr digidol sy’n gweithio fel Swyddog Cynhwysiant Digidol yng Nghymdeithas Dai Newydd, sef cymdeithas dai elusennol sy’n darparu 3,000 o gartrefi fforddiadwy i’w rhentu a’u gwerthu i bobl mewn angen yng Nghymru. Mae’n angerddol am ddefnyddio technoleg i wella bywydau pobl a chymunedau, yn enwedig ym meysydd tai, iechyd, addysg a chyflogaeth. Ymunodd ef â Grŵp Llywio Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru oherwydd ei fod eisiau cyfrannu at gyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth y Gynghrair, yn ogystal â dysgu oddi wrth sefydliadau eraill sy’n gweithio ar gynhwysiant digidol yng Nghymru a chydweithio â nhw.

Sion Wyn Evans, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

photo sion

Sion Wyn Evans yw Arweinydd Polisi ac Ymarfer Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (CPHC).  Mae’r rôl yn cynnwys arwain ar y meysydd polisi allweddol sy’n gysylltiedig â’r wyth maes sy’n ystyriol o oedran, rhannu arfer da i wella profiadau i bobl hŷn a datblygu a chynnal perthnasoedd â phobl hŷn a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Mae Sion hefyd yn arwain ar ddatblygu a rheoli ‘Cymuned Ymarfer’ ddeinamig, gan annog a galluogi aelodau i ddysgu oddi wrth ei gilydd, rhannu arfer da a chyfrannu at y mudiad datblygol sy’n ystyriol o oedran yng Nghymru.

Roedd Sion eisiau ymuno â’r Grŵp Llywio oherwydd bod OPCW wedi bod yn rhan o faterion amrywiol yn ymwneud â Chynhwysiant Digidol. Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd CPHC ganllawiau i awdurdodau lleol a byrddau iechyd o dan Adran 12 Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru). Mae’r canllawiau’n nodi beth sydd angen ei gyflawni gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol, a bod hawliau pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u cynnal. Ynghyd â’r canllawiau, cafwyd profforma yn gofyn am wybodaeth am weithredu yn y maes hwn ac ymatebodd pob awdurdod lleol a bwrdd iechyd.

Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd CPHC ‘Mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol: Crynodeb o ymatebion gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd’ yn seiliedig ar y profformas a lenwyd.  Ers yr adroddiad hwn, mae materion a phryderon am allgáu digidol a godwyd gyda CPHC gan bobl hŷn wedi cynyddu. Mae gwaith pellach yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gasglu profiadau pobl hŷn, gan ganolbwyntio’n benodol ar gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Bydd hyn yn rhoi mewnwelediad o safbwynt pobl hŷn.

Fadhili Maghiya, Sub-Sahara Advisory Panel

photo Fadhili

Fadhili yw Prif Swyddog Gweithredol Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP), sef rhwydwaith o gymunedau Affricanaidd yng Nghymru sy’n cyfrannu at ddatblygu cymunedol yng Nghymru ac Affrica. A chanddi gefndir yn y Gwyddorau Cymdeithasol a Hawliau Dynol, mae Fadhili hefyd wedi gweithio i dribiwnlys y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Rwanda (UNICTR) cyn symud i Gaerdydd yn 2013 i weithio i SSAP.

Mae Fadhili hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol Watch-Africa CIC, sef menter gymdeithasol sy’n gweithio yn y sector creadigol. Mae’n Gydymaith Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru, yn gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac yn aelod o bwyllgor Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

A hithau’n gefnogwr Clwb Pêl-droed Arsenal, mae Fadhili yn mwynhau gwylio a chwarae pêl-droed, darllen a dadl frwd!

Gallwch weld y rhestr lawn o aelodau'r Grŵp Llywio yma.