Neidiwch i’r prif gynnwys

Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yw’r sefydliad ariannol cyntaf i arwyddo’r Siarter Cynhwysiant Digidol

A couple sit looking at a laptop

Mae’r cydweithrediad arloesol hwn yn nodi Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy fel y sefydliad ariannol cyntaf i gofleidio’r Siarter Cynhwysiant Digidol yn llwyr, gan gadarnhau ei hymroddiad i gynyddu cynhwysiant digidol yn y sector ariannol.

Mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gyda sefydliadau i eiriol dros rymuso digidol, gan sicrhau bod gan bawb, waeth beth fo’u cefndir, fynediad cyfartal i’r byd digidol. Mae’r Siarter Cynhwysiant Digidol yn bodoli i gefnogi a hyrwyddo sefydliadau sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector yng Nghymru, sy’n barod i hyrwyddo sgiliau digidol sylfaenol a helpu pobl i fynd ar-lein. Mae’r Siarter yn cynnwys chwe addewid ac mae’n ffordd i sefydliadau ddangos eu hymrwymiad i helpu pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i fwynhau’r manteision o fod ar-lein. Trwy lofnodi’r Siarter Cynhwysiant Digidol, mae Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn ymrwymo i uwchsgilio ei chydweithwyr a’i haelodau, gan eu harfogi â’r sgiliau digidol sydd eu hangen i ffynnu mewn cymdeithas gynyddol ddigidol.

Mynegodd Eve Wilkins, Prif Swyddog Cwsmeriaid Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, ei brwdfrydedd dros y bartneriaeth drawsnewidiol hon gan nodi, “Rydyn ni’n credu bod cynhwysiant ariannol yn mynd law yn llaw â chynhwysiant digidol. Drwy ymuno â Chymunedau Digidol Cymru, rydyn ni’n cymryd camau sylweddol tuag at greu tirwedd ariannol fwy hygyrch a chynhwysol yng Nghymru. Ein nod yw grymuso ein cydweithwyr a’n haelodau gyda’r wybodaeth a’r offer sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn llywio’r byd digidol yn hyderus.”

Bydd Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn cychwyn ar raglen gynhwysfawr gyda’r nod o uwchsgilio ei gweithlu a darparu adnoddau gwerthfawr i’w haelodau. Bydd y mentrau’n cynnwys hyfforddiant llythrennedd digidol, gweithdai, gweminarau a mynediad at offer ac adnoddau digidol a fydd yn galluogi cydweithwyr ac aelodau i gofleidio buddion bancio digidol yn ddiogel.

Dywedodd Louise Niblett, Rheolwr Dysgu a Datblygu, “Mae’n gyfnod cyffrous i’r Gymdeithas wrth i ni ddatblygu a pharatoi i lansio mwy o wasanaethau digidol i’n haelodau. Rydyn ni am sicrhau bod gan bob cydweithiwr fynediad at yr hyfforddiant, yr offer a’r adnoddau cywir hefyd, fel ein bod i gyd yn gyfforddus ag unrhyw newidiadau i’n ffyrdd o weithio.”

Wrth i’r diwydiant ariannol barhau i esblygu yn yr oes ddigidol, mae Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy wedi ymrwymo i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Drwy groesawu’r Siarter Cynhwysiant Digidol, mae’r Gymdeithas yn cymryd camau sylweddol tuag at greu amgylchedd ariannol mwy cynhwysol a digidol hygyrch i bawb.

Wrth ymateb, dywedodd Matthew Bevan, Cynghorydd Cynhwysiant Digidol yn Cymunedau Digidol Cymru, “Mae’n wych bod Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy wedi llofnodi’r Siarter Cynhwysiant Digidol sy’n dangos eu hymrwymiad i gynhwysiant digidol. Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda nhw i sicrhau bod eu cydweithwyr a’u haelodau yn gallu dysgu sgiliau digidol newydd a chael mynediad at y gwasanaethau ar-lein sydd eu hangen arnynt“.

Gwahoddir sefydliadau o bob maint yng Nghymru i lofnodi’r Siarter Cynhwysiant Digidol i ddangos eu hymrwymiad i helpu pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i fwynhau’r manteision o fod ar-lein. Ar ôl i sefydliad lofnodi’r Siarter, mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gyda llofnodwyr i ddatblygu a chyflawni eu hymrwymiadau drwy broses achredu’r Siarter. Llofnodwch y Siarter neu gysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy.