Neidiwch i’r prif gynnwys

Canolfan Datblygu Cymunedol De Glanyrafon: Adeiladu hyder drwy lythrennedd digidol

SRDC hands using laptop

Y Tiwtor Cymorth Digidol Islah Hamad sy’n rhannu sut mae Canolfan Datblygu Cymunedol De Glanyrafon (SRCDC) yn cefnogi menywod o gymunedau ethnig leiafrifol i fagu hyder a gwella eu sgiliau digidol er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd gan y rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol i’w gynnig.

Mae Islah wedi bod yn gwirfoddoli gydag SRCDC mewn gwahanol rolau dros y blynyddoedd, gan gynnwys cefnogi cyfieithu a dehongli. I ddechrau roedd SRCDC yn rhan o Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles a’u rhaglen beilot Cymunedau Cysylltiedig Digidol yn 2022. Nodau’r rhaglen oedd mynd i’r afael â’r rhwystrau unigryw sy’n wynebu cymunedau ethnig leiafrifol i fynd ar-lein, drwy gefnogi’r cymunedau hyn i fanteisio ar bopeth sydd gan ddigidol i’w gynnig. Trwy weithio gyda sefydliadau fel SRCDC, roedd y rhaglen yn ceisio creu cyfleoedd teg a chyfartal i’r cymunedau hyn fel y gallent fwynhau manteision bod ar-lein.

Hyrwyddwr Cymunedol: Islah Hamad

Ar ôl mynychu Cwrs Sgiliau Digidol Hanfodol SRCDC, a gyflwynwyd gan Cymunedau Digidol Cymru, roedd Islah wedi cynnig ei hun i gefnogi menywod eraill yn y cymunedau lleol i wella eu sgiliau digidol. Trwy gefnogaeth, arweiniad ac adnoddau gan Cymunedau Digidol Cymru, yn ogystal â phrofiad a gwybodaeth ddigidol Islah ei hun, mae hi’n cyflwyno sesiynau digidol wythnosol rheolaidd trwy lechi a chyfrifiaduron bwrdd gwaith yn eu hystafelloedd TG.

Meddai Islah: “Sylweddolais fod gan lawer o fenywod a oedd yn mynychu’r sesiynau hyn rywfaint o brofiad o ddefnyddio WhatsApp i gyfathrebu ond yn anffodus, doedd ganddyn nhw ddim cyfeiriadau e-bost a doedden nhw ddim yn gwybod llawer am sut i’w defnyddio. Mae cael cyfeiriad e-bost a gallu ei ddefnyddio yn bwysig iawn i bobl, gan fod angen cyfeiriad e-bost wrth agor cyfrif boed hynny ar gyfer siopa ar-lein neu fynd i rannau o wefan y cyngor lleol. Yn ogystal, trwy ein sesiynau rydyn ni wedi gallu tywys menywod i ddefnyddio rhai o swyddogaethau sylfaenol e-bost h.y. creu, derbyn, ac ychwanegu atodiadau.”

Cyflwyno Sgiliau Digidol Hanfodol

Mae SRCDC yn hanfodol o safbwynt helpu’r cymunedau yn ardaloedd Grangetown, Glanyrafon a Threganna yng Nghaerdydd, lle mae gweithgareddau a rhaglenni amrywiol yn cael eu darparu. Wrth i Islah gyflwyno’r Cwrs Sgiliau Digidol Hanfodol i fenywod yn ei sesiynau, mae wedi rhoi’r cyfle i bobl ennill sgiliau a gwybodaeth am gyfathrebu, datrys problemau, dod o hyd i wybodaeth, trafod a bod yn ddiogel ar-lein.

Eglura Islah: “Mae adnoddau’r Cwrs Sgiliau Digidol Hanfodol wedi rhoi’r sylfaen i mi ymdrin â phynciau digidol hanfodol. Atgyfnerthwyd hyn ymhellach drwy gyflwyno’r platfform dysgu ar-lein ‘Learn My Way‘ – gan ddefnyddio ei fideos fel canllaw i bobl eu dilyn. Mae gan Cymunedau Digidol Cymru hefyd fideo clir a syml ar sut i greu cyfeiriad e-bost, ac mae e wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol.

Mae hefyd yn bwysig clywed gan y grŵp am eu hanghenion nhw. Er enghraifft, mae llawer o’r menywod yn rhieni ac roedd angen help llaw ac arweiniad arnyn nhw wrth iddyn nhw lywio apiau fel Seesaw a SIMS er mwyn sicrhau y gallen nhw gadw i fyny gyda gweithgareddau ysgol eu plant.”

Ennill profiad a datrys problemau

Mae Islah yn ymwybodol bod mwy o wasanaethau wedi mynd ar-lein dros y blynyddoedd ac mae’n bwysig nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl. Gall fod yn frawychus i rywun heb sgiliau digidol neu hyder efallai i ymgysylltu’n ddiogel ac yn hyderus â gwasanaethau ar-lein.

Eglura Islah: Mae llenwi ffurflenni ar-lein yn dipyn o her i lawer o fenywod rydyn ni’n ymgysylltu â nhw. Mae rhoi’r cyfle iddyn nhw wella eu sgiliau teipio gan ddefnyddio ein bwrdd gwaith a Microsoft Word ac mae mynd dros lawer o’r ffurflenni ar-lein wedi rhoi’r hyder iddyn nhw, wedi lleddfu eu pryderon a lleihau eu dibyniaeth ar eraill i lenwi ffurflenni ar eu rhan. Mae hon yn sgil bwysig arall sy’n ofynnol ar gyfer pobl yn ein cymunedau, yn enwedig gan ein bod wedi gweld mwy o wasanaethau’n mynd ar-lein dros y ddwy i dair blynedd diwethaf.”

Mae datrys problemau yn bwnc allweddol sy’n cael sylw yng Nghwrs Sgiliau Digidol Hanfodol Cymunedau Digidol Cymru. Mae’r sesiwn yn cefnogi pobl i ddefnyddio’r rhyngrwyd er mwyn datrys problemau trwy ddefnyddio peiriannau chwilio, sgwrsio ar y we, Cwestiynau Cyffredin, tiwtorialau ar-lein, a fforymau. Gall gwybod sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd i ddatrys problemau rymuso pobl i ddatrys eu problemau ar eu pen eu hunain; yn aml gall arbed amser a fyddai fel arall yn cael ei dreulio ar y ffôn gyda chwmni neu hyd yn oed arbed arian trwy ddatrys problemau yn y cartref. Yn y pen draw, mae atebion a datrysiadau cyflym ar gael trwy’r rhyngrwyd.

Meddai Islah: “Rydyn ni’n gweld menywod yn mynychu ein sesiynau bellach sy’n sylweddoli y gall Google ac YouTube helpu i ddatrys gwahanol fathau o broblemau. Yn ogystal, mae’r cyflwyniad i Google Maps yn helpu menywod i ddod o hyd i amseroedd bysiau a threnau, gan ganiatáu iddyn nhw nawr ymweld â’r SRCDC yn amlach i gael mynediad at ein gwasanaethau. ”

Effaith drawsnewidiol Hyfforddiant Sgiliau Digidol

Ychwanegodd Islah: “Mae’r menywod sydd wedi cael cefnogaeth yn llawer mwy hyderus a phrofiadol nawr. Mae menywod yn dechrau cysylltu â’n canolfan drwy e-bost a doedden nhw ddim yn gallu gwneud hynny o’r blaen. Does dim angen cymaint o gymorth arnyn nhw ag o’r blaen gan eu bod nhw wedi dysgu sut i wneud llawer o’r tasgau eu hunain nawr. Rydyn ni’n rhagweld y gellir trosglwyddo unrhyw sgiliau a gwybodaeth sydd wedi’u hennill i eraill yn eu cylchoedd, boed hynny’n deulu neu’n ffrindiau. Roedd y Cwrs Sgiliau Digidol Hanfodol a fynychais, dan ofal Hyfforddwyr Cymunedau Digidol Cymru, yn hynod fuddiol gan ei fod yn rhoi sylw i’r hyn y mae menywod yn y gymuned eisiau ei ddysgu.”

Mae Nilufa a Jegaseeli, a fu’n cymryd rhan yn y rhaglen, wedi rhannu rhai o’u teimladau am eu taith ddigidol, gan dynnu sylw at hyder o’r newydd a hyfedredd ar-lein.

Nilufa: “Dwi wedi gwella pa mor ddiogel ydw i ar-lein. Dwi’n gallu darganfod sut i ddatrys problemau a dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar-lein.”

Jegaseeli: “Dwi wedi dysgu sut i anfon negeseuon e-bost a defnyddio’r cyfrifiadur. Dwi wedi creu cyfeiriad e-bost gyda chyfrinair. A dwi wedi dysgu sut i ddefnyddio’r bysellfwrdd, gan gynnwys sut i deipio llythyrau.”

Meddai Mohammed Basit, Ymgynghorydd Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru ar gyfer Cymunedau Ethnig Leiafrifol, gan gyfeirio at y gwaith y mae Islah ac SRCDC yn ei wneud: “Mae’n wych gweld Islah yn parhau i gefnogi menywod yn y gymuned leol gyda chymorth digidol ar ôl iddi fynychu hyfforddiant Cymunedau Digidol Cymru i ddechrau. Gall ei chefnogaeth a’i harweiniad wneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer o unigolion sy’n gysylltiedig â’r SRCDC, gan roi’r sgiliau a’r hyder iddyn nhw allu elwa ar yr hyn sydd gan offer digidol a’r rhyngrwyd i’w gynnig.

“Mae gan gynhwysiant digidol botensial mawr i rymuso cymunedau ethnig leiafrifol yng Nghymru, hyrwyddo eu twf economaidd-gymdeithasol, annog cyfnewid diwylliannol, a chryfhau cydlyniant cymdeithasol. Trwy gofleidio technolegau digidol a sicrhau mynediad cyfartal, gall Cymunedau Digidol Cymru, cymunedau, sefydliadau a phartneriaid gydweithio i bontio’r rhaniad digidol a chreu cymdeithas gynhwysol sy’n gwerthfawrogi ac yn cefnogi cymunedau ethnig amrywiol.”

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth cynhwysiant digidol ar gyfer cymunedau ethnig leiafrifol yng Nghymru, cefnogaeth, neu hyd yn oed dim ond sgwrs, cysylltwch â Mohammed, drwy e-bostio mohammed.basit@cwmpas.coop neu ffoniwch 07824 035880.